Dros gyfnod argyfwng COVID-19, rydym wedi bod yn cynhyrchu cyfres o ffeithluniau, gan nodi ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau.
Dyma'r diweddaraf o'r ffeithluniau hyn.
Mae'n casglu popeth o niferoedd Cyfarpar Diogelu Personol a gyflenwir, i'r miloedd o oriau a ddarperir mewn gofal cartref bob wythnos; y cannoedd o barseli bwyd a ddarparwyd, i'r degau o filoedd a roddwyd i'n hapêl am fwyd; y miliynau a ddosbarthwyd mewn cymorth busnes; y fyddin o wirfoddolwyr sydd wedi dod ymlaen i helpu; y miloedd o oriau gofal plant a ddarperir bob wythnos yn ein hysgolion; y miloedd o dunelli o wastraff a gasglwyd.
Mae'r rhestr yn mynd ymlaen, ond gallwch weld yr holl rifau ar eich cyfer chi eich hun:
#GweithioDrosGaerdydd #GweithioGydanGilydd #GweithioDrosochChi