Back
Diweddariad COVID-19: 24 Mehefin

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: gwybodaeth ddefnyddiol am ysgolion yn ailagor yr wythnos nesaf; cynlluniau traffig ysgol newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel; mae'r argymhellion diweddaraf ar y cynigion i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd newydd i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd; a'c rhoi dyfeisiau digidol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed i'w cadw mewn cysylltiad â'r gymuned.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol am ysgolion yn ailagor yr wythnos nesaf

Cyn ysgolion dechrau ailagor o ddydd Llun Mehefin, 29, rydym wedi casglu gwybodaeth at ei gilydd i rieni a gofalwyr i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn i'ch plentyn ddychwelyd i'r ysgol.

Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn ymdrin ag ystod o bynciau o iechyd a diogelwch, presenoldeb, y diwrnod ysgol, arlwyo, trafnidiaeth a mwy.

Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx

 

Cynlluniau traffig ysgol newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel

Bydd cyfres o gynlluniau traffig newydd yn cael eu rhoi ar waith ledled Caerdydd i sicrhau bod plant a theuluoedd yn gallu cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i deithio'n llesol pan fydd ysgolion yn ailagor o ddydd Llun 29 Mehefin.

Bydd ffyrdd yn cael eu cau mewn 27 o safleoedd ysgol er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol mewn mannau gollwng a chasglu. Bydd plant a theuluoedd yn gallu defnyddio ffyrdd lle bo angen.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys lledu palmentydd a llwybrau a chyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd mewn rhai safleoedd ysgol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24173.html

 

Darpariaeth ysgol gynradd newydd i wasanaethu Gogledd-orllewin Caerdydd 

Mae'r argymhellion diweddaraf ar y cynigion i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd newydd i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd wedi'u cymeradwyo gan Gabinet yr awdurdod lleol heddiw.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd y broses o gyflwyno'r ysgol newydd yn cael ei hoedi o ganlyniad i COVID-19 ond bod trafodaethau yn parhau gyda'r datblygwr o safbwynt eu hamserlen ddiwygiedig.

Wrth symud ymlaen, byddai'r ysgol newydd yn gwasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr yn ogystal â rhannau o Cregiau, Sain Ffagan, Radur, Pentre-poeth a'r Tyllgoed.

Bydd yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu ag un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig llefydd Saesneg gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg. Byddai'r ysgol hefyd yn cynnig 96 o lefydd meithrin rhan-amser, gyda hanner y llefydd yn rhai Cymraeg a'r hanner arall yn rhai Saesneg, ond hefyd â defnydd sylweddol o'r Gymraeg.

Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2020, cytunodd Cabinet y Cyngor i gyhoeddi hysbysiad statudol, gan amlinellu'r cynigion i ganiatáu ar gyfer gwrthwynebiadau.  Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar 26 Chwefror 2020 am gyfnod o 28 diwrnod a chafodd y Cyngor dri gwrthwynebiad, gyda phob un yn datgan y dylai'r ysgol newydd fod yn ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad cyfrwng Cymraeg benodedig.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i dyfu'r Gymraeg fel y'i nodir yn ein strategaeth ddwyieithog sy'n gyson â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ei hun. 

"Rydym hefyd wedi amlinellu ein haddewid i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg i holl gymunedau Caerdydd.  Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn cynyddu ein haddysg Gymraeg mewn modd strategol er mwyn gwneud yn siŵr bod cydbwysedd y ddarpariaeth ysgolion yn adlewyrchu cydbwysedd y galw. 

"Bydd hyn yn sicrhau bod ein hysgolion newydd yn sefyll ar seiliau ariannol cadarn; bod ein hysgolion cynradd presennol yn parhau i fod ddichonadwy; a bod yr ysgolion yr ydym yn eu cynnig yn darparu ar gyfer yr amrywiaeth o ddewisiadau rhieni  rydym yn eu gweld yng Nghaerdydd.

"Os ânt rhagddynt, bydd y cynigion hyn yn cynnig amrywiad blaengar ar y ddarpariaeth gynradd ddwy ffrwd draddodiadol ac yn gweld ffocws sylweddol fwy ar ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y ffrwd Saesneg. Mae hwn yn fodel wedi'i ddatblygu o bron 40 mlynedd o ymchwil yn rhanbarth gwlad y Basg, sydd wedi gweld twf yn y Fasgeg i tua 90% a hynny o sefyllfa debyg i'r nifer sy'n siarad Cymraeg yng Nghaerdydd. Byddai'r ysgol yn cynnig cyfle cyffrous yn y modd y dysgir y Gymraeg i ddisgyblion mewn ysgol Saesneg, boed yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, ac yn darparu addysg o ansawdd uchel mewn amgylchedd dysgu addas i'r unfed ganrif ar hugain."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae'r argyfwng iechyd byd-eang wedi cael goblygiadau ar ddatblygiadau ledled y wlad ond byddwn yn gweithio gyda datblygwyr i sicrhau y gellir sefydlu'r ysgol newydd ar yr adeg cynharaf posib."

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc pan fydd yn cyfarfod ar 23 Mehefin, cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet ar 24 Mehefin.

Mae copi llawn o'r adroddiadau i'w gweld ymahttps://cardiff.moderngov.co.uk/Pwyllgorau

 

Rhoi dyfeisiau digidol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed i'w cadw mewn cysylltiad â'r gymuned

Mae Gwasanaeth Cymorth Digidol Caerdydd sy'n rhan o'r tîm Dysgu i Oedolion, wedi derbyn dyfeisiau am ddim gan Future Dot Now/ Good Things Foundation trwy'r fenter Devices.Now. Nod y cynllun yw rhoi cyfle i'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau fynd ar-lein, lleihau allgáu cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd.

Mae'r rhyngrwyd, appiau, dolenni ac yn bwysicaf modiwlau hyfforddi sgiliau digidol ar y cyfrifiaduron llechen yn barod i helpu'r rhai sy'n eu cael i ddysgu sut i ddefnyddio eu dyfais newydd! 

Mae'r tîm yn Cymorth Digidol Caerdydd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r derbynwyr a'r sefydliadau a wnaeth eu hatgyfeirio, ac yn rhoi cymorth ar-lein drwy gymorthfeydd digidol.

Facebook - Gwasanaethau Cymorth Digidol Caerdydd

Twitter: @digisupcardiff

Instagram: @digisupportcardiff