Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: y diweddaraf ar Ganolfan Ailgylchu Bessemer Close, a nodyn i'ch atgoffa y gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar gyfer Ffordd Lamby o ddydd Sul 31 Mai; Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol; maes parcio ym Mharc Cefn Onn; a Llyfrgelloedd Caerdydd, deunydd darllen a gweithgareddau
Diweddariad ar ganolfannau ailgylchu yng Nghaerdydd
Ail-agorodd Canolfan Ailgylchu Bessemer Close ar sail apwyntiad yn unig ddydd Mawrth, 26 Mai. Dros y ddeuddydd diwethaf, mae 640 o breswylwyr wedi defnyddio'r safle hwn ar ôl gwneud apwyntiadau drwy'r system archebu ar-lein.
Yr amser cyfartalog i breswylydd fynd i mewn i'r ganolfan ailgylchu, gwaredu ei ailgylchu a gadael y safle yw tua 15 munud. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol â rhannau eraill o Gymru, gydag amseroedd aros o hyd at bedair awr i fynd i mewn i gyfleuster mewn rhai mannau yn ôl y sôn.
Bydd Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby yn ailagor ddydd Sul, 31 Mai, ond caniateir mynediad ddim ond os yw preswylwyr yn gwneud apwyntiad.
Yr unig eitemau y gellir eu cyflwyno i'r canolfannau ailgylchu am y tro yw cardfwrdd, pren, gwastraff gardd, metel sgrap, eitemau trydanol bach a phlastigau caled.
Ers lansio'r system archebu ar-lein, amser cinio dydd Gwener diwethaf, mae 4,300 a apwyntiadau wedi eu harchebu yn y ddwy ganolfan ailgylchu. Mae 2,345 apwyntiad wedi'u trefnu ar gyfer Bessemer Close a 1,955 ar gyfer Ffordd Lamby.
Er mwyn sicrhau y gellir cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, ni chewch ddod â mathau penodol o wastraff i'r cyfleusterau hyn. Mae dogfen ‘cwestiynau ac atebion' wedi'i chreu i helpu'r cyhoedd i ddeall pam y mae'r trefniadau newydd ar waith:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23933.html
Bydd y ddwy ganolfan ailgylchu ar agor rhwng 8:30am a 4:30pm saith diwrnod yr wythnos. Dim ond ar-lein y gall preswylwyr archebu apwyntiad drwy wefan y Cyngor www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu . Ni chaniateir mynediad i'r safle i unrhyw berson a ddaw i'r canolfannau heb apwyntiad.
Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu miloedd o ddyfeisiau digidol a donglau band eang drwy Gronfa Prosiect Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yng Nghaerdydd sydd wedi methu â dysgu ar-lein tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.
Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gydag ysgolion ar draws y ddinas i gyflawni'r cynllun, a fydd yn gweld dros 5000 o ddyfeisiau Chromebook neu i-Pad yn cael eu benthyg gan ysgolion sy'n bodoli eisoes neu eu prynu, a 2500 o ddonglau band eang yn cael eu harchebu.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, er mwyn i blant a phobl ifanc barhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein, tra bod ysgolion ar gau.
"Rydym wedi bod yn casglu gwybodaeth i bennu faint yn union o ddisgyblion sydd angen cymorth digidol ac mae tîm prosiect penodol wedi'i sefydlu i gyflwyno'r cynllun newydd gyda chymorth ein hysgolion.
"Yn bwysig, yn ogystal â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu parhau i ddysgu ac ymgysylltu ag addysg yn ystod yr argyfwng iechyd, rydym hefyd yn bwriadu i hyn fod yn rhan o ateb hirdymor i gefnogi dysgu o bell ar ôl y cloi mawr."
Maes parcio ym Mharc Cefn Onn
Sylwer bod y maes parcio ym Mharc Cefn Onn ar gau ar hyn o bryd oherwydd y gwaith ffordd sy'n cael ei wneud ar Cherry Orchard Road.
Bydd y maes parcio yn ailagor ddydd Gwener 29 Mai. Bydd llefydd parcio'n brin yn ystod yr haf oherwydd y gwaith adnewyddu parhaus ar adeilad y toiledau.
Mae'r parc dal ar agor.
Cofiwch, #ArhoswchGartrefAchubwchFywydau ond os byddwch yn mynd allan i ymarfer corff yn eich parc lleol, atgoffir ymwelwyr i aros yn ddiogel a chynnal pellter o 2 fetr oddi wrth eraill.
Llyfrgelloedd Caerdydd - deunydd darllen a gweithgareddau
Mae deunydd darllen a gweithgareddau ar gyfer y cyfnod cloi i'w cael yng nghatalog Llyfrgelloedd Caerdydd yma: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy
a gwefan y Cyngor yn: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/Pages/default.aspx
Benthyciwch am ddim ar eich dyfais:
Os nad ydych yn aelod, gallwch ymuno ar-lein yma: