Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: ‘Newid Go Iawn' - mae ymgyrch newydd wedi'i lansio yn y ddinas heddiw i adeiladu ar y llwyddiant diweddar o ran helpu pobl sy'n agored i niwed i adael y strydoedd; cyrtiau chwaraeon a hamdden awyr agored Cyngor Caerdydd i ail-agor;5 awgrym da ar gyfer rheoli plâu'r haf hwn; a rhieni Caerdydd yn elwa o gymorth cadarnhaol gan Parents First.
Amser am Newid Go Iawn
Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio yn y ddinas heddiw i adeiladu ar y llwyddiant diweddar o ran helpu pobl sy'n agored i niwed i adael y strydoedd.
Mae ymgyrch Real Change yn ceisio parhau â'r gwaith a gyflawnwyd gan wasanaethau digartrefedd yn ystod cyfnod y cloi pan welwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd i ffigurau sengl, a mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn dechrau manteisio ar wasanaethau sy'n newid bywydau yn y ddinas.
Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn benderfynol o beidio â cholli'r momentwm cadarnhaol a gyflawnwyd wrth helpu pobl i droi cefn ar y strydoedd, wrth i ganol y ddinas ddechrau dod yn fyw. Mae pob partner yn annog y cyhoedd i helpu i sicrhau newid go iawn a pharhaol i'r bobl sy'n agored i niwed a welant ar y stryd.
Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl beidio â rhoi eu newid sbâr i'r rhai sy'n cardota, ond yn hytrach cyfeirio pobl sy'n agored i niwed at y gwasanaethau a all weddnewid eu bywydau.
Anogir unrhyw un sy'n pryderu am unigolyn y dônt ar ei draws ar y strydoedd i alw am gymorth drwy decstio ' REALCHANGE ' i 80800, gan nodi lleoliad y person hwnnw. Yna, bydd tîm allgymorth digartref y ddinas yn cael ei anfon i weld yr unigolyn dan sylw i'w annog i adael y strydoedd.
Cafwyd llwyddiant sylweddol o ran cartrefu pobl ddigartref yn ystod y tri mis diwethaf, a dim ond llond dwrn o bobl sy'n parhau i gysgu ar y strydoedd. Mae llawer o lety o safon wedi'i sicrhau, gan gynnwys llety mewn dau westy mawr, ac mae gwasanaethau iechyd a chymorth wedi'u cynnig i helpu'r cleientiaid hyn sy'n agored i niwed i fynd i'r afael â'u hanghenion sylfaenol.
Roedd gwaith da eisoes yn mynd rhagddo i leihau'r nifer sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas diolch i waith y Tîm Allgymorth Digartrefedd Amlddisgyblaethol penigamp, ond ers cyfnod y cloi, mae mwy o gleientiaid sy'n agored i niwed nag erioed yn ymgysylltu â gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau disodli cyffuriau a therapiwtig.
Mae mwy o lety a chymorth ar gael wedi bod yn ffactor allweddol yn y newid hwn ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddarpariaeth ychwanegol hon yn parhau ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Fodd bynnag, newid allweddol arall fu diffyg cyfleoedd i gardota yn ystod cyfnod y cloi a llai o anogaeth i ymweld â chanol y ddinas.
Mae Real Change yn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yng Nghaerdydd i helpu pobl ar y llwybr i ffwrdd o fywyd ar y strydoedd a'r llwyddiant sydd wedi'i gyflawni'n ddiweddar o ran gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Nod yr ymgyrch yw cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r ffordd orau o helpu gyda'r gwaith hwn a sut y gall unigolion, heb yr ymyriadau priodol, barhau i fyw yn yr awyr agored, yn gaeth i ffordd niweidiol o fyw.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Ers i fesurau cyfnod y cloi ddod i rym, rydym wedi helpu 473 o unigolion i gael yn ein hosteli a'n llety ychwanegol mewn gwestai. Mae 71 o bobl wedi cael eu cyfeirio at raglenni adsefydlu cyffuriau sy'n newid bywydau, gyda llawer ohonynt yn symud i gael triniaeth ymhen ychydig ddyddiau i'w hymgynghoriad cychwynnol. Dyna 71 o bobl a fyddai'n fwy na thebyg yn dal i gael trafferthion gyda'u dibyniaeth ar gyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau ar y strydoedd heb ein hymyriadau - mae 71 o bobl yn profi newid go iawn yn eu bywydau ar hyn o bryd. Dim ond pump o'r rheiny sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd ers tro byd sydd dal yno ac rydym yn parhau i weithio gyda nhw.
"Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau'r gwelliant hwn - does dim troi yn ôl nawr!"
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24149.html
Cyrtiau chwaraeon a hamdden awyr agored Cyngor Caerdydd i ail-agor
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o heddiw (Dydd Llun 22 Mehefin), y bydd yr holl gyfleusterau chwaraeon a hamdden awyr agored, ac eithrio meysydd chwarae plant a champfeydd awyr agored, yn cael agor.
O ganlyniad, mae holl gyrtiau tennis, pêl-fasged ac AGADd (Ardal Gemau Aml-ddefnydd) Cyngor Caerdydd yn y broses o gael eu hagor.
Mae archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac arwyddion newydd yn cael eu cod i atgoffa aelodau'r cyhoedd o'r angen i gadw'r pellter cymdeithasol angenrheidiol o dan delerau cyfyngiadau cyfnod y clo Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y rheoliadau Coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma:
https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau
5 awgrym da ar gyfer rheoli plâu'r haf hwn
Rydym yn gweld cynnydd mewn galwadau ac ymholiadau ar-lein yn ymwneud â sut i ddelio gyda phlâu a heigiadau.
Yn benodol, ymddengys fod cynnydd yn nifer y llygod mawr ar hyn o bryd, yn gysylltiedig o bosibl â rhagor o bobl yn aros gartref, yn ogystal â diffyg eu ffynonellau bwyd arferol. Mae cynnydd mewn bwydo adar hefyd yn cyfrif am fwyafrif ein galwadau.
Dyma ein 5 Awgrym Da i osgoi plâu yn ystod misoedd yr haf:
Os ydych chi'n dechrau sylwi ar weithgarwch llygod mawr o fewn ffiniau eich eiddo, mae gennych gyfrifoldeb i weithredu gan y bydd yn gwaethygu os byddwch yn ei adael heb ei drin.
Gallwch drin y broblem eich hun neu ddefnyddio sefydliad proffesiynol fel Adran Rheoli Plâu Cyngor Caerdydd sy'n gallu cynnig cyngor neu ddarparu gwasanaeth trin cost isel. Gellir cysylltu â nhw ar 02920872934 neurheoliplau@caerdydd.gov.uk.
Nid yw Rheoli Plâu yn swyddogaeth statudol, ond rydym yn cynnig gwasanaeth â chymhorthdal sylweddol o £55 am 4 ymweliad.
Mae rhagor o gyngor ar gael yma:
Os ydych yn denant i'r Cyngor gallwch wneud cais am archeb drwy Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088 (Opsiwn 2). Os ydych yn Denant i Gymdeithas Dai, dylech gysylltu â'ch Cymdeithas Dai oherwydd efallai y bydd ganddynt drefniadau ar waith i ddelio ag unrhyw broblemau cnofilod.
Rhieni Caerdydd yn elwa o gymorth cadarnhaol gan Parents First
Rhieni'n Gyntaf yw'r gwasanaeth 1:1 dan arweiniad seicolegol sy'n cael ei deilwra i rieni plant o 0-18 oed ar draws Caerdydd.
Mae'r tim wedi parhau i gynnig gwasanaeth i rieni yn dilyn y cyfyngiadau trwy addasu'r dull o ddraparu gwasanaeth gan gynnig galwadau ffon a fidio. Mae rhieni wedi ymateb yn dda gyda'r dull yma ac mae nifer wedi manteisio o'r gefnogaeth cadarnhaol gan y tim.
Mae'r tim wedi dangos gwydnwch a phositifrwydd drwy gydol y cyfnod. Yn ogystal a'r gwaith rhianta seicolegol, maent wedi cydweithio gydag asiantaethau eraill i gynnig cyngor ymarferol i deluoedd wrth ymateb i'r cyfnod cyfyngedig yma.
I gael rhagor o wybodaeth am Parents First ewch i:https://www.cardifffamilies.co.uk/cardiff-parenting
Neu cysylltwch â'r Porth i Deuluoedd Caerdydd ar 03000 133 133