Back
Mabwysiadu cyfundrefnau torri gwair sy’n dda i bryfed peillio mewn 18 safle newydd ledled Caerdydd
Mae rhagor o gyfundrefnau torri gwair ‘unwaith’ sy’n dda i bryfed peillio wedi eu mabwysiadu mewn 18 safle newydd ledled Caerdydd

Mae'r safleoedd yn cwmpasu cyfanswm arwynebedd o 9 hectar, sy'n cyfateb i 12.5 cae pêl-droed. Mae'r arbrawf hwn yn rhan o waith parhaus y Cyngor i helpu i annog blodau gwyllt i dyfu a chreu cynefinoedd pwysig ar gyfer pryfed peillio, megis gwenyn a gloÿnnod byw, y mae eu niferoedd yn gostwng yn y DU.

Yr ardaloedd, nad yw’r glaswellt wedi ei dorri ynddynt eleni ac na chaiff ei dorri ond unwaith, yn gynnar yn yr hydref yw:

·       Pentwyn Drive (rhan)  -  Pentwyn

·       Gerddi Botaneg y Rhath (rhan) - Cyncoed

·       Sandies / Gerddi Rheilffordd - Penylan

·       Man Agored Pendragon - Llanisien

·       Heol y Felin / Yr Hollsaint - Rhiwbeina

·       Cyfnewidfa Gabalfa - Gabalfa

·       Parc Llanisien (rhan) - Llanisien

·       Parc y Mynydd Bychan (rhan) - y Mynydd Bychan

·       Gwlyptiroedd Parc Poced - Butetown

·       Parc y Tyllgoed (rhan) - Y Tyllgoed

·       Taff Embankment - Glan-yr-afon

·       Parc Caerdelyn (rhan) - Rhiwbeina

·       Parkfield Place - Gabalfa

·       Tir Hamdden Green Farm - Trelái

·       Marl (rhan) - Grangetown

·       Parc Fictoria (rhan) - Treganna

·       Ffordd y Coleg (rhan) – Ystum Taf

·       Gerddi Jellicoe - Cyncoed


Mae'r safleoedd newydd yn ychwanegol at y 24.5 hectar o ddolydd cynhenid, sy'n dda i bryfed peillio ac sy’n safle torri unwaith, sydd eisoes yn cael gofal gan y Cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bob blwyddyn rydym yn cael llawer mwy o geisiadau gan drigolion i dorri glaswellt yn eu parciau a mannau gwyrdd lleol nag yr ydym yn eu cael i adael i'r ardaloedd hyn dyfu'n wyllt, ond o ystyried y dirywiad yn nifer y pryfed peillio y mae ein cyflenwadau bwyd yn dibynnu arnynt, mae'n bwysig bod y Cyngor yn gwneud y peth iawn ac yn chwarae rhan wrth helpu i wrthdroi'r duedd.”

"Mae'n bwysig pwysleisio nad yw hyn yn ymwneud ag arbed arian - bydd unrhyw arbedion a wneir yn fychan iawn, ond mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun ehangach a diogelu natur er budd y blaned a chenedlaethau'r dyfodol.

"Ond mae angen taro cydbwysedd – caiff ein cyfundrefnau torri glaswellt eu pennu yn ôl nodweddion ardal benodol ac ar gyfer beth y caiff ei defnyddio, ac ni allwn gyfaddawdu ar faterion diogelwch ar y ffyrdd, na gadael preswylwyr heb fannau gwyrdd addas gerllaw i fynd â’u cŵn am dro neu adael i'w plant chwarae.

"Bydd y safleoedd newydd hyn yn cymryd amser i ffynnu a sefydlu, ond dros amser byddant yn cynnig cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt yn ogystal â dod â lliw a bywyd gwyllt i'r ardaloedd hyn.

"Nid yr ardaloedd newydd hyn yw'r unig gamau rydym yn eu cymryd i ddiogelu bywyd gwyllt. Mae ein contractwyr yn gwanhau'r chwynladdwr a ddefnyddiwn i'r lefel isaf sydd bosibl – dim ond 0.00288 miligram i bob litr a ddefnyddir ar dir y cyngor sy'n gynhwysyn gweithredol, hynny yw 166 gwaith yn llai na chanllawiau'r UE. Mae'r gyfradd wanhau a thechnoleg trin mannau penodol yn unig a ddefnyddir gan ein contractwyr yn golygu ein bod eisoes yn defnyddio tua 80% yn llai o chwynladdwyr o gymharu â dulliau defnyddio blaenorol ar hyd ein ffyrdd a'n palmentydd, ac yn dilyn adolygiad y llynedd, yn 2020 byddwn yn defnyddio 20% yn llai o chwynladdwyr mewn parciau."

"Ond mae mwy i'w wneud o hyd, rydym yn gwybod hynny. Dyna pam, ymysg pethau eraill, y byddwn yn parhau i edrych ar feysydd lle y gallwn leihau faint o chwynladdwyr rydym yn eu defnyddio ymhellach, ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno mwy o safleoedd sy'n dda i bryfed peillio yn y dyfodol, ac yn ddiweddarach eleni byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Strategaeth Un Blaned a fydd yn mynd i'r afael â'r amryw heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth."