Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (6 Gorffennaf)


29/06/20 - Ail-agorodd ysgolion yng Nghaerdydd heddiw

Gwelodd Caerdydd 6,600 blant a phobl ifanc yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth heddiw, wrth i ysgolion y ddinas ailagor ar gyfer yr 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 3 Mehefin.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24202.html

 

30/06/20 - Beth am flasu Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd o garreg eich drws?

Bob blwyddyn, daw mwy na 100 o gynhyrchwyr crefftus, masnachwyr bwyd annibynnol a gwerthwyr bwyd stryd i osod stondinau ym Mae Caerdydd ar benwythnos cyntaf mis Gorffennaf ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24206.html

 

30/06/20 -Strategaeth ddatblygu newydd a "datganiad cyhoeddus" o ymrwymiad i weddnewid cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd

Cafodd cynllun dwy flynedd ei gyhoeddi heddiw i weddnewid cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd. Mae "Ein Dyfodol ni i Gyd" - y Strategaeth Datblygu Cyfiawnder Ieuenctid (2020 i 2022), wedi'i lofnodi gan uwch aelodau o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, sef y corff sy'n dod â'r holl bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus strategol sy'n gweithio yng Nghaerdydd at ei gilydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24209.html

 

01/07/20 - COVID-19: Cymorth digidol i athrawon Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi'r offer digidol diweddaraf i bob athro yng Nghaerdydd i'w helpu i ddarparu dysgu ar-lein a chyfunol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24225.html

 

02/07/20 - Hyb Llanisien a Hybiau Ystum Taf a Gabalfa i ailagor

Bydd Hyb Ystum Taf a Gabalfa a Hyb Llanisien yn ailagor i gwsmeriaid, ar sail apwyntiadau'n unig (heblaw am achosion brys) ddydd Llun 6 Gorffennaf. Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu gwyrdd heb drefnu apwyntiad hefyd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24241.html

 

03/07/20 - Cyflawni cyfradd ailgylchu a chompostio o 93% yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd

Mae'r gyfradd ailgylchu a chompostio yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd wedi cynyddu o leiaf 10% ers i'r cyfnod cloi gael ei lacio.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24250.html

 

03/07/20 - 'Wrth fy modd yn ôl a phawb o gwmpas yn gwenu'; Ysgolion Caerdydd yn derbyn adborth cadarnhaol ar ôl yr wythnos gyntaf

Canmolwyd ysgolion o bob rhan o Gaerdydd yr wythnos hon wrth iddynt ail-agor eu drysau i groesawu disgyblion yn ôl i'r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24254.html