Back
Diweddariad COVID-19: 8 Mehefin

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: gweithredwyd cam cyntaf y cynllun peilot ar Wellfield Road dros y penwythnos, gyda lleoedd parcio wedi'u dileu o bob ochr y ffordd a chonau traffig dros dro i ehangu'r palmentydd er mayn i'r y cyhoedd allu dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol; talebau banc bwyd mewn Hybiau, a mae dosbarthiad parseli bwyd brys o'r pedwar Hyb sydd wedi parhau i agor trwy'r cyfnod cloi wedi dod i ben; yr hyn allwn ac na allwn eu derbyn yn ein canolfannau ailgylchu; atimau ARC Caerdydd yn cadw ein lleoliadau'n ddiogel yn ystod cyfnod y cloi.

 

Mae cam cyntaf cynllun peilot Wellfield Road yn weithredol

Gweithredwyd cam cyntaf y cynllun peilot ar Wellfield Road dros y penwythnos, gyda lleoedd parcio wedi'u dileu o bob ochr y ffordd a chonau traffig dros dro i ehangu'r palmentydd er mayn i'r y cyhoedd allu dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Caiff pedair ar ddeg coeden fedw, mewn blychau plannu ar wahân, eu cyflwyno ar ddiwedd mis Mehefin a chaiff y coed a bolardiau mwy parhaus eu gosod i gymryd lle'r conau traffig. Bydd hyn yn creu rhaniad mwy parhaol rhwng cerbydau'n gyrru ar y ffordd a cherddwyr yn defnyddio'r palmentydd.

Dyma'r cyntaf o bymtheng canolfan siopa cymdogaeth sy'n cael eu hasesu ar hyn o bryd i wneud gwelliannau yn sgil y gofynion ymbellhau cymdeithasol newydd i sicrhau eu bod yn ddiogel i'r cyhoedd eu defnyddio.

Bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn parhau yn eu lle hyd y gellir rhagweld, felly mae'n bwysig i'r cyhoedd ddeall, pan fo siopau nad ydynt yn hanfodol yn ailagor, bydd cyfyngiadau ar nifer y bobl a gaiff fynd i mewn i siop ar yr un pryd. Mae hon yn her i'r awdurdod lleol, oherwydd y bydd rhaid i bobl giwio allan ar y stryd cyn gallu mynd i mewn i'r siop.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Gyda'r disgwyl y bydd ymbellhau cymdeithasol yn rhan o'r ‘normal newydd' am beth amser i ddod, mae hyn yn creu her sylweddol i drigolion a'r awdurdod lleol.

"Chafodd palmentydd y ddinas mo'u cynllunio i ganiatáu pellter o ddau fetr rhwng pobl, felly bydd yn rhaid addasu gofod cyhoeddus i sicrhau y gellir cynnal ymbellhau cymdeithasol wrth i'r ddinas ddechrau ail-agor yn raddol ar gyfer busnes."

Mae'r lle ar gyfer beicwyr a cherddwyr eisoes wedi'i ehangu ar Stryd y Castell yng nghanol y ddinas, ac ehangwyd y palmant i mewn i'r ffordd o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan a Heol y Bont-faen, dros Bont Treganna, ar hyd Heol y Castell, Heol y Dug ac i fyny at gyffordd Heol y Gogledd - Boulevard de Nantes. Caiff y lle deuol hwn ei addasu i greu beicffordd pan gaiff y cynllun cymeradwy parhaol ei adeiladu.

Mae'r cam cyntaf i ehangu'r palmentydd ar Wellfield Road yn dilyn y cyhoeddiad uchelgeisiol ddydd Gwener diwethaf (5 Mehefin) ar gynlluniau'r cyngor i ailfodelu lle yng nghanol y ddinas, fel y bydd modd, pan fo'r ddinas yn barod i ailagor ar gyfer busnes, ei wneud mewn ffordd ddiogel a reolir -https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24027.html

 

Talebau banc bwyd mewn Hybiau

Mae dosbarthiad parseli bwyd brys o'r pedwar hyb sydd wedi parhau i agor trwy'r cyfnod cloi wedi dod i ben.

Casglwyd mwy na 500 o barseli o Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, Powerhouse, Llanedern a Hyb Trelái a Chaerau ers mis Mawrth.

Bydd yr hybiau hyn yn parhau i ddarparu talebau banc bwyd i aelwydydd nad ydynt yn hunan-ynysu ond yn cael hi'n anodd prynu bwyd oherwydd effaith ariannol yr argyfwng. Gall unrhyw un sydd angen cymorth alw heibio i'r hybiau lle bydd y daleb yn cael ei rhoi.

Yna gellir casglu parseli o ganolfannau dosbarthu Banc Bwyd Caerdydd ledled y ddinas. Darganfyddwch ble yma

https://cardiff.foodbank.org.uk/locations

Bydd ein tîm Cyngor Ariannol yn cysylltu ag unrhyw un sydd angen taleb ar ôl eu hymweliad i drafod eu hamgylchiadau a'r help a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Llinell Cyngor Cyngor Caerdydd 029 2087 1071hybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Yr hyn allwn ac na allwn eu derbyn yn ein canolfannau ailgylchu

Rydym wedi rhoi cyfyngiadau ar waith yn ein canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer ers i ni ailagor er mwyn i breswylwyr a chydweithwyr allu cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol i helpu atal lledaeniad Coronafeirws ac i'n helpu ni i reoli traffig.

Bydd angen i chi drefnu ar-lein cyn ymweld.Gallwch gadw slot mewn canolfan ailgylchu  yma.

Gweler isod restr o eitemau y byddwn yn eu derbyn, ond dylech ond ddod ag eitemau i'n safleoedd os na allwch eu storio'n ddiogel gartref heb risg o anaf neu niwed i'ch iechyd.

Yr hyn allwn ei dderbyn

  • Cardfwrdd
  • Pren
  • Gwastraff gardd - rhaid rhoi hwn yn rhydd yn y sgip.
  • Metel sgrap
  • Eitemau trydanol bychain e.e. tostiwr neu degell
  • Plastigau caled 
  • Peiriannau torri gwair
  • Strimers gerddi

Os nad yw eich eitemau wedi'u rhestru uchod, peidiwch dod â nhw. Ni chewch fynediad i'r safle.

Pethau na allwn eu derbyn

  • Ni dderbynnir eitemau mawr, swmpus oni bai eu bod wedi eu gwneud o un o'r deunyddiau a restrir uchod, eu bod yn ffitio yng nghist eich car a bod un person yn gallu eu cario'n ddiogel. Ni fydd ein staff yn gallu eich cynorthwyo i ddadlwytho eich car.
  • Cyfrifiaduron / sgriniau cyfrifiadur
  • Setiau teledu

Mae ein rhestr A-Y Ailgylchu wedi cael ei diweddaru i gynnwys y newidiadau newydd, gwiriwch eich eitemau  yma.

Ni ddylech deithio i'n canolfannau ailgylchu os ydych yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau COVID-19.

Am fwy o wybodaeth, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu

 

Timau ARC Caerdydd yn cadw ein lleoliadau'n ddiogel yn ystod cyfnod y cloi

Mae tîm ARC wedi parhau i ddarparu gwasanaeth proffesiynol ac ymroddedig drwy gyfnod y cloi yng Nghaerdydd.

Mae ARC yn darparu gwasanaeth amddiffyn ac ymateb 24/7 i bobl a lleoedd. Mae eu rôl wedi addasu ychydig hefyd o dan yr argyfwng iechyd presennol i gynnwys:

 

  • Caniatáu mynediad ‘annisgwyl' ar gyfer gwaith hanfodol i rai safleoedd cyngor
  • Sicrhau y glynir wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol mewn rhai adeiladau
  • Monitro teledu cylch cyfyng ar gyfer amrywiaeth o adeiladau'r Cyngor, h.y. llety gwarchod
  • Monitro gweithwyr allweddol sy'n defnyddio ein datrysiadau Loneworker
  • Monitro preswylwyr sy'n agored i niwed sydd â nam gwybyddol

Gan fod Hyb y Llyfrgell Ganolog wedi aros ar agor i'r cyhoedd ar sail apwyntiad yn unig ar gyfer rhai gwasanaethau, casglu bagiau gwyrdd a pharseli banciau bwyd, mae'r tîm diogelwch yno wedi parhau i weithio, gan sicrhau bod yr adeilad yn parhau i fod yn ddiogel ac yn saff i'r staff a'r cyhoedd.

Mae'r wardeiniaid ardal yn cwblhau tasgau megis agor a chau ysgolion sy'n cael eu defnyddio fel canolfannau gweithwyr allweddol, mynd ar batrol heibio i adeiladau'r cyngor gan gynnwys hybiau a mynychu pan fo larwm yn canu, ymateb i achosion o dân a larymau tresmaswyr, adrodd ac ymateb i ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r tîm wedi addasu eu tasgau gwaith i gydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch COVID-19. 

Mae tîm ARC ynghyd â Chymorth Busnes hefyd wedi bod yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer dosbarthu cyflenwadau o PPE hanfodol y tu allan i oriau gwaith ar draws nifer o sefydliadau cyngor a chartrefi gofal yng Nghaerdydd yn ystod argyfwng COVID-19 gan sicrhau bod gweithwyr allweddol yn cael eu hamddiffyn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

https://www.cardiffarc.co.uk/?lang=cy