Back
Y canwr o warchodwr yn perfformio yng Nghastell Caerdydd yn ystod y cloi mawr
Manic Street Preachers, Nile Rodgers, The Killers, Paul Weller – mae'r rhestr o’r cerddorion chwedlonol sydd wedi chwarae gigs gerbron miloedd o gefnogwyr brwd yng Nghastell Caerdydd yn eithaf trawiadol, ond gyda'r Castell ar gau ar hyn o bryd i ymwelwyr mae bellach yn cynnal cyfres o gigs byrfyfyr yn ystod y cloi mawr, a berfformir gan un o weithwyr Cyngor Caerdydd yn ystod seibiannau ar ei shifftiau nos fel gwarchodwr.

Jodie Daniels sy’n perfformio’r gigs acwstig fin nos yn y tiroedd gwag a’r ystafelloedd wedi eu dylunio gan Burges, gan gynnwys rhai sydd ddim yn gyffredinol yn hygyrch i'r cyhoedd, ac yna mae’n eu huwchlwytho ar YouTube i bobl eu mwynhau.

Mae llawer o ystafelloedd mwyaf godidog y Castell, gan gynnwys y Neuadd Fawr a'r Ystafell Arabaidd wedi cynnal perfformiadau ond mae un o hoff lefydd Jodie i chwarae ychydig yn fwy anarferol - yr ystafell ymolchi yn y Tŵr Mawr, lle mae "acwsteg wych" yn ôl y cerddor ifanc.

Mae ei fersiynau o ganeuon enwog ar YouTube ar hyn o bryd yn cynnwys 'I Want To Break Free' gan Queen, 'Come Together' gan The Beatles, ac 'One Hand in my Pocket' gan Alanis Morissette.

Mae bod yn warchodwr, heb sôn am gigio yng Nghastell Caerdydd, yn dipyn o wyrdroad o waith arferol Jodie. Fel arfer, mae’n tywys rhai o'r cannoedd o filoedd o ymwelwyr sy'n heidio i'r Castell bob blwyddyn, ond gyda'r Castell ar gau a’r lefelau staffio yn is oherwydd Covid-19, mae'n un o gannoedd o staff Cyngor sydd wedi cael eu hadleoli i rolau newydd fel y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Dywedodd Jodie: "Mae cerddoriaeth a gweithio yng Nghastell Caerdydd yn ddwy ran enfawr o'm bywyd ond roedd y newid o dywys teithiau yn y Castell a chanu mewn gwahanol leoliadau, i weithio drwy'r nos tan oriau mân y bore, braidd yn frawychus ar y dechrau.

"Wrth gael y swydd gwarchodwr nos ychwanegol roeddwn yn awyddus i ddefnyddio fy amser yn ddoeth a defnyddio rhai o'r ystafelloedd ysbrydoledig, sy'n wych ar gyfer acwsteg naturiol, i ysgrifennu a chanu yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn."

"Rhaid i mi gyfaddef y gall bod ar batrôl godi braw braidd yn hwyr yn y nos pan fydd yr hen adeiladau hyn yn tueddu i wneud y rhan fwyaf o'u synau brawychus."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Jodie a'r cannoedd o staff ar draws y Cyngor sydd wedi cael eu hadleoli mewn rolau newydd er mwyn ateb yr heriau a osodwyd gan Covid-19."

"Mae Castell Caerdydd yn un o'r atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, yn croesawu cannoedd o filoedd o bobl o bob cwr o'r byd bob blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn ailagor pan fo hyn i gyd ar ben.

"Yn y cyfamser mae'n dda gweld nid yn unig fod y Castell yn cael ei gadw'n ddiogel bedair awr ar hugain y dydd, ond ei fod hefyd yn dal i gynnal digwyddiadau, hyd yn oed os ydynt ar raddfa ychydig yn llai nag arfer." 

Ewch i: www.youtube.com/cardiffcouncil

‘I Want to Break Free’ https://www.youtube.com/watch?v=Qg_-M9c1xjk

‘Everybody Needs Somebody To Love’ https://www.youtube.com/watch?v=x01yPg30mVo

‘Come Together’ https://www.youtube.com/watch?v=yVS9xl6pXpg

‘One Hand in my Pocket’ https://www.youtube.com/watch?v=fa9-2Ux7soA