Back
Diweddariad COVID-19: 1 Gorffennaf

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: Cyflawni cyfradd ailgylchu a chompostio o 93% yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd; mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru; a dychwelyd i'r ysgol - cwestiynau cyffredin i rieni a disgyblion.

 

Cyflawni cyfradd ailgylchu a chompostio o 93% yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd

Mae'r gyfradd ailgylchu a chompostio yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd wedi cynyddu o leiaf 10% ers i'r cyfnod cloi gael ei lacio.

Mae'r cyfleusterau yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer bellach yn cyflawni cyfradd ailgylchu a chompostio o 93% oherwydd y mesurau newydd a roddwyd ar waith.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:  "Rhoddwyd mesurau newydd ar waith ar y safle er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel i'n staff a'r trigolion ac mae'n galonogol iawn gweld bod y gyfradd ailgylchu wedi codi'n sylweddol ers i'r cyfleusterau ailagor.

"Mae'r trefniadau newydd - gan gynnwys system archebu ar-lein - yn gweithio'n iawn, ac mae'r adborth rydym wedi'i dderbyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan fod trigolion yn gallu mynd i ganolfan ailgylchu, cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill, gollwng eu heitemau swmpus a gadael y safle o fewn tua 15 munud.

Hefyd, cafodd y canolfannau ailgylchu eu hail-ddylunio i sicrhau bod trigolion yn gallu gwared ar eitemau swmpus na chânt eu casglu fel rhan o'r gwasanaeth ymyl y ffordd.

Ni ellir dod â bagiau gwyrdd o ailgylchu cymysg a gwastraff bagiau/biniau du i'r ganolfan ailgylchu a gofynnir i'r trigolion ddefnyddio'r gwasanaeth ymyl y ffordd a ddarperir i bob aelwyd yn y ddinas er mwyn gwaredu'r gwastraff hwnnw.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn cydnabod bod y safleoedd hyn wedi'u dylunio i sicrhau y gallwn adfer cymaint o wastraff â phosibl. Nid yw'r cyfleusterau'n ‘dipiau' neu'n ‘domenni' fel y buont yn y gorffennol. Rydym eisiau i bawb feddwl am y gwastraff maent yn ei gynhyrchu ac i feddwl sut y gallant leihau'r gwastraff hwnnw. Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd ac rydym am fod y gorau yn y byd.

Mae'r rhestr lawn o'r hyn y gellir mynd ag ef bellach i'r canolfannau ailgylchu, sut y gall trigolion wneud apwyntiad gan gynnwys y system archebu benodol newydd ar gyfer faniau sydd ar gael yng nghanolfan ailgylchu Bessemer Close, i gyd ar gael yma:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx

Mae cynghorion defnyddiol wedi eu rhoi i drigolion ar sut i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn yn ystod yr ymateb i COVID-19 ar gael i'w darllen yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24179.html

 

Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yma i helpu atal lledaeniad y coronafeirws a diogelu eich cymuned.

Bydd swyddogion olrhain cysylltiadau, sydd wedi eu hyfforddi a'u cyflogi gan eich Awdurdod lleol, yn cysylltu â chi am un o ddau reswm:

  1. Os ydych wedi cael prawf positif am y coronafeirws. Bydd angen dweud wrth y swyddog olrhain cysylltiadau gyda phwy ydych wedi bod mewn cysylltiad agos. Bydd yn egluro beth mae hyn yn ei olygu ac yn eich helpu i ddeall y drefn.
  2. Os ydych wedi dod i gyswllt â rhywun sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws. Byddwch yn cael eich cynghori i hunanynysu. Er mwyn monitor unrhyw symptomau sy'n dod i'r amlwg byddwch yn derbyn negeseuon testun, e-bost neu alwadau ffôn yn ddyddiol am hyd at 14 diwrnod. Bydd y negeseuon testun yn dod gan +447775106686, e-bost gan olrhain@wales.nhs.uk / tracing@wales.nhs.uk, a galwadau ffôn gan 02921 961133.


Ni fydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn cofnodi lle rydych wedi bod nac yn holi beth rydych wedi bod yn ei wneud. Ni fyddan nhw'n rhoi unrhyw wybodaeth i'r heddlu am eich cysylltiadau na'ch symudiadau. Dim ond i atal lledaeniad a chanfod clystyrau lleol o'r feirws y mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio.

Byddwch yn wyliadwrus am alwadau twyll

Dim ond y ffynonellau swyddogol sydd wedi eu nodi fydd yn cael eu defnyddio gan y

gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Peidiwch

  • Prynu na thalu am unrhyw beth.
  • Mae prawf am y coronafeirwsAM DDIM.
  • Rhoi unrhyw fanylion banc.
  • Rhoi unrhyw gyfrineiriau na PIN, neu osod rhai dros y ffôn.
  • Lawrlwytho unrhyw feddalwedd i'ch cyfrifiadur neu'ch tabled.
  • Ffonio rhif cyfradd premiwm i siarad ag unrhyw un.

 

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch y ffôn i lawr.

https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws

 

Dychwelyd i'r ysgol - cwestiynau cyffredin i rieni a disgyblion

Mae ein hatebion i rai cwestiynau a ofynnir yn aml am ysgolion sy'n ailagor hefyd ar gael i'w darllen yn Arabeg, Bengaleg, Tsieceg, Pwyleg, Portiwgaleg a Somal.

Rhannwch hyn gydag unrhyw un a allai ei chael hi'n ddefnyddiol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx