Back
Cyrtiau chwaraeon a hamdden awyr agored Cyngor Caerdydd i ail-agor
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o heddiw (Dydd Llun 22 Mehefin), y bydd yr holl gyfleusterau chwaraeon a hamdden awyr agored, ac eithrio meysydd chwarae plant a champfeydd awyr agored, yn cael agor.

O ganlyniad, mae holl gyrtiau tennis, pêl-fasged ac AGADd (Ardal Gemau Aml-ddefnydd) Cyngor Caerdydd yn y broses o gael eu hagor.

Mae archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac arwyddion newydd yn cael eu cod i atgoffa aelodau’r cyhoedd o’r angen i gadw’r pellter cymdeithasol angenrheidiol o dan delerau cyfyngiadau cyfnod y clo  Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y rheoliadau Coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma: 

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau