Back
COVID-19: Cymorth digidol i athrawon Caerdydd

1/7/2020

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi’r offer digidol diweddaraf i bob athro yng Nghaerdydd i’w helpu i ddarparu dysgu ar-lein a chyfunol.

 

Mae arian ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi prynu 1,300 o liniaduron i athrawon hyd yma gyda 1,700 o ddyfeisiau pellach yn cael eu rhoi dros yr wythnosau i ddod. 

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod pob athro yn y ddinas ag offer digidol modern er mwyn iddo ddarparu dysgu ar-lein yn effeithlon.

 

“Rydym yn gwybod y bydd angen cyflwyno addysg trwy ddysgu cyfunol, gan gyfuno deunyddiau addysgol ar-lein â dulliau ystafell ddosbarth traddodiadol.  Mae hyn yn cryfhau ymhellach y pwysigrwydd bod angen mynediad digidol da ar ein gweithlu wrth symud ymlaen, hyd yn oed pan fydd ysgolion yn ailagor. 

 

Gan fod arweiniad Llywodraeth Cymru ar ffrydio gwersi byw (dysgu cydamserol) wedi newid yn ddiweddar a bod ysgolion wedi derbyn canllawiau erbyn hyn, bydd rhoi’r dyfeisiau newydd y mae’r Cyngor yn berchen arnynt hefyd yn galluogi athrawon i gynnal gwersi byw, yn ddiogel ac yn fedrus. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt wella’r defnydd o dechnoleg yn eu gwersi, creu cynnwys a chyfathrebu â disgyblion a chydweithwyr.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: “Ers i ysgolion gael eu cau, mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig hyfforddiant sylweddol i gefnogi ysgolion i ddarparu dysgu ar-lein ac o bell, gan gynnwys hyfforddiant rhithwir i athrawon mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored. Bydd yr hyfforddiant hwn yn parhau i gefnogi athrawon i ddarparu dysgu cydamserol a chyfunol.”

 

Yn ogystal â rhoi gliniaduron i athrawon, mae Cyngor Caerdydd wedi dosbarthu bron 6500 o declynnau digidol gan gynnwys Chromebooks ac iPads i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd sydd wedi cael eu hadnabod yn rhai sy’n dioddef amddifadedd digidol. Mae hyn ar ben 2000 o ddyfeisiau band eang  symudol 4G.