Back
Diweddariad COVID-19: 28 Mai

Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: bydd casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau ym mis Mehefin a'r wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf; cymorth i leihau'r risg mewn cartrefi gofal; mae gweithwyr ieuenctid Caerdydd yn rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr ieuenctid ledled Cymru; a Tîm Iechyd Dechrau'n Deg Caerdydd yn Codi Arian i Elusen Cwtch Baby Bank.

 

Bydd casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau ym mis Mehefin a'r wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf

Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.

Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.

 

  • Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Llun, caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ddydd Sadwrn, 6 Mehefin.
  • Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Mawrth, caiff eich gwastraff gardd gwyrdd ei gasglu ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.
  • Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Mercher, caiff eich gwastraff gardd gwyrdd ei gasglu ddydd Sadwrn, 20 Mehefin.
  • Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Iau, caiff eich gwastraff gardd gwyrdd ei gasglu ddydd Sadwrn, 27 Mehefin.
  • Bydd y casgliad untro olaf ar 4 Gorffennaf ar gyfer preswylwyr sydd fel arfer yn cael casgliadau gwastraff ar ddydd Gwener.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn dangos pryd y bydd y casgliadau ychwanegol hyn yn digwydd ym mhob ward yn y ddinas.

Dydd Sadwrn 6 Mehefin -Creigiau/Sain Ffagan, Radur/Pentre Poeth, y Tyllgoed, Pentyrch, Tongwynlais, Trelái a Chaerau

Dydd Sadwrn 13 Mehefin- Treganna, Ystum Taf, Llandaf, Felindre, Butetown, Grangetown a Glan-yr-afon

Dydd Sadwrn 20 Mehefin -Cyncoed, Pentwyn, Plasnewydd, Gabalfa, Cathays a Phen-y-lan

Dydd Sadwrn 27 Mehefin -Pontprennau/Pentref Llaneirwg, Trowbridge, Llanrhymni, Adamsdown, Tredelerch a Sblot

Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf -Rhiwbeina, Llanisien, Llys-faen, y Mynydd Bychan a'r Eglwys Newydd

 

Cymorth i leihau'r risg mewn cartrefi gofal

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n gweithio gyda chartrefi gofal nad ydynt wedi cael unrhyw achosion o COVID-19 i ddarparu lle diogel i bobl fregus y mae angen iddynt fod ‘dan gwarantîn' ar ôl cyfnod yn yr ysbyty ac nad ydynt yn gallu gwneud hyn yn ddiogel yn eu cartref arferol.

Bydd hyn yn ategu canllawiau Llywodraeth Cymru, sy'n nodi y dylai pobl sy'n profi'n negatif wrth adael yr ysbyty hunan-ynysu am 14 diwrnod. Ar ôl y cyfnod hwn bydd angen ail brawf negatif arnynt ar ddiwedd y cyfnod cwarantîn.

 

Mae gweithwyr ieuenctid Caerdydd yn rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr ieuenctid ledled Cymru

Mae gweithwyr ieuenctid yng Nghaerdydd yn chwarae rhan yn y project 'holi gweithiwr ieuenctid', sef rhwydwaith o weithwyr ieuenctid sydd ar gael i gynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc, rhieni, gwirfoddolwyr a Gweithwyr Ieuenctid ledled Cymru.

Cynhaliodd y tîm EOTAS (Addysg heblaw yn yr ysgol) Ymgynghoriad â 62 o bobl ifanc, gwirfoddolwyr a Gweithwyr Ieuenctid ledled Cymru i ddweud eu dweud ar 'Beth yw Gwaith Ieuenctid' gan greu geiriau a themâu allweddol y mae gwaith ieuenctid yn ymwneud â hwy.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynhyrchu cyfres o adnoddau a chymwysterau digidol ar hyn o bryd wrth iddynt ddatblygu ffordd o weithio newydd ar gyfer y 21ain ganrif, sy'n cynnwys penodi Uwch Swyddog Ieuenctid sy'n gyfrifol am waith ieuenctid digidol, cynhyrchu cyfres o ganllawiau YouTube ac arweiniad hawdd eu dilyn, google classroom a phroffiliau digidol yr holl bobl ifanc yr ydym yn gyfrifol amdanynt, gan gydweithio er mwyn gwella'r amddifadedd digidol a mynediad i'r adnoddau hyn ar gyfer pob person ifanc.

Sianel YouTube Cyngor Ieuenctid Caerdydd ar gyfer fideos arweiniad:

https://www.youtube.com/user/CardiffYouthCouncil

 

Tîm Iechyd Dechrau'n Deg Caerdydd yn Codi Arian i Elusen Cwtch Baby Bank

Mae'r Tîm Iechyd yn Dechrau'n Deg Caerdydd yn #GweithioDrosGaerdydd i gefnogi teuluoedd agored i niwed rhwng 0-3 oed 11 mis ar ystod o faterion i rieni a phlant.

Yn ogystal â hyn, trefnodd y tîm yn East Moors Road daith gerdded elusennol yn ddiweddar a rhedeg o amgylch adeilad y swyddfa i godi arian ar gyfer Cwtch Baby Bank, gan fynd dros 26 milltir rhyngddynt.

Mae Cwtch Baby Bank yn darparu offer, dillad, teganau a phethau ymolchi hanfodol ar gyfer babanod newydd-anedig i 24 mis oed, trwy gyfeiriadau gan ofal cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau cefnogi perthnasol eraill. Mae'r holl roddion a dderbynnir yn mynd yn uniongyrchol i'r bobl sydd eu hangen yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. 

Oherwydd pandemig Covid-19 nid yw'r elusen yn gallu derbyn rhoddion o ddillad ac offer mwyach ac mae angen dybryd am roddion ariannol er mwyn parhau i fynd drwy'r cyfnod heriol hwn.

Byddai'r tîm yn ddiolchgar i unrhyw gydweithwyr sydd am gefnogi eu hymdrechion i godi arian drwy gyfrannu i Cwtch naill ai drwy eu tudalen  JustGiving neu  Rhestr Ddymuniadau Amazon.

Da iawn i bawb a gymerodd ran!