Back
Diweddaraf COVID-19: 9 Mehefin

Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: bydd y cynllun grant i fusnesau a effeithir gan yr argyfwng COVID-19 yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020; yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; a mae rhagor o gyfundrefnau torri gwair ‘unwaith'.

 

Dyddiad cau ar gyfer Grantiau Busnes COVID-19

Bydd y cynllun grant i fusnesau a effeithir gan yr argyfwng COVID-19 yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020.

Busnes sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer disgownt Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000. 

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn derbyn grant o £25,000. 

Gallai elusennau a sefydliadau dielw yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12k gael grant o hyd at £10k.​

Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys llenwch y ffurflen gais​ a dilynwch y prosesau a amlinellir.

Gwneud cais ar-lein yma:

https://apps8.cardiff.gov.uk/grantform/

 

Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar  Ddydd Mawrth  yn cael casgliad gwastraff gardd  ddydd Sadwrn yma, 13 Mehefin.

Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.

Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.

 

 

Mabwysiadu cyfundrefnau torri gwair sy'n dda i bryfed peillio mewn 18 safle newydd ledled Caerdydd

Mae rhagor o gyfundrefnau torri gwair ‘unwaith' sy'n dda i bryfed peillio wedi eu mabwysiadu mewn 18 safle newydd ledled Caerdydd

Mae'r safleoedd yn cwmpasu cyfanswm arwynebedd o 9 hectar, sy'n cyfateb i 12.5 cae pêl-droed. Mae'r arbrawf hwn yn rhan o waith parhaus y Cyngor i helpu i annog blodau gwyllt i dyfu a chreu cynefinoedd pwysig ar gyfer pryfed peillio, megis gwenyn a gloÿnnod byw, y mae eu niferoedd yn gostwng yn y DU.

Yr ardaloedd, nad yw'r glaswellt wedi ei dorri ynddynt eleni ac na chaiff ei dorri ond unwaith, yn gynnar yn yr hydref yw:

 

  • Pentwyn Drive (rhan) - Pentwyn
  • Gerddi Botaneg y Rhath (rhan) - Cyncoed
  • Sandies / Gerddi Rheilffordd - Penylan
  • Man Agored Pendragon - Llanisien
  • Heol y Felin / Yr Hollsaint - Rhiwbeina
  • Cyfnewidfa Gabalfa - Gabalfa
  • Parc Llanisien (rhan) - Llanisien
  • Parc y Mynydd Bychan (rhan) - y Mynydd Bychan
  • Gwlyptiroedd Parc Poced - Butetown
  • Parc y Tyllgoed (rhan) - Y Tyllgoed
  • Taff Embankment - Glan-yr-afon
  • Parc Caerdelyn (rhan) - Rhiwbeina
  • Parkfield Place - Gabalfa
  • Tir Hamdden Green Farm - Trelái
  • Marl (rhan) - Grangetown
  • Parc Fictoria (rhan) - Treganna
  • Ffordd y Coleg (rhan) - Ystum Taf
  • Gerddi Jellicoe - Cyncoed

 

Mae'r safleoedd newydd yn ychwanegol at y 24.5 hectar o ddolydd cynhenid, sy'n dda i bryfed peillio ac sy'n safle torri unwaith, sydd eisoes yn cael gofal gan y Cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bob blwyddyn rydym yn cael llawer mwy o geisiadau gan drigolion i dorri glaswellt yn eu parciau a mannau gwyrdd lleol nag yr ydym yn eu cael i adael i'r ardaloedd hyn dyfu'n wyllt, ond o ystyried y dirywiad yn nifer y pryfed peillio y mae ein cyflenwadau bwyd yn dibynnu arnynt, mae'n bwysig bod y Cyngor yn gwneud y peth iawn ac yn chwarae rhan wrth helpu i wrthdroi'r duedd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24053.html