Back
Cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gyda chymorth Model Buddsoddi Cydfuddiannol

10/07/20

Caiff Cabinet Cyngor Caerdydd y newyddion diweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol i gynorthwyo cyflwyno Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd, yn ei gyfarfod ddydd Iau 16 Gorffennaf.

Cynllun cenedlaethol yw'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a ddatblygwyd i fenthyca arian drwy'r sector preifat er mwyn dylunio ac adeiladu ysgolion, a chynnal adeiladwaith yr adeiladau dros gyfnod o 25 mlynedd.

Mae'r Cyngor wedi cytuno i Gytundeb Partneriaeth Strategol 10 mlynedd gyda menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a phartner y sector preifat, Meridiam Investments II SAS, i ddarparu ysgolion yn y dyfodol, gan gynnwys, mewn egwyddor, Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Cathays.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Cyngor yn parhau i archwilio gwahanol ffyrdd o ariannu a darparu addysg a chyfleusterau cymunedol modern o ansawdd uchel ar gyfer y ddinas. Mae Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol yn ffordd newydd o gyflwyno ysgolion, ac os caiff ei ddatblygu, bydd yn ffordd gyffrous o weithio'n gydweithredol a fydd yn darparu cyfleusterau addysg a cymunedol modern o safon, gan ddiwallu anghenion lleol yng Nghaerdydd."

Wrth ddatblygu ei raglen amlinellol ar gyfer Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, rhoddodd y Cyngor flaenoriaeth i restr o brojectau a chynlluniau. Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Cathays mewn cyflwr categori D, sy'n golygu eu bod yn nesáu at ddiwedd eu hoes weithredol a bod y ddau gynllun yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer eu cynnwys fel cynllun Model Buddsoddi Cydfuddiannol, fel y nodir isod:

 

  • Gellid ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows naill ai fel ysgol 11-16 ag 8 dosbarth mynediad neu ar y cyd â darpariaeth gynradd newydd.

 

  • Y bwriad ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays yw iddi fod yn gynllun ailadeiladu i greu ysgol 11-18 sy'n ehangu o 6 dosbarth mynediad i 8 dosbarth mynediad gyda 6ed dosbarth.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Bydd Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Cathays yn cael cyfleusterau modern o'r ansawdd gorau, gan sicrhau bod disgyblion yn manteisio ar yr amgylchedd dysgu o'r safon orau yn ogystal â sicrhau cyfleusterau hamdden rhagorol y gall y gymuned gyfan elwa arnynt."

I gael rhagor o wybodaeth am Gytundeb Partneriaeth Strategol Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru, ewch i:
https://llyw.cymru/y-model-buddsoddi-cydfuddiannol-ffurflen-safonol-ar-gyfer-cytundeb-prosiect-addysg 

Mae copi llawn o'r adroddiad ar gael i'w ddarllen ar-lein yn:
www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd