Bydd siopwyr, gweithwyr a thrigolion sy'n ymweld â chanol dinas Caerdydd o ddydd Llun 22 Mehefin, yn cael eu cyfarch gan fannau croeso wedi'u staffio, systemau cerdded diogel a rhai ffyrdd ar gau wrth i'r ddinas lansio cam un o'i gynllun graddol i ddiogelu'r cyhoedd wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau cael eu codi.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 19 Mehefin y gall siopau nad ydynt yn rhai hanfodol yn y ddinas agor o ddydd Llun ymlaen.
Gweithredodd Cyngor Caerdydd ei gynllun ar unwaith i gadw pobl yn ddiogel ac i helpu busnesau i ailagor, gan gynnwys:
Mae'r mesurau newydd yn rhan un o nifer o gamau y bydd y Cyngor yn eu cyflwyno dros amser wrth i fwy a mwy o gyfyngiadau gael eu codi.
Mae cynlluniau pellach i greu sgwâr cyhoeddus y tu mewn i Gastell Caerdydd; defnyddio Stryd y Castell a ffos y Castell fel ardal gysgodol ar gyfer bwytai a chaffis lleol i ddanfon bwyd; darparu mwy o fannau ar y stryd ar gyfer busnesau lletygarwch; a sefydlu parthau ar draws y ddinas i ddiddanu pobl yn yr awyr agored mewn lleoliadau lle gellir cadw pellter cymdeithasol.
Mae'r cynlluniau, a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis wedi'u cynllunio i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd ‘mwyaf diogel' yn y DU wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i'r ‘arfer'.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y gall siopau nad ydynt yn hanfodol agor ddydd Llun, felly mae gennym dri diwrnod i gyrraedd cam un o'n cynlluniau ar gyfer bore Llun. Rydym wedi ceisio gwneud y systemau newydd hyn mor syml a hawdd eu defnyddio â phosibl, ond byddwn yn annog preswylwyr i ymweld â'n mannau croeso lle byddant yn cael atebion i unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. I ddechrau, rydym yn ceisio sicrhau bod y pethau sylfaenol yn eu lle, ond byddwn yn symud yn gyflym i gam dau o'n cynlluniau a fydd yn sicrhau bod rhai mannau newydd yn cael eu hagor yn greadigol i helpu busnesau lleol.
"Mae'r cynlluniau hyn yn dangos i ni i ryw raddau sut gall bywyd ailddechrau a sut gall Caerdydd ffynnu er gwaethaf COVID-19. Rydym eisiau ailgychwyn, adfer ac adnewyddu prifddinas Cymru ac rwy'n benderfynol y bydd ein dinas yn ailagor mewn ffordd sy'n ddiogel i bawb; mewn ffordd a fydd yn gwneud popeth sy'n bosib i ddiogelu miloedd o swyddi; ac mewn ffordd sydd ar yr un pryd yn groesawgar ac yn hyderus ynghylch dyfodol Caerdydd.
"Rydym yn gweithio ar fanylion camau nesaf ein cynlluniau gyda busnesau, trigolion, cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid cydraddoldeb. Rwy'n hyderus os byddwn yn mabwysiadu'r un dull 'un ddinas' sydd wedi gweld y sector cyhoeddus, cymunedau a busnesau yn cyd-dynnu drwy gydol y pandemig, yna gallwn wir wireddu'r awydd cyffredin i 'adeiladu'n ôl yn well'.
"Un peth sy'n hynod gyffrous i mi yn benodol yw'r cynigion i agor tiroedd Castell Caerdydd fel sgwâr ‘cyhoeddus' newydd i'r bobl leol ei ddefnyddio am ddim. Mae tiroedd y castell yn ogoneddus. Yna bydd Stryd y Castell a Ffos y Castell yn cael eu newid yn ardaloedd cysgodol i fwytai a chaffis eu defnyddio, gan roi cyfle iddynt wneud i fyny am y gofod llawr a chleientiaid y byddent yn eu colli fel arall oherwydd bod rhaid dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol yn eu heiddo.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni technoleg lleol sydd wedi datblygu ap sy'n galluogi pobl i archebu bwyd o'n mannau dros dro ac yna ei ddanfon i'w fwynhau ar Stryd y Castell o flaen cefndir godidog Castell Caerdydd. Rwyf hefyd yn awyddus ein bod yn gweithio gyda'r bwrdd cerddoriaeth i ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i'r ddinas cyn gynted ag y gallwn. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio mannau cyhoeddus i greu lleoedd ar gyfer digwyddiadau lle gall pobl fwynhau cerddoriaeth ac adloniant ar y stryd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar."
Mae'r cynllun yn amlinellu cyfres o fesurau sydd wedi eu creu i agor y ddinas yn ddiogel ac mewn ffordd a fydd yn annog pobl i ddychwelyd i'r gwaith, i siopa, cynnal eu busnes a mwynhau'r amrywiaeth eang o fwytai, caffis a bariau sydd yma.
Mae mesurau'r cyfnod cyntaf o ddydd Llun 22 Mehefin yn cynnwys:
Mannau Croeso - yn y prif bwyntiau mynediad i gerddwyr i'r ddinas. Bydd y Mannau Croeso yn cynnig gwybodaeth i'r ymwelydd/siopwr/gweithiwr ar sut mae canol y ddinas yn gweithio; sut i ymweld mewn modd diogel; sut i gyrraedd cyrchfannau penodol; cynlluniau cerdded; cyfleusterau golchi dwylo a staff i helpu ag unrhyw gwestiynau. Bydd arwyddion a llysgenhadon stryd hefyd ar gael drwy ganol y ddinas i gynorthwyo ymwelwyr ac i atgyfnerthu'r wybodaeth a ddarperir yn y mannau croeso.
Symudiad wedi'i reoli i gerddwyr - Bydd angen i gerddwyr (siopwyr/gweithwyr/ymwelwyr) yng nghanol y ddinas ddilyn llwybrau wedi eu harwyddo/marcio i sicrhau y glynir at fesurau cadw pellter cymdeithasol. Bydd gofyn i siopwyr 'gadw i'r chwith' wrth iddyn nhw gerdded drwy ganol y ddinas a bydd marciau ar gyfer croesi drosodd. Mae mannau cyfyng wedi eu nodi lle bydd angen cyfyngu symudiadau cerddwyr i un cyfeiriad yn unig, neu i symud mewn un rhes er mwyn sicrhau y gellir cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol digonol. Mae cyfres o lwybrau o amgylch canol y ddinas yn cael eu datblygu gan roi ystyriaeth i'r siopau, hybiau trafnidiaeth (safleoedd bysiau, safleoedd tacsis, gorsafoedd a meysydd parcio). Datblygir cynllun i gynnwys holl strydoedd canol y ddinas, yn dibynnu ar niferoedd ac a oes gofod cerdded diogel (i gynnal pellter cymdeithasol) ar gael.
Ciwiau - Gan y bydd pob uned fanwerthu / canolfan siopa / arcêd ond yn gallu gweithredu mewn modd diogel drwy gyfyngu ar nifer y defnyddwyr ar unrhyw adeg. Bydd siopau'n cael eu hannog i reoli eu ciwiau dan do, ond bydd effaith anorfod ar y strydoedd y tu allan i'r siopau. Nodir ardaloedd ciwio penodedig a chânt eu marcio ar y stryd.
Help i bobl ag anableddau - Bydd stiwardiaid stryd yn gallu cynghori a helpu pobl sy'n ymweld â'r mannau croeso. Bydd llysgenhadon stryd ledled canol y ddinas hefyd yn gallu rhoi cyngor a help. Gellir galw am wasanaeth bygi modur o'r mannau croeso neu ei archebu ymlaen llaw drwy ffonio 02920 873888 o ddydd Llun 22 Mehefin.
Cau ffyrdd a mynediad i ganol y ddinas- Bydd cynllun trafnidiaeth dinas integredig yn helpu pobl i ddod i ganol y ddinas mewn car, ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy deithio llesol (cerdded neu feicio). Bydd y cynllun trafnidiaeth yn golygu y bydd canol y ddinas yn cael ei weithredu ar batrwm ‘digwyddiad'. Byddai hyn yn golygu cau ffyrdd fel y mesurau a roddir ar waith ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol mawr yn Stadiwm Principality. Byddai cau ffyrdd ar batrwm ‘digwyddiad' yn ein galluogi i ddefnyddio ein mannau ‘canol dinas' cyfyngedig yn y ffordd fwyaf effeithlon, gan hwyluso symudiadau diogel y cyhoedd gan gadw pellter cymdeithasol, mynediad i fusnesau a mannau gorlifo newydd. Byddai cylch rheoli yn cael ei osod o amgylch canol y ddinas i ganiatáu mynediad i geir a symudiad bysus/teithio llesol. Bydd Stryd y Castell ar gau er mwyn gallu rhoi mannau seibiant yn eu lle a dechrau adeiladu ar gyfer y man eistedd awyr agored cysgodol i helpu bwytai a chaffis sydd ar agor ar gyfer busnes pan fydd y cyfyngiadau'n codi.
