Back
Ailgychwyn torri gwair yng Nghaerdydd
Mae torri gwair, a ataliwyd dros dro gan Gyngor Caerdydd ers dechrau argyfwng Covid-19, wedi ailgychwyn ym mharciau'r ddinas ac ar hyd priffyrdd lle mae angen gwneud hynny am resymau diogelwch, ond oherwydd Covid-19 dywedir wrth drigolion i beidio â disgwyl yr un lefel o dorri porfa ag y byddent wedi’i weld yn y blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Efallai bod popeth arall wedi stopio yn ystod y cyfyngu ar symud ond fel y gŵyr garddwyr brwd, mae'r glaswellt yn dal i dyfu. Os na ddechreuwn ni ei dorri nawr, yna bydd ein parciau, yr ydym wir eisiau eu cadw ar agor i breswylwyr nad ydynt yn ddigon ffodus i gael gofod awyr agored eu hunain allu eu defnyddio yn ystod y cloi, yn dechrau dioddef go iawn."

"Fodd bynnag, gan ein bod yn gweithredu gyda lefelau staff sylweddol is o ganlyniad i Covid-19 ac mae angen i ni sicrhau bod ein tîm parciau yn cadw at ofynion ymbellhau cymdeithasol, eleni byddwn yn torri’r ardaloedd o laswelltir yn llawer llai aml." ,

"Fodd bynnag, mae'n hanfodol torri gwair.  Os nad ydy rhywun yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd, buan y gall ardaloedd fynd allan o reolaeth a pho hiraf y gadewch chi bethau, yr hiraf y cymer i fynd yn ôl i siâp. Mae hynny'n arbennig o wir am ein meysydd chwaraeon. Os nad ydym yn eu cynnal nawr, gallai gymryd peth amser a buddsoddiad sylweddol i'w gwneud yn addas ar gyfer chwarae eto."

Bydd torri glaswellt ar ymylon priffyrdd yn canolbwyntio ar ardaloedd lle gallai gormod o dyfiant achosi problemau gwelededd ac effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr y ffordd a cherddwyr.