Back
Hyb Llanisien a Hybiau Ystum Taf a Gabalfa i ailagor

 

2/7/20
Disgwylir i ddau hyb cymunedol arall agor eu drysau yr wythnos nesaf yn rhan o'r broses o ailddechrau gwasanaethau yn hybiau'r ddinas yn raddol.

 

Bydd Hyb Ystum Taf a Gabalfa a Hyb Llanisien yn ailagor i gwsmeriaid, ar sail apwyntiadau'n unig (heblaw am achosion brys) ddydd Llun 6 Gorffennaf. Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu gwyrdd heb drefnu apwyntiad hefyd.

 

Bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio'r gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn y ddau hyb hyn, yn ogystal ag ystod o wasanaethau cyngor megis y Gwasanaeth i Mewn i Waith, tai, budd-daliadau a chyngor ariannol, lle na ellir delio gydag ymholiadau dros y ffôn neu dros e-bost.

 

Felly gyda'r ddau hyb hyn yn agor, gan ymuno â Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, Hyb Trelái a Chaerau a The Powerhouse sydd wedi aros ar agor ar gyfer apwyntiadau ac achosion brys yn unig, mae chwe hyb yn y ddinas bellach ar agor. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae hybiau Caerdydd yn gyfleusterau cymunedol pwysig ac mae ein pedwar hyb craidd sydd wedi aros ar agor trwy gydol argyfwng y Coronafeirws wedi chwarae rhan hanfodol yn ymateb y ddinas i'r pandemig.

 

"Ar ôl cyflwyno gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn yr hybiau craidd y mis diwethaf, rwy'n falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gynnig y gwasanaeth hwnnw a gwasanaethau cyngor a chymorth eraill ar sail apwyntiadau'n unig yn Hyb Llanisien a Hyb Ystum Taf o'r wythnos nesaf.

"Mae diogelwch cwsmeriaid a staff yn hollbwysig wrth i ni weithio tuag at ailddechrau gwasanaethau ac er ei bod yn bwysig cofio nad yw'r cyfleusterau hyn yn gwbl weithredol eto, mae hyn yn gam arall yn y cyfeiriad cywir.

 

Bydd cymorth datrysiadau tai ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Hyb Ystum Taf a Hyb Gabalfa (9am - 6pm) a Hyb Llanisien (9am - 5pm).  Bydd y Tîm Cyngor Ariannol ar gael ar ddydd Llun, 9am - 1pm, yn Ystum Taf a Gabalfa a 2pm - 5pm yn Llanisien.

 

Gall cwsmeriaid gael cyngor i Mewn i Waith ar ddydd Llun ac ar ddydd Mawrth (9am - 5pm) yn Ystum Taf a Gabalfa ac ar ddydd Iau (9am - 5pm) yn Llanisien. Rhaid i gwsmeriaid drefnu apwyntiadau ymlaen llaw ar gyfer yr holl wasanaethau hyn trwy ffonio Llinell Gyngor y Cyngor ar 029 2087 1071 neu drwy e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Hefyd rhaid gwneud apwyntiad i gasglu a dychwelyd llyfrau ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu.

Gall cwsmeriaid archebu teitlau neu ddetholiad o lyfrau sy'n seiliedig ar eu diddordebau a'u hoff genres ar gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd (https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/card_en) neu drwy ffonio llinell ffôn y llyfrgell (029 2087 1071, opsiwn 2).

 

Bydd staff yn cadarnhau slot amser i gasglu llyfrau o'r hyb, ac mae angen dychwelyd y llyfrau i'r un hyb trwy apwyntiad yn unig.

 

Gall cwsmeriaid barhau i fanteisio ar ystod eang o adnoddau llyfrgell digidol megis e-lyfrau, e-lyfrau sain, e-gylchgronau a phapurau newyddion ar eu dyfeisiau eu hunain ar y catalog llyfrgell yn ogystal ag amseroedd odli, clybiau llyfrau, cwisiau a gweithgareddau'r cyfnod cloi i blant ar wefan y Cyngor. Mae clybiau swyddi, sesiynau iechyd a lles a dysgu i oedolion hefyd wedi'u sefydlu'n ddigidol a bydd y Cyngor yn parhau i ddatblygu'r llwyfannau hyn.