Back
Cau ffyrdd canol dinas Caerdydd a rhoi cyfyngiadau ar waith wrth i gyfyngiadau cloi gael eu codi

Mae trefniadau cau ffyrdd yng nghanol dinas Caerdydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd gan fod cyfyngiadau symud yn dechrau codi yn y brifddinas a siopau nad ydynt yn hanfodol yn agor eu drysau i'r cyhoedd o ddydd Llun, Mehefin 22.

Cau Ffyrdd - Stryd y Castell a Lôn y Felin

Bydd Stryd y Castell a Lôn y Felin ar gau i bob traffig, o 12 hanner dydd ddydd Sul, 21 Mehefin  nes y ceir hysbysiad pellach.

Bydd cau Stryd y Castell yn golygu y gellir adeiladu ardal eistedd dan orchudd yn yr awyr agored ar Stryd y Castell ac yn ffos y Castell. Mae'r ardal hon yn cael ei chynllunio er mwyn i fwytai a chaffis lleol ei defnyddio. Bydd yn eu helpu i ailagor eu busnesau a gwasanaethu cwsmeriaid y byddent yn eu colli fel arall o ganlyniad i ofynion ymbellhau cymdeithasol ar eu hadeiladau.

CItyCentreDetailMapJune2020-W1

Traffig

Rhoddir cyfyngiadau ar waith ar ran isaf Heol Eglwys Fair,Heol y Portha Stryd Wood. Er y caniateir mynediad i fysus, tacsis, beicwyr a cherddwyr, dim ond ar gyfer meysydd parcio ac i ddanfon nwyddau y caniateir i gerbydau preifat eu defnyddio.

Bydd yr holl breswylwyr sy'n byw ar y strydoedd hyn yn gallu cael mynediad i'w heiddo. Bydd busnesau'n gallu derbyn danfoniadau rhwng 12 hanner nos a 10am.

Parcio a Theithio

Bydd Parcio a Theithio Pentwyn yn weithredol o ddydd Llun, 22 Mehefin, gyda gwasanaeth bws (gyda chapasiti cyfyngedig oherwydd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol) o 7am tan 7pm.

 

Bydd Parcio a Theithio Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd, Lecwydd, hefyd yn gweithredu 7am - 7pm o ddydd Llun, 22 Mehefin.

 

Bydd Neuadd y Sir Bae Caerdydd yn gweithredu gwasanaeth parcio a cherdded/gwasanaeth Baycar o ddydd Llun, 22 Mehefin, 7am - 7pm.

Tacsis

Gan y bydd Stryd y Castell a Lôn y Felin ar gau, darperir safleoedd tacsis ychwanegol ar gael i'r fasnach ar y naill ochr a'r llall i'r pwynt cau ar Stryd y Castell, ger Gwesty'r Angel yn ogystal â safle newydd ar waelod Ffordd y Brenin.

Bydd y Cyngor yn parhau i ymgynghori â'r diwydiant tacsis tra bo'r ardaloedd newydd yn ymsefydlu.

Cael mynediad i ganol y ddinas mewn car

Bydd pob llwybr i mewn i ganol y ddinas ar gyfer modurwyr ar agor fel arfer, gyda mynediad ar gael o goridor yr M4 drwy Gyffyrdd 30, 32 a 33. Cynghorir y rhai sy'n ymweld â Chaerdydd i ymgyfarwyddo â'r cyfyngiadau traffig trwodd yng nghanol y ddinas cyn iddynt deithio.

Beicio

Sefydlwyd beicffordd newydd dros dro o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd a Boulevard de Nantes.

Bydd parcio beiciau ychwanegol hefyd ar gael yng nghanol y ddinas i'r cyhoedd ei ddefnyddio ac mae cyfleoedd Parcio a Cherdded hefyd yn cael eu hystyried.

Parcio Ceir

Bydd pob maes parcio canol dinas preifat a pharcio ar y stryd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio, ond ar lai o gapasiti oherwydd gofynion ymbellhau cymdeithasol. Bydd pob modurwr sy'n cyrraedd canol y ddinas yn cael ei dywys i'r man parcio agosaf gan arwyddion digidol.

Bysus

Bydd rhaid i bob cwmni bysus addasu rhai llwybrau i ganol y ddinas oherwydd bod Stryd y Castell ar gau. Gofynnwn i bawb sy'n dymuno teithio ar fws, i fynd i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.

I gael gwybodaeth am Bws Caerdydd, ewch ihttps://www.cardiffbus.com/

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Stagecoach, ewch i:https://www.stagecoachbus.com/about/south-wales

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau National Express, ewch i:https://www.nationalexpress.com/en