Back
Datganiad ar ollwng sbwriel yng Nghaerdydd

 26/06/20

 

"Gyda'r tywydd twym diweddar a'r cyfyngiadau yn dechrau llacio, rydym yn gwerthfawrogi dymuniad trigolion i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Yr hyn nad yw'n dderbyniol yw i breswylwyr adael eu sbwriel mewn parciau a mannau agored, gan eu difetha i bawb arall, a disgwyl i rywun arall glirio'r llanast y maen nhw wedi'i adael ar ôl.

RDP 1

"Nid yw'r pandemig ar ben ac mae'r Cyngor yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni i sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer trigolion Caerdydd.   Mae angen i bobl gymryd cyfrifoldeb dros eu gwastraff eu hunain. Os yw'r bin sbwriel yn llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi i gael gwared arno'n gywir."