Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: sut i ddefnyddio ein Canolfannau Ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws; gwybodaeth i rieni/gofalwyr cyn i ysgolion ailagor; a y broses ddemocrataidd yn parhau ar y we yn ystod cyfnod y cloi.
Sut i ddefnyddio ein Canolfannau Ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws
Edrychwch ar ein hawgrymiadau gorau ar gyfer cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad â'n Canolfannau Ailgylchu:
Cyn Eich Ymweliad
Yn Ystod Eich Ymweliad
Ar Ôl Eich Ymweliad
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr helaeth o'r eitemau y gallwch ddod â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu a'r eitemau na fyddant yn cael eu derbyn, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu
Gwybodaeth i rieni/gofalwyr cyn i ysgolion ailagor
Bydd ysgolion ledled Cymru yn ailagor i rai disgyblion o ddydd Llun 29 Mehefin ac rydym wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd, gan ateb y cwestiynau a allai fod gan rieni, gofalwyr neu ddisgyblion.
Ewch i'n Cwestiynau cyffredin ymai gael gwybod mwy am Iechyd a Diogelwch, presenoldeb, y diwrnod ysgol, arlwyo a mwy.
Gofynnir i blant a theuluoedd gerdded, beicio neu sgwtio i'r ysgol lle bo modd ac mae'r Cyngor yn parhau i hyrwyddo Teithio Llesol fel y ffordd fwyaf diogel ac iach o gyrraedd yr ysgol.
Pan nad yw Teithio Llesol yn bosibl, bydd cyfres o gynlluniau traffig newydd yn eu lle fel bod plant a theuluoedd yn gallu cydymffurfio â mesurau ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel.
Bydd ffyrdd yn cael eu cau mewn 27 o safleoedd ysgol er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol mewn mannau gollwng a chasglu, sy'n golygu y bydd plant a theuluoedd yn gallu defnyddio ffyrdd lle bo angen.
Bydd mesurau eraill yn cynnwys lledu palmentydd a llwybrau a chyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd mewn rhai safleoedd ysgol.
Am restr lawn o'r ffyrdd fydd ar gau, ewch yma
Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Caerdydd i hyrwyddo a chynorthwyo teithio llesol i'r ysgol, mae rhieni a phlant yn cael eu holi am y llwybrau y maent fel arfer yn eu cymryd ar droed, sgwter neu feic i helpu i gynllunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol.
I ddweud eich dweud ac i gael rhagor o wybodaeth ewch yma
Ymunwch yn y sgwrs #TeithioLlesolCdydd
Y Broses Ddemocrataidd yn Parhau ar y We yn ystod Cyfnod y Cloi
Yn ystod y cloi, mae Tîm Gwasanaethau'r Pwyllgorau, sy'n rhan o Gwasanaethau Democrataidd, wedi gosod safon ragorol i Gymru, gan weithio o bell i gefnogi parhad y broses ddemocrataidd drwy ddatblygu cyfarfodydd Cyngor, Cabinet a Phwyllgor rhithwir a sicrhau bod y rhain ar gael ar-lein i'r cyhoedd drwy we-ddarllediad.
Cynhaliwyd y ffrwd Cyngor byw o bell gyntaf yn llwyddiannus drwy Microsoft Teams Ddydd Iau 21 Mai, gyda 75 o Aelodau yn mynychu'r cyfarfod dros y we. Caiff cyfarfod nesaf y Cyngor ei ffrydio'n fyw arDydd Iau 25 Mehefin, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ffrwd Twitter Cyngor Caerdydd. Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i ymuno â'r gweddarllediad neu ei wylio'n ôl drwyPublic-ille gallwch ddod o hyd i archif o gyfarfodydd y Cyngor.
Mae'r gwaith caled sydd wedi mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni i ddatblygu hyn wedi bod yn aruthrol, gan ein galluogi i fod yn un o'r cynghorau cyntaf yng Nghymru i gael y maen arbennig hwn i'r wal mewn modd amserol. Mae'r broses sydd wedi ei haddasu wedi golygu gweithio gyda TG er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn ddiogel, yn diweddaru ac yn hyfforddi Aelodau ar y broses ddiwygiedig ac yn cynnal profion trylwyr er mwyn sicrhau bod y peth yn llwyddiant.
Hefyd, sefydlodd y tîm y Pwyllgor Cynllunio o bell cyntaf a nhw oedd y cyntaf yng Nghymru i gynnwys y cyhoedd, gan ganiatáu i bobl ledled Caerdydd gymryd rhan yn y cyfarfod a'r broses ddemocrataidd.
Ynghyd â'r cyfarfodydd lleol, sefydlodd ein cydweithwyr Gydbwyllgorau, fel un Archifdy Morgannwg, a oedd yn golygu trefnu cyfarfod rhithwir i chwe awdurdod lleol ledled Cymru.
Wrth symud ymlaen bydd y tîm yn adolygu'r broses hon yn barhaus a gweithio tuag at wneud y cyfarfodydd yn fwy confensiynol wrth i'r cyfyngiadau barhau i lacio.
Mae'r tîm yn parhau i ddangos ymrwymiad gan werthfawrogi'r broses ddemocrataidd y maent yn ei chefnogi a byddant yn parhau i hyrwyddo a bod yn hyrwyddwyr llywodraethiant i'r Cyngor.