Back
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan Newydd sydd bellach ar agor

7/7/2020 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar Gais Cynllunio i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn agor heddiw, dydd Mawrth 7 Gorffennaf a gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn.

Os bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen, bydd yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn cynrychioli buddsoddiad £63.5 miliwn yn y gymuned leol a byddai'n gweld ysgol newydd yn cymryd lle'r ysgol bresennol ar dir ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna'r ddinas. 

Byddai'n 10 dosbarth mynediad, gyda lle i hyd at 1,500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth. Byddai'r ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd, fydd yn cymryd lle y pwll nofio presennol sy'n cael ei ddefnyddio eisoes yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Bydd y cyfleusterau hyn a rhai eraill yn yr ysgol ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae datblygiad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn y gymuned leol. Bydd yn cynnig cyfleusterau modern ac amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf i ddisgyblion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r gymuned leol fanteisio ar amwynderau modern a rhagorol.

"Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn y datblygiad ac yn rhoi cyfle i randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd ddweud eu dweud ar y project cyffrous hwn a gyflawnir yn rhan o Fand B Rhaglen Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284 miliwn."

Mae'r cynnig yn gwneud cais am Ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer y canlynol:

  • Codi adeilad ysgol uwchradd 3 llawr i ddarparu lleoedd i 1850 o ddisgyblion
  • Pwll nofio cymunedol newydd
  • Darparu 2 AChA
  • Darparu 1 cae 3G rygbi/pêl-droed
  • Darparu 1 cae hoci/pêl-droed dan 16 oed
  • Maes parcio i staff (47 o fannau parcio) a maes parcio i ymwelwyr (24 man gan gynnwys 8 lle i bob anabl)
  • Ardaloedd chwarae arwyneb galed a meddal

 

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am bedair wythnos a bydd yn cau arAwst 4, 2020.

I rannu'ch barn ewch i:http://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/fitzalan