Cau ffyrdd yng nghanol y ddinas ddydd Sul o 12 hanner dydd
Diogelwch a Chardota Ymosodol- mae'r holl broblemau diogelwch stryd yn cael eu trafod/cytuno â'r heddlu sydd wedi cynnig cefnogaeth i reoli cerddwyr ac unrhyw broblemau cadw pellter cymdeithasol. Mae strategaeth hirdymor i helpu'r digartref wedi'r cyfnod cloi yn cael ei datblygu. Mae 140 o bobl ddigartref wedi cael lloches mewn llety newydd ers dechrau'r pandemig. Ymhlith y nifer hwn, bu 30 person yn cysgu ar y stryd a'r bwriad yw sicrhau nad yw'r bobl hynny yn dychwelyd i'r strydoedd. Mae'r diffyg cyfleoedd i gardota yng nghanol y ddinas wedi golygu bod cleientiaid, a adawyd heb fodd i ariannu dibyniaethau niweidiol, wedi ymateb yn fwy cadarnhaol i wasanaethau cymorth ac wedi dechrau rhaglenni triniaeth. Mae partneriaeth Digartrefedd Caerdydd wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig i fanteisio ar y cyfle hwn i helpu pobl i ddechrau mynd i'r afael â'u dibyniaeth. Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas wedi gostwng i lai na deg ers y cyfnod cloi. Mae'r tîm Allgymorth yn parhau i weithio gyda'r unigolion ar y stryd i geisio'u hannog i fanteisio ar gynnig o lety a chymorth. Yn anffodus, gall arian a godir drwy gardota fod yn ddigon i alluogi pobl i ariannu eu dibyniaeth a gwrthod cynigion o gymorth. Bydd swyddogion stryd a llysgenhadon stryd yn monitro mesurau cadw pellter cymdeithasol. Os yw aelod o'r cyhoedd yn pryderu nad yw rhai pobl yn cadw at y canllawiau, gofynnwn iddynt gysylltu ag un o'r swyddogion neu'r llysgenhadon stryd yng nghanol y ddinas.
Mae mesurau'r ail gam yn cynnwys:
Ardaloedd Gorlifo- Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall nifer o fusnesau yn y sector lletygarwch (bwytai/caffis/bariau) ddioddef yn ddifrifol oherwydd yr angen i ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. O ystyried hynny, mae'r Cyngor yn cynnig agor ardaloedd gorlifo ar y tir cyhoeddus i fusnesau eu defnyddio am ddim. Mae'n hollbwysig bod prif strydoedd, mannau cyhoeddus ac ardaloedd gorlifo newydd yn caniatáu cadw pellter cymdeithasol, yn ddiogel, wedi'u cysylltu'n dda ac yn cynnig amgylchedd gwyrdd deniadol
sy'n briodol ar gyfer amgylchedd prifddinas. Mae'r cynllun yn nodi nifer o ‘fannau gorlifo' lle gellir rheoli gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau diogel yn well. Mae'r rhain yn cynnwys y tiroedd y tu mewn ac o amgylch prif furiau Castell Caerdydd, pen gogleddol Ffordd Churchill, yr Aes a Lôn y Felin.
Parcio - bydd angen i lawer o'r meysydd parcio yng nghanol y ddinas weithredu â chapasiti is i alluogi pobl i adael a dychwelyd i'w ceir yn ddiogel. Mae dull ar y cyd (cyhoeddus/preifat) wrthi'n cael ei ddatblygu ar gyfer y parcio sydd ar gael yng nghanol y ddinas. Er mwyn cefnogi hyn, mae angen datblygu rhwydwaith cynhwysfawr o gyfleusterau Parcio a Cherdded / Parcio a Beicio er mwyn rheoli mynediad gan geir i ffwrdd o'r canol, ond i ganiatáu mynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr ar gyfer rhan ola'r siwrne.
