Back
Lansio project cymunedol 'Arhoswch Gartref, Plannwch a Thyfwch!'
Mae Planhigfeydd Parc Bute yn gweithio gyda grwpiau tyfu cymunedol a gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd ar brosiect 'Arhoswch Gartref, Plannwch a Thyfwch' er mwyn helpu i annog trigolion i dyfu eu llysiau a'u perlysiau eu hunain yn ystod cyfnod y cloi.

Diolch i gyllid gan Food For Life Get Togethers bydd eginblanhigion llysiau a dyfir ym mhlanhigfeydd Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Courgettes ' Midnight', Pys 'Shiraz', India-corn 'Goldcrest', Ciwcymer 'Carmen' a mwy, yn cael eu dosbarthu gan  fenter gymdeithasol y Wiwer Werdd  yn y Sblot i drigolion lleol, teuluoedd a sefydliadau fel cartrefi gofal, llochesi i'r digartref a Chanolfan Pobl Fyddar Caerdydd drwy rwydwaith Caerdydd Fwytadwy.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys Eartha yn y Rhath, Tyfu Caerdydd yn Nhrelái/Fairwater a Growing Street Talk yn Grangetown/Glanyrafon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu darparu cefnogaeth bwysig i'r prosiect cymunedol hwn a chwarae rhan yn y gwaith o helpu i gael mwy o bobl i dyfu eu llysiau eu hunain."

"Mae'r tîm ym Mharc Bute yn gwneud gwaith gwych gan dyfu amrywiaeth eang o blanhigion ar gyfer nifer o barciau a mannau gwyrdd Caerdydd, trwy gynhyrchu mêl o'u cychod gwenyn a thrwy ddarparu lle tyfu ar gyfer mentrau cymdeithasol lleol - mae hon yn enghraifft wych arall o sut y gallwn gefnogi ein cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Dwedodd Rebecca Clark o’r Wiwer Werdd "Rydyn ni wedi bod mor falch o weld y don o ddiddordeb sydd wedi bod i dyfu eich pethau eich hun dros y misoedd diwethaf ac roedden ni am wneud rhywbeth i gefnogi ac annog hyn yng Nghaerdydd.

"Bydd cydweithio â phlanhigfa Parc Bute i dyfu'r eginblanhigion hyn yn golygu y bydd llawer o drigolion a grwpiau ar draws y ddinas yn gallu cael gafael ar blanhigion am ddim yn ogystal â chefnogaeth ac adnoddau i adeiladu eu sgiliau a'u hyder.'

"Fydden ni ddim yn gallu cynnal prosiect ar y raddfa hon heb bartneru gyda grwpiau lleol fel Tyfu Caerdydd, Eartha, Growing Street Talk a Ffynnu i'n helpu i ddosbarthu'r planhigion hyn i'r rhai sydd eu hangen."

Bydd y Wiwer Werdd yn dosbarthu planhigion yn y Sblot ac Adamsdown. Os ydych chi'n byw yn yr ardaloedd hynny, byddwch yn gallu casglu planhigion am ddim ar ddyddiadau penodol ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf - y dyddiad cyntaf yw dydd Sadwrn 30 Mai a gallwch gasglu eich planhigion o ardd flaen 222 Railway Street am 10am.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Facebook ma: https://www.facebook.com/events/735210727017424/

Bydd casgliadau/danfoniadau hefyd ar gael mewn rhannau eraill o'r ddinas, ond dylech gofio fod y grwpiau hyn yn cymryd rhan yn wirfoddol ac efallai na fydd ganddynt y gallu i ddosbarthu planhigion i bawb sy'n gofyn amdanynt.