05/05/20 - Ailgychwyn torri gwair yng Nghaerdydd
Mae torri gwair, a ataliwyd dros dro gan Gyngor Caerdydd ers dechrau argyfwng Covid-19, wedi ailgychwyn ym mharciau'r ddinas ac ar hyd priffyrdd lle mae angen gwneud hynny am resymau diogelwch, ond oherwydd Covid-19 dywedir wrth drigolion i beidio â disgwyl yr un lefel o dorri porfa ag y byddent wedi'i weld yn y blynyddoedd blaenorol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23793.html
06/05/20 - Diwrnod VE yng Nghaerdydd
Mae digwyddiadau mawr oedd ar y gweill i ddathlu tri chwarter canrif ers diwrnod VE yng Nghaerdydd a ledled Cymru wedi cael eu canslo oherwydd pandemig parhaus Covid-19, ond mae trigolion yn cael eu hannog i nodi'r foment bwysig hon yn ein hanes - mewn ffyrdd sy'n ystyried y cyfyngiadau presennol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23803.html
07/05/20 - Tair gwobr i bartneriaeth adeiladu tai y cyngor
Mae datblygiad preswyl newydd yn nwyrain Caerdydd, a adeiladwyd yn rhan o brif raglen adeiladu tai Cyngor Caerdydd, wedi cipio gwobr genedlaethol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23815.html
07/05/20 - Ailfodelu mannau cyhoeddus y ddinas er diogelwch
Mae ymestyn palmentydd i heolydd, creu llwybrau beiciau dros dro, tynnu dodrefn stryd, cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth cyflymder ac ailgynllunio'r gofod cyhoeddus o amgylch canolfannau siopa cymunedol ymhlith y syniadau sy'n cael eu cynnig ar unwaith gan Gyngor Caerdydd yn rhan o'r ymateb parhaus i COVID-19.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23817.html
07/05/20 - COVID-19: Cyhoeddi cymorth ariannol i gartrefi gofal Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Cartrefi Nyrsio a Phreswyl (CCNP) yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod gan gartrefi gofal Caerdydd yr hyn sydd ei angen arnynt i wynebu'r heriau o ofalu am bobl gyda COVID-19.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23819.html
09/05/20 - Cynghorau i fabwysiadu dull gyffredin i sicrhau y gall canolfannau ailgylchu gael eu gweithredu'n ddiogel cyn ystyried a
Mae cynghorau yng Nghymru wedi cytuno y byddant angen hyder mewn lefelau staffio digonol, cydymffurfiant iechyd a diogelwch, ac ymgynghori gydag Undebau Llafur, cyn gallu ystyried ail-agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) mewn ardaloedd lleol.
Darllenwch fwy yma: