Back
Sut i osgoi problemau gyda gwylanod a phlâu

15.06.2020

Mae gan Gaerdydd boblogaeth naturiol o wylanod sy'n cael eu denu gan ffynonellau bwyd.

Er mwyn helpu i osgoi'r problemau hyn, dilynwch eich cyngor gyda'ch gwastraff bwyd:

  • Rhowch unrhyw fwyd gwastraff (boed wedi'i goginio a'i beidio) yn y cadi cegin
  • Cadwch y tu allan i'r cadi cegin yn lân ac yn rhydd o unrhyw ddiferion
  • Defnyddiwch fagiau bin am ddim y cyngor - cliciwch ar y ddolen hon i archeburhagor.
  • Cadwch y caead ar gau
  • Clymwch y bag a'i roi yn y cadi ymyl y ffordd
  • Os oes gennych ormod o fwyd gallwch ofyn am gadi ymyl y ffordd arall drwy archebuyma.
  • Rhowch rif neu enw'ch tŷ ar y cadi fel y gallwch nodi'ch un chi ar ôl i'r gwastraff bwyd gael ei gasglu
  • Rinsiwch eitemau fel poteli, tiniau, jariau a bocsys bwyd cyn eu rhoi yn y bagiau ailgylchu gwyrdd
  • Ewch a'ch bagiau ailgylchu gwyrdd a'ch cadi ymyl y ffordd ar gyfer bwyd gwastraff allan i'w gasglu bob wythnos
  • Defnyddiwch cadis bwyd a bagiau ailgylchu gwyrdd Cyngor Caerdydd yn unig er mwyn sicrhau y caiff eich gwastraff ei gasglu
  • Nodwch y gall ffynonellau bwyd eraill ddenu llygod mawr. Mae bwydo adar yn broblem fawr ar hyn o bryd yn yr un modd â bwyd sy’n gysylltiedig â chwningod, moch cwta ac ieir. Peidiwch â rhoi gwastraff bwyd ar y ddaear ar gyfer adar, yn hytrach dylech gael gwared arno’n briodol yn eich cadis. Os digwydd i chi ddod ar draws llygod mawr yn eich gard neu’r ardal gyfagos, cysylltwch â’r adran Rheoli Plâu drwy ffonio 029 2087 2934 neu e-bostio rheolipla@caerdydd.gov.uk <mailto:pestcontrol@cardiff.gov.uk> i gael rhagor o gyngor neu i drefnu triniaeth.

Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd a dyluniad y cadi wedi cael eu datblygu'n arbennig i stopio plâu rhag ymosod ar ffynonellau bwyd. Mae'r dyddiadau casgluyma.

LawrlwythwchAp Caerdydd Govi'ch atgoffa o'r dyddiadau casglu.