Mae hefyd yn bwysig cyflwyno mesurau i sicrhau y gall canolfannau cymdogaeth ailagor i fusnesau, wrth sicrhau mynediad diogel i'r cyhoedd. Mewn llawer o achosion, nid yw palmentydd yn ddigon llydan i alluogi cadw pellter cymdeithasol a gallai ciwio y tu allan i siopau ar balmentydd fod yn achos pryder. Byddwn yn cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau cyn gynted ag y bydd yn ymarferol, gan gynnwys pecyn o fesurau diogelwch a rhai gwyrdd gan gynnwys lledu palmentydd, llwybrau beicio a chyfyngiadau cyflymder 20mya. Bydd mesurau a gaiff eu treialu yn Heol Wellfield yn ardal y Rhath yn cael eu cyflwyno mewn cymdogaethau eraill hefyd
Wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi leihau ac wrth i bobl ddychwelyd i'r gwaith, mae'n bwysig rheoli'r system drafnidiaeth mewn ffordd sy'n galluogi cynnal pellter cymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel. Mae'n debygol y bydd capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei gyfyngu am sawl mis a bydd effeithiau negyddol o ran ansawdd aer, tagfeydd ac allyriadau os bydd pawb yn dewis gyrru yn lle hynny. Nid oes defnydd o gar na fan gan ryw 29% o gartrefi yng Nghaerdydd sy'n golygu ei bod yn hanfodol cynnig dewisiadau diogel a chynaliadwy yn lle trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn i raddau helaeth ar ffurf gwell seilwaith cerdded a beicio, ac annog preswylwyr sy'n gallu gwneud hynny i ystyried dulliau teithio llesol ar gyfer teithiau byrrach.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i alluogi pobl i barhau i feicio a cherdded wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi lacio. Mae cyfle i ni i gyd nawr weld â'n llygaid ein hun sut fath o le y gallai Caerdydd wyrddach a mwy diogel fod. Bydd capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei gyfyngu am beth amser, a chredwn y bydd llawer o bobl yn parhau i weithio gartref, a ddylai leihau nifer y ceir yn y ddinas. Yr hyn nad ydym am ei weld yw tagfeydd a lefelau llygredd yn codi eto. Yn enwedig gyda'r mesurau hyn, bydd yn rhaid i ni gyflwyno palmentydd ehangach er mwyn sicrhau y gellir dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol.
"Er mwyn helpu rydym yn ystyried cynnig rhwydwaith beicio 'dros dro' i annog pobl sy'n gallu, i feicio i ganol y ddinas neu i'w canolfannau cymdogaeth yn hytrach na gyrru. Byddwn hefyd yn ystyried darparu lleoedd parcio ychwanegol i feics mewn lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas ac yn ein canolfannau cymdogaeth. Byddwn yn adolygu'r posibilrwydd o greu safleoedd ‘parcio a phedlo' a byddwn yn gosod mesurau blaenoriaethu bysus megis gatiau bysus er mwyn cynyddu capasiti'r bysus gan leihau'r amseroedd teithio a sicrhau gwasanaethau dibynadwy."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Bydd prif golledion economaidd yn sgil y feirws i'w teimlo yng nghanol dinas Caerdydd, sy'n gyfrifol am oddeutu traean o swyddi'r ddinas. Mae canol y ddinas yn gartref i nifer fawr o'r busnesau sydd eisoes wedi dioddef fwyaf ac a fydd yn parhau i ddioddef yn sgil y pandemig, oherwydd eu dibyniaeth ar niferoedd defnyddwyr gyda thua 45,000 o swyddi. Gallai dim ond gostyngiad o 20% yn yr economi olygu hyd at 10,000 o swyddi mewn perygl yn y sectorau hyn. Felly, mae'n hollbwysig cael cynifer o fusnesau yn ôl i weithio'n ddiogel cyn gynted â phosibl. Mae angen i Gaerdydd adennill hyder pobl leol, ymwelwyr, myfyrwyr a buddsoddwyr.
"Mae'n amlwg bod angen gweithredu ar frys i ail-agor canol y ddinas fel cyrchfan groesawgar. Mae ein trafodaethau gyda chyflogwyr lleol a gweithredwyr busnes wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Mae pawb yn adnabod y ddinas ac mae angen i'r economi ddechrau symud cyn gynted ag y bo'n ddiogel. Rydym am ganiatáu iddynt ddefnyddio gofod cyhoeddus am ddim mewn ffordd reoledig, a symleiddio'r broses drwyddedu i gefnogi busnesau a allai weld eu niferoedd cwsmeriaid yn cael eu lleihau'n aruthrol drwy ofynion cadw pellter cymdeithasol. Os gallwn agor mannau cyhoeddus dan do i rai busnesau, gall roi cyfle iddynt ddechrau arni eto a gall roi cyfle iddynt arbed swyddi."
Mae'r cynllun strategol ac adroddiad y Cyngor y cytunwyd arno gan Gabinet y Cyngor ddydd Iau 11 Mehefin, ar gael i'w darllen yma:
https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=4176&LLL=0X