2/6/20
Mae gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
O ddydd Llun 8 Mehefin bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn gallu archebu detholiad o lyfrau i'w casglu o un o'r pedwar hyb craidd sydd wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod cloi, wrth i'r Cyngor ddechrau ar y broses o ailddechrau gwasanaethau fesul cam o hybiau'r ddinas.
Bydd cam 1 yr adferiad yn galluogi cwsmeriaid i archebu llyfrau ymlaen llaw naill ai drwy gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd neu drwy ffonio llinell ffôn llyfrgell newydd lle byddant yn cael cynnig dewis o bum llyfr yn seiliedig ar eu diddordebau a genres a ffefrir.
Yna bydd staff y llinell llyfrgell yn trefnu slot amser pan fydd modd casglu'r llyfrau, o un o'r pedwar hyb - Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hwb Trelái a Chaerau, Hwb Llaneirwg a The Powerhouse, Llanedern. Ceir benthyg y llyfrau am y cyfnod arferol sef tair wythnos a bydd angen eu dychwelyd i'r un hyb y cawson nhw eu casglu ohono, trwy apwyntiad.
Y llinell ffôn llyfrgell newydd yw 029 2087 1071. Dylai cwsmeriaid ddewis opsiwn 2. Mae catalog y llyfrgelloedd ar gael ymahttps://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/lle gall trigolion hefyd ddod yn aelodau newydd o'r gwasanaeth llyfrgell neu ailosod eu PIN.
Gellir dosbarthu llyfrau i gartrefi pobl yng Nghaerdydd os na allant ymweld â'r hybiau am eu bod yn hunan-warchod neu'n hunan-ynysu. Bydd staff yn ffonio neu'n e-bostio cwsmeriaid i roi gwybod am y slotiau dosbarthu sydd ar gael.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydyn ni'n falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd hwn i gwsmeriaid. Rydym yn gwybod bod pobl wedi methu defnyddio ein hybiau a'n llyfrgelloedd dros y misoedd diwethaf felly mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen wrth i ni weithio ar y gwaith o adfer ac ailagor ein cyfleusterau fesul cam.
"Mae'n bwysig cofio nad yw'r pedwar hyb lle bydd y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei ddarparu ohonynt ar agor fel arfer ac nid yw'r gwasanaeth llyfrgell yn gwbl weithredol eto. Bydd angen i gwsmeriaid gasglu a dychwelyd llyfrau ar amser penodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol a helpu i gadw ein staff a'n cwsmeriaid yn ddiogel.
"Rwyf hefyd yn falch ein bod yn gallu bodloni anghenion ein cwsmeriaid hŷn ac agored i niwed drwy ddarparu gwasanaeth dosbarthu i'r cartref, fydd yn galluogi'r rhai sy'n hunan-warchod neu'n hunan-ynysu i aros gartref. Rydym hefyd yn treialu benthyca teclynnau darllen â llyfrau wedi'u llwytho arnynt i gwsmeriaid sy'n gaeth i'r tŷ, y gellid ei gyflwyno'n ehangach, os bydd yn llwyddiannus.
Er i wasanaethau llyfrgell o adeiladau ddod i ben ar ddechrau argyfwng y Coronafeirws, mae cwsmeriaid yn dal i allu cael mynediad i wasanaethau digidol ac mae adnoddau newydd, fel amseroedd odli, clybiau llyfrau, cwisiau a gweithgareddau cyfnod cloi i blant, wedi'u datblygu ac yn cael eu cynnal ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor.
Mae gwasanaethau hyb fel clybiau swyddi, sesiynau iechyd a lles a dysgu i oedolion hefyd wedi cael eu sefydlu'n ddigidol a bydd y Cyngor yn parhau i ddatblygu'r platfformau hyn, yn ogystal â gwefan 'hyb rhithwir' newydd yn yr wythnosau nesaf i helpu cwsmeriaid i gael yr help sydd ei angen arnynt o'u cartref, cyn belled ag y bo modd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae ein hadnoddau a'n platfformau digidol wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ystod y cyfnod cloi gyda'r defnydd o e-lyfrau, llyfrau llafar, cylchgronau digidol ac ati yn cynyddu'n sylweddol. Gall cwsmeriaid barhau i gael gafael ar yr amrywiaeth o adnoddau am ddim a byddwn yn annog pawb i roi cynnig arnynt os nad ydynt wedi gwneud hynny'n barod.
"Mae'r gwasanaeth yn parhau i fuddsoddi yn yr adnoddau hyn i greu ystod ehangach o ddewisiadau i gwsmeriaid eu mwynhau ar eu dyfeisiau eu hunain gartref.
"Dim ond y cam cyntaf ar y ffordd i wella ein gwasanaethau hyb yw hwn a byddwn yn monitro ac yn adolygu llwyddiant y gwasanaeth clicio a chasglu wrth i ni geisio dod â mwy o wasanaethau'n ôl i'n hybiau a'n llyfrgelloedd yn y dyfodol."
Bydd mesurau cwarantin a glanhau yn eu lle ar gyfer llyfrau a ddychwelir cyn iddynt gael eu hailddefnyddio i leihau'r siawns o ledaenu COVID-19. Bydd cwsmeriaid sy'n archebu llyfrau ar-lein ond yn gallu archebu llyfrau sydd ar gael ar hyn o bryd yn eu hyb casglu o ddewis gan nad oes unrhyw stoc yn cael ei drosglwyddo rhwng hybiau ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, nid oes angen i gwsmeriaid a oedd yn benthyg llyfrau cyn y cyfnod cloi, gyda dyddiadau dychwelyd yn ystod yr amser hwnnw, ddychwelyd y llyfrau hyn gan fod y gwasanaeth yn adnewyddu'r benthyciadau hyn yn awtomatig.
Bydd amrywiaeth gyfyngedig o wasanaethau, gan gynnwys cyngor ariannol, y gwasanaeth i Mewn i Waith a chymorth gyda budd-daliadau yn parhau i fod ar gael o'r pedwar hyb ar sail apwyntiad yn unig, pan na ellir cynorthwyo cwsmeriaid dros y ffôn neu dros e-bost.
Mae Llinell Gymorth y Cyngor yn parhau ar agor ar 029 2087 1071 neu dros e-bost ynhybcynghori@caerdydd.gov.uk
Bydd y trigolion yn dal i allu casglu bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd o'r pedwar hyb sydd ar agor ar hyn o bryd.