Back
Gwasanaethau angladd yn dychwelyd i’r drefn cyn Covid19
Bydd gwasanaethau angladd 45 munud yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd unwaith eto ar ôl iddynt gael eu cyfyngu i 30 munud am ugain diwrnod.

Cyflwynwyd gwasanaethau byrrach, ar ben y penderfyniad i gynnal angladdau ar chwe diwrnod yr wythnos, i gynyddu nifer yr angladdau y gellid eu cynnal yn ystod y pandemig Covid-19 a sicrhau nad oedd angen i bobl mewn profedigaeth aros yn rhy hir am wasanaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae ein tîm Gwasanaethau Profedigaeth, a'r nifer o staff ychwanegol sydd wedi cael eu hadleoli i'r gwasanaeth, wedi gwneud gwaith gwych yn ystod cyfnod hynod heriol.

"Mae eu tosturi a’u proffesiynoldeb wrth ddelio â thrasiedi Covid-19 yn haeddu ein diolch a'n cydnabyddiaeth, ond fe wn i, fel pawb arall, y bydd y tîm yn falch ein bod unwaith eto'n gallu cynnig ychydig bach o amser ychwanegol i bobl gael galaru dros eu hanwyliaid."

Bydd gwasanaethau 45 munud yn cael eu hailgyflwyno o 26 Mai.