Back
Diweddariad COVID-19: 18 Mehefin

Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: gwefan Cyngor Ariannol;mae Castell Caerdydd yn cynnal gŵyl Tafwyl ‘rhithwir' y penwythnos hwn; mae timau o bob rhan o'r Cyngor yn gweithio'n galed i asesu ac addasu adeiladau ysgol; a Ymweld â Chaerdydd ‘O Cartref'.

 

Gwefan Cyngor Ariannol

Mae Tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd wedi datblygu gwefan newydd sbon i roi cymorth i drigolion ar ystod o faterion ariannol gan gynnwys cyllidebu, hawlio grantiau budd-daliadau a disgowntiau, cyngor ar ddyledion a sicrhau'r incwm mwyaf posibl.

Mae'r wefan newydd yn cynnig llawer o wybodaeth am wahanol bynciau sy'n ymwneud ag arian ac mae'n cynnwys adran am faterion ariannol yn ystod argyfwng COVID-19, sy'n rhoi cyngor ar faterion megis cyflogaeth, cyngor ar dai a chael bwyd a hanfodion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae'n siŵr y bydd llawer o unigolion ac aelwydydd ar draws y ddinas yn teimlo effaith ariannol argyfwng COVID-19, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gwybod bod ein Tîm Cyngor Ariannol yma o hyd i helpu. Mae ein llinell gyngor ar agor o hyd chwe diwrnod yr wythnos a gall cwsmeriaid gysylltu â'r tîm drwy'r wefan hefyd."

Ewch i'n gwefan Cyngor Ariannol newydd ar:

www.cyngorariannolcaerdydd.co.uk

Llinell Gyngor: 029 2087 1071.

Mae llinellau ar agor:​
Dydd Llun - dydd Mercher, dydd Gwener 9am i 6pm
Dydd Iau 10am - 7pm
Dydd Sadwrn 9am-5:30pm

Gallwn helpu gydag amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • cael gafael ar fwyd ac eitemau hanfodol,​
  • budd-daliadau ac incwm,
  • cymorth gyda dyledion a
  • chyngor Gwasanaeth i Mewn i Waith a Chredyd Cynhwysol.

 

Mae Castell Caerdydd yn cynnal gŵyl Tafwyl ‘rhithwir' y penwythnos hwn

Bydd yr ŵyl flynyddol sy'n dathlu iaith a diwylliant Cymru yn cael ei ffrydio'n fyw ddydd Sadwrn 20 Mehefin.

Yn ogystal â'r gerddoriaeth fyw, darperir nifer o elfennau arferol Tafwyl, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol a gweithdai i blant.

Dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu rhoi allweddi Castell Caerdydd i Tafwyl ar gyfer yr ŵyl ddigidol eleni. Dyma un o fy hoff wyliau Cymraeg, sy'n cyfuno cerddoriaeth, diwylliant a'n hiaith mewn ffordd sy'n ddiymdrech, yn hynod bleserus ac yn agored i bawb.

"Wrth gwrs mae'r pandemig yn golygu na all yr ŵyl fwrw ymlaen â'r torfeydd enfawr y mae wedi'u denu dros y blynyddoedd diwethaf, ond trwy agor y castell ar gyfer y darllediad byw hwn, gobeithio y bydd yn atgoffa pawb o'r amseroedd gwych maent wedi'u cael yno yn y gorffennol, yn rhoi gwefr go iawn iddynt ar y diwrnod, ac yn gwthio eu chwant am gael dychwelyd y flwyddyn nesaf. "

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio ar AM - platfform ar-lein sy'n rhannu a dathlu creadigrwydd Cymru. Mae ap AM am ddim i'w lawrlwytho o Apple App Store a Google Play:

www.amam.cymru/ambobdim

ac mae modd gwylio ar gyfrifiadur ar:

www.amam.cymru

Darllenwch mwy yma:

https://tafwyl.org/cy/

 

Mae timau o bob rhan o'r Cyngor yn gweithio'n galed i asesu ac addasu adeiladau ysgol

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd ysgolion yn ailagor ddiwedd y mis hwn, mae timau o bob rhan o'r Cyngor yn gweithio'n galed i gynnal asesiadau ac addasiadau pwysig i adeiladau ysgol er mwyn sicrhau y gellir ymarfer ymbellhau corfforol yn ddiogel.

Bydd staff Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Adeiladu a Digwyddiadau ac Arlwyo'n ymweld â 127 o safleoedd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i helpu i'w paratoi ar gyfer croesawu disgyblion yn ôl.

 

Ymweld â Chaerdydd ‘O Cartref'

Mae tîm Croeso Caerdydd wedi bod yn brysur yn gweithio ar brosiect 'O Gartref', gan arddangos gweithgareddau cyfnod cloi cyffrous y ddinas a'u cyhoeddi ar eu gwefan i ymwelwyr a thrigolion eu gweld.

Eisiau mwynhau Caerdydd yn ddiogel ac yn rhithwir? Ewch i ‘O Gartref' Croeso Caerdydd i gael gwybod sut:

www.visitcardiff.com/from-home

Tra'ch bod chi yma, beth am danysgrifio i'r e-gylchlythyrau fel nad ydych chi'n colli unrhyw beth? Sgroliwch i waelod yr hafan a chliciwch ‘Cofrestrwch Heddiw'.