Back
Wythnos Gwirfoddolwyr: Amser dweud diolch


 

1/6/20
Yr wythnos hon, rydyn ni'n dathlu gwirfoddolwyr o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys criw Gyda'n gilydd dros Gaerdydd sy'n 1,200 o bobl, a ddaeth i lenwi'r bwlch pan oedd angen ar y ddinas.

 

Yn ystod dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr (Mehefin 1-7) yr wythnos hon, mae'r Cyngor yn achub ar y cyfle i ddangos diolchgarwch i bawb a wirfoddolodd, yn arbennig i'r bobl hynny a helpodd gydag ymdrechion y ddinas i ofalu am y bobl sy'n agored i niwed a'r rheiny oedd mewn angen yn ystod y cyfnod cloi.

 

Sefydlwyd y cynllun Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd gan y Cyngor ar ddechrau'r argyfwng COVID-19 ac ymatebodd llu o drigolion ar draws y ddinas i helpu eraill yn ystod yr adeg anodd hon.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Eleni, mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn digwydd mewn adeg argyfyngus, pan fo pandemig byd-eang wedi effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau, pan ddaeth cymdogion, aelodau'r gymuned a gwirfoddolwyr lleol yn bwysicach nag erioed yn cefnogi y bobl hynny sydd mewn angen.

 

"Felly mae hi'n bwysicach nag erioed cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr yn ystod yr argyfwng hon a'u cyfraniad bob dydd yn ein dinas. Diolch. Rydych chi yn gwneud gwaith anhygoel a rydyn ni'n hynod falch ohono."

 

Erbyn hyn, mae mwy na 1,200 o bobl wedi eu cofrestru gyda chynllun Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd sy'n gweithredu fel gwasanaeth brocera, yn paru pobl sydd eisiau helpu gyda chyfleoedd gwirfoddoli ledled y ddinas, gan gynnwys cymorth i dimau'r cyngor ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r bobl hynny sydd mewn angen.

 

Yn gweithio gyda staff y Cyngor, mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan allweddol yn paratoi ac yn dosbarthu parseli bwyd a hanfodion i bobl sy'n profi anawsterau i gael cyflenwadau yn ystod y pandemig oherwydd eu bod yn hunan-ynysu neu oherwydd effaith ariannol yr argyfwng.

 

Mae mwy na 5,100 o barseli brys wedi eu dosbarthu erbyn hyn i bobl mewn angen ers diwedd mis Mawrth.

 

Mae gan wirfoddolwyr rôl bwysig i'w chwarae wrth gefnogi busnes y Cyngor bob dydd, nid yn unig yn ystod y cyfnod argyfwng hwn. Mae tîm arobryn o wirfoddolwyr wedi cynorthwyo mewn hybiau ledled y ddinas yn y blynyddoedd diwethaf, gan roi amser i gwsmeriaid yn uniongyrchol yn y cyfleusterau prysur.

 

Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi staff mewn Clybiau Swyddi, Sesiynau Cynhwysiant Digidol  a gyda Chyngor Ariannol. Maen nhw'n cynorthwyo cleientiaid i lenwi ffurflenni budd-daliadau ac yn helpu plant mewn clybiau gwaith cartref.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae ein dinas yn cael ei gwella bob dydd gan ymdrechion y bobl sy'n gwirfoddoli mewn nifer fawr o agweddau ar fywyd, ond yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld ymateb anhygoel i'r coronafeirws drwy ein cynllun ein hunain, y grwpiau Cyd-Gymorth Covid-19, grwpiau dosbarthu bwyd lleol a rhwydweithiau cymorth lleol. Siopa i gymdogion, dosbarthu parseli bwyd, casglu meddyginiaethau gan fferyllfeydd, mynd â chŵn am dro, gwirio lles, a sgyrsiau llesiant â'r rheiny sydd eu hangen - mae'r gweithgareddau hyn i gyd wedi codi caredigrwydd gwirfoddolwyr, eu cymhelliant a'u hanhunanoldeb i lefel arall.

 

"Rydym ni'n hynod ddiolchgar."

 

I ddysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd, ac am gynlluniau a sefydliadau eraill yng Nghaerdydd sy'n chwilio am gymorth, ewch i:www.gwirfoddolicaerdydd.gov.uk