25/05/20
Cafodd ymagwedd ‘un ddinas' Caerdydd i fynd i'r afael â COVID-19 ei chanmol gan arweinydd Cyngor Caerdydd sy'n dweud bod rhaid i'r ddinas ‘barhau i weithio gyda'n gilydd' i sicrhau bod prifddinas Cymru'n gwella o effeithiau'r pandemig.
Yn ysgrifennu cyn y Cyngor Llawn cymerodd arweinydd y ddinas, Y Cynghorydd Huw Thomas y cyfle i ddiolch i weithwyr allweddol, staff y sector cyhoeddus a phreswylwyr am y rolau pwysig maent oll wedi'i chwarae wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 265 o farwolaethau o Covid-19 hyd at 1 Mai. Rydym yn gwybod, y tu ôl i bob un o'r niferoedd mae trasiedi bersonol ofnadwy, ac rydym yn meddwl am bawb yr effeithiwyd arnynt.
"Cafodd y cyfnod cloi effaith fawr ar bob agwedd ar fywyd yn y ddinas. Rydym yn byw trwy gyfnod o newid digynsail. Drwyddi draw, rwyf wedi cael fy nharo gan hyblygrwydd, cryfder a dewrder nodedig ein dinas, ei thrigolion a'i sector cyhoeddus.
"Mae'r Cabinet a finnau'n hynod falch o ymateb y Cyngor yn ystod yr hyn sy'n parhau fel cyfnod anodd a phoenus, ac rydym mor ddiolchgar am y gwaith y mae staff y cyngor wedi'i wneud i gefnogi ein cymunedau a'r llu o deuluoedd y mae COVID yn effeithio arnynt. Mae'n glir i mi bod yr ymagwedd ‘un ddinas' hon yn ein helpu i fynd i'r afael â'r achosion, a'r ymagwedd ‘un ddinas' y bydd ei hangen arnom er mwyn dod o hyd i'n ffordd yn ôl i fywyd normal.
"Ar hyn o bryd daethpwyd â'r ddinas ynghyd ac mae'n gweithio ac yn ymladd gyda'i gilydd i drechu'r feirws hwn. Dyma beth rwy'n ei olygu gan ‘ymagwedd un ddinas' - gweision cyhoeddus dewr yn gweithio gyda'i gilydd ar draws y GIG, y Cyngor, yr Heddlu a'r Gwasanaethau Tân; haelioni eithriadol dinasyddion Caerdydd sy'n gwirfoddoli i helpu cymdogion, neu'n cyfrannu'n ariannol i ailstocio Banciau Bwyd; ymroddiad gweithwyr allweddol yn y meysydd manwerthu, trafnidiaeth a logisteg i gyflenwi ein hanghenion pob dydd i ni. Yr ysbryd hwn o gyd-berthyn sy'n ein helpu i fynd trwodd, ac mae'n rhaid i ni dynnu ar hyn o hyd yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Yn y Cyngor Llawr ddydd Iau nesaf, 21 Mai, bydd y Cynghorydd Thomas yn dweud wrth yr aelodau etholedig y bydd ei Gabinet yn mabwysiadu ymagwedd Ailgychwyn, Adfer ac Adnewyddu i arwain Caerdydd allan o'r argyfwng Covid-19.
Bydd y broses tri cham yn cynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Ers peth amser, buom yn cynlluniau ar gyfer llacio'r mesur clio. Rydym wedi gwneud y gwaith hwn gydag egwyddorion allweddol mewn cof. Bydd y gwasanaethau sy'n ailddechrau yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau diogelwch staff a dinasyddion. Mae'n rhaid i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan effaith y feirws gael eu cefnogi a'u diogelu. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ailddechrau economi'r ddinas a bywyd y ddinas mewn ffordd diogel, gan ganolbwyntio ar atal y feirws rhag lledaenu. Drwyddi draw byddwn yn agored ac yn ymgysylltiedig, ac yn barod i newid ein hymagwedd wrth i ni ddysgu rhagor.
"Mae gwaith sy'n perthyn i adferiad economaidd wedi dechrau. Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu ymateb strategol i gefnogi'r ddinas i ddod allan o'r argyfwng. Bydd y gwaith ymgysylltu'n parhau ac yn y dyfodol bydd yn cynnwys pob partner allweddol - gan gynnwys y gymuned busnes - yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod.
"Mae codi i her Covid-19 wedi dibynnu'n sylfaenol ar ymroddiad, angerdd a sgiliau gweithwyr allweddol, staff y cyngor a gweision cyhoeddus a thrigolion ein dinas. Mae'n glir, fodd bynnag, bod y ddinas yng ngafael y pandemig o hyd ac mae'r Cyngor yn parhau i weithredu ar sail argyfwng. Rwyf eisiau pwysleisio, felly, er bod nifer yr heintiadau newydd a marwolaethau yng Nghaerdydd wedi bod yn gostyng ers wythnosau lawer, mae'r argyfwng o bell o fod drosodd. Mae ein neges i Gaerdydd ar hyn yw bryd yn parhau: aros gartref, amddiffyn y GIG ac achub bywydau.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu eu rheoliadau parthed yr argyfwng Covid-19 ar 28 Mai. Er bod llawer yn parhau'n ansicr, mae'n glir na fydd y misoedd i ddod yn cynnwys dychweliad syml i fywyd cyn-Covid. Bydd angen i sut y caiff gwasanaethau'r Cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eu darparu addasu, bydd sut y mae pobl yn byw eu bywydau, yn teithio, yn gweithio ac yn mwynhau eu hunain yn eu hamser rhydd hefyd yn newid. Ond, yn gweithio gyda'n gilydd, rwy'n gwybod y byddwn yn dod o hyd i ffordd o ymateb, addasu a ffynnu."