Bydd gwefan newydd yr ŵylyn cynnig ryseitiau a marchnad ar-lein lle gall ymwelwyr archebu amrywiaeth o fwyd a diod lleol a rhyngwladol o safon uchel - pethau megis Cacennau blasus, marinadau, olewau â blas, piclau, jin a seidr arbenigol a mwy - yn uniongyrchol gan y gwneuthurwyr.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd wedi bod yn un o uchafbwyntiau yng nghalendr digwyddiadau'r haf Caerdydd ers dros 20 mlynedd, gan ddod â llu o bobl sy’n dwlu ar fwyd i'r ddinas i brofi cynnyrch anhygoel a mwynhau bwrlwm yr ŵyl.
"Mae pethau'n mynd i fod ychydig yn wahanol eleni, ond fe wyddom i lawer o bobl fod ymweliad â'r digwyddiad hwn yn nodi dechrau'r haf yng Nghaerdydd – ac i'r gwerthwyr yn yr ŵyl, mae'n gyfle gwych i gysylltu'n uniongyrchol â chwsmeriaid.
"Dylai'r ŵyl rithwir hon fod yn ffordd wych o roi blas i bobl o'r hyn y mae'r ŵyl bwyd a diod yn ei wneud, cefnogi'r busnesau bach sy'n dibynnu o leiaf yn rhannol, ar y cyfleoedd sydd ar gynnig, a helpu i gadw ysbryd yr ŵyl yn fyw tan y flwyddyn nesaf."
Bydd gwefan Gŵyl Bwyd a diod Caerdydd yn cael ei lansio ddydd Gwener yma am hanner dydd a bydd ar gael drwy gydol mis Gorffennaf.
Bydd manylion llawn am yr ŵyl a'r holl fasnachwyr
yn cael eu hychwanegu at www.cardifffoodanddrinkfestival.com lle gallwch hefyd ymuno â
rhestr bostio'r ŵyl i gael diweddariadau.