Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (13 Gorffennaf)

 

06/07/20 - Grace fach yn Stopio Sbwriela!

Gofynnwch i blentyn 9 oed beth a hoffai ei gael i'w ben-blwydd neu'r Nadolig ac mae'n debyg o ofyn am degan technolegol neu hwyl (a swnllyd!).

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24260.html

 

07/07/20 - Hwb adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i Tudor Street

Bydd Tudor Street yng Nghaerdydd yn elwa ar raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o greu ardal siopa ddeniadol a bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr ag ardal Glan yr afon.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24278.html

 

07/07/20 - Annwyl Dyddiaduron Y Diff: Yn ôl i'r ysgol â phlant a phobl ifanc y ddinas

Mae plant a phobl ifanc ledled y ddinas yn cael eu hannog i gofnodi eu pennod nesaf ym mhroject Dyddiaduron Y Diff - dychwelyd i'r ysgol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24282.html

 

07/07/20 - Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan Newydd sydd bellach ar agor

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar Gais Cynllunio i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn agor heddiw, dydd Mawrth 7 Gorffennaf a gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24284.html

 

09/07/20 - Gochelwch rhag y Cowbois Gwastraff - gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Gyda chasgliadau gwastraff bob pythefnos yn ail-ddechrau o ddydd Llun 6 Gorffennaf, rydym bron â bod yn cynnal yr un gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ag a gafwyd cyn y pandemig Coronafeirws*.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24299.html

 

09/07/20 - Gallai busnesau ddefnyddio mannau digwyddiadau awyr agored Caerdydd sy'n edrych am safleoedd lle gellir cadw pellter cy

Gallai dosbarthiadau Zumba ym Mharc Bute, pwysau cloch ar y lawnt yng Ngerddi Sophia neu ymarfer côr ar y morglawdd i gyd fod yn rhan o'ch haf wedi'r cloi - os bydd cynlluniau'n mynd rhagddynt i agor rhai o brif fannau digwyddiadau awyr agored Caerdydd i fusnesau lleol sy'n profi trafferthion wrth geisio cynnal gweithgaredd yn eu hadeiladau dan do arferol, yn sgil Covid-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24301.html

 

09/07/20 - Cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gyda chymorth Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Caiff Cabinet Cyngor Caerdydd y newyddion diweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol i gynorthwyo cyflwyno Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd, yn ei gyfarfod ddydd Iau 16 Gorffennaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24306.html

 

10/07/20 - Bridiwr cŵn anghyfreithlon yn pledio'n euog

Cafodd Anton Boston, 26, o Drelái yng Nghaerdydd ei gollfarnu am fridio cŵn yn anghyfreithlon ac am dwyll yn Llys Ynadon Caerdydd ar 3 Gorffennaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24316.html

 

10/07/20 - Diogelwch yn gyntaf wrth i'r gwaith ddechrau ar ailagor Ardaloedd Chwarae Plant Caerdydd

Mae gwaith wedi dechrau i sicrhau bod ardaloedd chwarae plant a chyfarpar ffitrwydd awyr agored ym Mharciau Caerdydd yn ddiogel i'w defnyddio, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bodd modd iddyn nhw bellach ailagor i'r cyhoedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24318.html

 

10/07/20 - Dim Troi Nôl: Gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd

Mae gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y dyfodol yng Nghaerdydd sy'n nodi trywydd newydd ar gyfer gwasanaethau llety a chymorth yn y ddinas wedi ei chyhoeddi.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24325.html

10/07/20 - Tasglu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghyfiawnder mae cymunedau BAME Caerdydd yn eu hwynebu

Mae'n bosibl y caiff tasglu â'r nod o daclo anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol yng Nghaerdydd ei sefydlu yr haf hwn gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24323.html