10/7/20
Mae gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y dyfodol yng Nghaerdydd sy'n nodi trywydd newydd ar gyfer gwasanaethau llety a chymorth yn y ddinas wedi ei chyhoeddi.
Mae model newydd y Cyngor yn cydymffurfio i raddau helaeth â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar wasanaethau i'r digartref ac mae'n ceisio adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed eisoes yn cefnogi pobl oddi ar y strydoedd. Nod y cynigion yma yw ceisio gwella gwasanaethau i ddiwallu anghenion cleientiaid yn well ac adeiladu ar yr ymateb cyflym i bandemig y Coronafeirws gydag ymagwedd 'Dim Troi Nôl' i gefnogi unigolion sy'n agored i niwed.
Mae elfennau allweddol y weledigaeth newydd yn cynnwys canolfan asesu 24 awr newydd, dod â gwasanaethau i'r ddigartref ac iechyd gyda'i gilydd ar y safle, a llety mwy arbenigol, er mwyn sicrhau bod gan unigolion ddarpariaeth â chymorth o ansawdd da er mwyn helpu i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.
Mae ymagwedd newydd tuag at ddarparu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd digartref sy'n ddigartref hefyd wedi'i nodi mewn adroddiad i'w ystyried gan y Cabinet ddydd Iau, 16 Gorffennaf.
Bydd y Cabinet yn clywed am y cynnydd a wnaed gan wasanaethau yn ystod argyfwng COVID-19, y mesurau cyflym a roddwyd ar waith i letya cleientiaid sy'n agored i niwed yn ddiogel a'r camau a gymerwyd eisoes i sicrhau llety parhaol ychwanegol fel rhan o gynlluniau tymor hwy y Cyngor i fynd i'r afael â digartrefedd.
Bydd canolfan asesu newydd, lle bydd anghenion cleient yn cael eu deall yn iawn a datrysiad priodol yn cael ei ddatblygu, ynghyd â llety argyfwng ar y safle, yn ganolbwynt i'r weledigaeth newydd hon. Bydd y Ganolfan yn dod yn bwynt cydgysylltu ar gyfer gwasanaethau anghenion cymhleth amlddisgyblaethol y ddinas gan gynnwys allgymorth stryd a hostel a bydd yn darparu atgyfeiriadau i gleientiaid gael eu hailgartrefu mewn llety hunangynhwysol o ansawdd da mewn lleoliad â chymorth, gan ddibynnu ar lefel eu hanghenion.
Amlinellir cynlluniau ar gyfer llety gwell yn yr adroddiad. Mae cynlluniau ar y gweill fel bod cyfleuster sy'n bodoli eisoes yn Adamsdown, ac sy'n darparu llety dros dro i deuluoedd digartref ar hyn o bryd, yn canolbwyntio o'r newydd ar ddatblygu cyfleuster integredig o tua 103 o unedau hunangynhwysol gyda chymorth dwys, fel gwasanaethau iechyd a therapiwtig ar y safle. Bydd fflatiau ychwanegol ar gael fel rhan o'r cynllun ar gyfer llety mwy sefydlog tymor hwy.
Mae hyn yn ychwanegol at lety ychwanegol sydd eisoes yn y ddinas yn Llanrhymni, a bloc tai myfyrwyr Uned 42 ar Heol Casnewydd i ateb y galw cynyddol.
Mae ailgartrefu'n gyflym a Thai yn Gyntaf hefyd yn rhan bwysig o'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y dyfodol yng Nghaerdydd, gan sicrhau y gall pobl ddigartref symud i lety parhaol cyn gynted â phosibl.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae cael y llety iawn gyda'r cymorth cywir yn hanfodol i allu helpu pobl i weddnewid eu bywydau.
"Mae'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn ystod y pandemig wedi profi hynny ac rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, ac yn arbennig i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, am ei hymrwymiad personol i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru ac am yr arian ychwanegol, sy'n sylweddol uwch na'r hyn a ddarperir i awdurdodau lleol yn Lloegr, i gefnogi ein hymdrechion.
"Gyda llety hunangynhwysol, gwasanaethau cymorth ar y safle a llawer o gleientiaid yn aros y tu mewn, rydym wedi cael cyfle heb ei ail i weithio gyda'r rhai oedd am gamu i ffwrdd o batrwm bywyd ar y stryd, gyda llawer yn ymgysylltu â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau am y tro cyntaf.
"Roeddem yn gwybod o'n hadolygiad strategol a oedd ar y gweill cyn yr argyfwng mai dyma'r ffordd ymlaen a sut roeddem am ddatblygu ein darpariaeth yn y dyfodol. Yn ymarferol, mae'r dull hwn wedi ein galluogi i ymgysylltu yn fwy nag erioed o'r blaen â mwy o bobl, llawer ohonynt ag anghenion cymhleth iawn.
"Rydyn ni wedi dod yn bell a bydd y weledigaeth newydd hon yn mynd â ni ymhellach eto i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi'r cyfle gorau i bobl sy'n agored i niwed symud i ffwrdd gan aros oddi ar y strydoedd yn barhaol."
Mae'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol hefyd yn cynnwys ail-lunio gwasanaethau i deuluoedd gan ganolbwyntio ar greu tair canolfan ar gyfer digartrefedd teuluol yn Rhos Fid Foel ar Heol y Gogledd, Harrison Avenue, Llaneirwg a'r Gwaith Nwy, Grangetown.
Bydd pob un o'r tair canolfan yn cynnig llety teuluol o ansawdd da gyda staff ar y safle yn ystod y dydd a darpariaeth arall megis gwasanaethau cymorth cynnar i deuluoedd, ymweliadau iechyd a chymorth rhianta.
Bydd adroddiad yr wythnos nesaf yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract uniongyrchol i ddarparu'r unedau llety dros dro, drwy ddatrysiad adeiladu modiwlaidd, ar safle'r Gwaith Nwy.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno i fod yn gynllun peilot ar gyfer cynllun Llywodraeth Cymru i brydlesu'n uniongyrchol o'r sector rhentu preifat, sy'n darparu 66 eiddo ar gyfer teuluoedd digartref gyda phrydles pum mlynedd sy'n rhoi mwy o sefydlogrwydd yn y tymor canolig.