Back
Diweddariad COVID-19: 4 Mai

Croeso i ddiweddariad COVID-19 gan Cyngor Caerdydd. Heddiw rydym yn trafod y canlynol: manylion casgliadau gwastraff gardd gwyrdd y dydd Sadwrn yma; cyfrannu at Apêl Bwyd Caerdydd; ac sut rydyn ni'n mynd ati i gysylltu â'r rhai sydd ar restr warchod y Llywodraeth, i gynnig help a chymorth.

 

Manylion casgliadau gwastraff gardd gwyrdd y dydd Sadwrn yma.

Nodyn byr i'ch atgoffa y bydd cartrefi ledled Caerdydd yn cael casgliad gwastraff gardd gwyrdd untro ym mis Mai.

Os yw eich gwastraff yn cael ei gasglu arddydd Mawrth, bydd eich gwastraff gardd gwyrdd yn cael ei godiddydd Sadwrn, 9 Mai 2020.

Fodd bynnag, rhaid i breswylwyr roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

Mae'r rhestr ganlynol yn dangos gweddill y casgliadau ychwanegol a fydd yn digwydd ym mhob ward y mis hwn:

Dydd Sadwrn 9 Mai- Treganna, Ystum Taf, Llandaf, Felindre, Butetown, Grangetown a Glan-yr-afon

Dydd Sadwrn 16 Mai- Cyncoed, Pentwyn, Plasnewydd, Gabalfa, Cathays a Phen-y-lan

Dydd Sadwrn 23 Mai- Pontprennau/Pentref Llaneirwg, Trowbridge, Llanrhymni, Adamsdown, Tredelerch a Sblot

Dydd Sadwrn 30 Mai- Rhiwbeina, Llanisien, Llys-faen, Y Mynydd Bychan a'r Eglwys Newydd

Mae hyn yn dilyn y casgliad gwastraff gardd gwyrdd yng Nghreigiau/Sain Ffagan, Radur/Treforgan, y Tyllgoed, Pentyrch, Tongwynlais, Trelái a Chaerau, ddydd Sadwrn diwethaf, 2 Mai.

I weld cwestiynau ac atebion am y casgliadau gwastraff gardd untro yn ystod mis Mai, ewch i:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23726.html

 

Apêl Bwyd Brys

Os ydych chi eisoes wedi rhoi i Apêl Bwyd Caerdydd, diolch yn fawr!

Mae pob ceiniog yn cael ei gwario ar gefnogi pobl mewn angen gyda bwyd a hanfodion brys trwy gydol yr argyfwng COVID-19.

I roddi ewch I:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/gwirfoddoli/Pages/default.aspx

Fel y gwyddoch, mae argyfwng COVID-19 yn cael effaith sylweddol ledled Caerdydd gyda llawer o'n busnesau a'n cymunedau wedi dioddef.

Un her benodol yw'r galw cynyddol am gyflenwadau bwyd sylfaenol, yn benodol i gefnogi ein pobl fwyaf bregus, naill ai y rheiny sydd angen hunanynysu neu'r rheiny sy'n dioddef o effaith economaidd yr argyfwng.

Mae rhoi i'r apêl fwyd yn rhan o'r ymgyrch Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd ehangach.

Gallwch hefyd ganfod cyfleoedd gwirfoddoli​​​​:

https://www.volunteercardiff.co.uk/gwirfoddoli/cyfleoedd-gwirfoddoli/?lang=cy

Neu chwilio am help sydd ar gael yn eich ardal:

https://www.volunteercardiff.co.uk/?lang=cy

 

Dyma sut rydym yn cysylltu â phobl sy'n cysgodi

Mae Cyngor Caerdydd yn ffonio pobl sy'n eu gwarchod eu hunain rhag Coronafeirws i gynnig help drwy fynd â pharseli bwyd iddynt.

Rydyn ni'n defnyddio rhestr wedi ei darparu gan Lywodraeth Cymru a Meddygon Teulu. Fyddwn ni ddim yn gofyn i chi am unrhyw fanylion banc nac yn gofyn i chi am unrhyw daliad. Os ydych am i ni ddod â pharsel bwyd i chi, byddwn yn ei adael y tu allan i'r drws i chi ei gasglu.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn ansicr ar ôl derbyn galwad ffôn, cysylltwch â'r Llinell Gyngor ar 029 2081 1071.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn helpu, ewch i:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23668.html