Back
Diweddariad COVID-19: 29 Ebrill

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: hyfforddiant Dysgu o Bell arloesol ar gyfer athrawon Caerdydd; cyngor a chymorth i drigolion sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartrefedd; mae ein tîm Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal; a gweithio Gydai Gilydd i Gefnogi Gofalwyr Ifanc.

 

Hyfforddiant Dysgu o Bell arloesol ar gyfer athrawon Caerdydd

Mae hyfforddiant arloesol wedi cael ei ddatblygu i gynorthwyo athrawon Caerdydd i barhau i gynnig addysg a dysgu i blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod o gau ysgolion, oherwydd COVID-19.

Y prosiect partneriaeth rhwng y Cyngor a'r Brifysgol Agored yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i athrawon ar ffyrdd o weithredu dysgu o bell.

Bydd cyfres o feysydd yn cael eu darparu drwy seminar ar-lein gyda'r nod o helpu athrawon i gynnig ffyrdd o fynd ati a chyflawni'r canlyniadau dysgu gorau ar gyfer disgyblion o oedran cynradd ac uwchradd, tra bod ysgolion yn parhau ar gau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hwn yn gyfnod unigryw a heriol i bawb, yn enwedig ein plant a phobl ifanc y mae eu bywydau wedi newid yn sylweddol ar ôl cau ysgolion.

"Gyda tharfu ar drefn arferol a llai o ryngweithio cymdeithasol gyda ffrindiau, mae hyd yn oed yn bwysicach eu bod yn parhau i gael cyfleoedd addysg a dysgu lle bynnag y bo modd.

"Bydd y fenter flaengar ddiweddaraf hon yn anelu at gynnig llwyfan fel y gall athrawon y ddinas gael gafael ar yr adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen, i'w galluogi i barhau i addysgu yn ystod yr argyfwng iechyd presennol."

Mae'r Brifysgol Agored yn bartner i Addewid Caerdydd sef menter Cyngor Caerdydd sy'n dod â'r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i weithio mewn partneriaeth i gysylltu pobl ifanc â'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23738.html

 

Mae'r Tîm Dewisiadau Tai yn parhau i roi cyngor a chymorth i drigolion Caerdydd sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartrefedd

Mae'r Tîm Dewisiadau Tai wedi bod yn gweithio'n galed o gartref ac o'r swyddfa dros yr wythnosau diwethaf i gadw pobl yn ddiogel ac yn eu cartrefi drwy atal pobl yn cael eu troi allan o'u cartrefi a darparu llety mewn argyfwng i'r rhai mwyaf anghenus. Maent hefyd wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o helpu pobl i gael cartrefi newydd tra'n cynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r tîm yn parhau i asesu a rhoi cyngor dros y ffôn a thrwy e-bost gydag ambell i apwyntiad. Maent wedi dechrau gwneud ymweliadau eiddo rhithwir ac maent yn gweithio'n agosach byth gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaethau symud cartref a phecynnau dodrefn. Dim ond rhai o'r ffyrdd sydd wedi caniatáu i ni allu parhau i gynnig llety yw'r rhain, y cyfan i helpu'r rhai mwyaf anghenus.

Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf mae'r tîm wedi:

 

  • Delio â thros 1600 o alwadau yn cynnig cyngor ac arweiniad
  • Cwblhau dros 200 o asesiadau ffôn digartrefedd
  • Lleoli dros 200 o bobl mewn llety gyda 63 o'r rheiny yn cael darpariaethau digartref am y tro cyntaf

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl o ddod yn ddigartref, gallwch gysylltu â'r Tîm Dewisiadau Tai ar:

02920 570750

CanolfanOpsiynauTai@caerdydd.gov.uk

 

Tîm Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal

Mae ein tîm Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod ysgolion mewn awdurdodau lleol eraill gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal yn gallu parhau i fanteisio ar gymorth a chyngor.  Gyda chymorth gan Swyddogion Cau'r Bwlch, mae'r tîm wedi cysylltu â thros 250 o ddarparwyr addysg ar draws 29 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr er mwyn parhau â'r cyswllt gyda theuluoedd ac ysgolion. 

Mae cyswllt rhwng ysgolion a gofalwyr a disgyblion wedi bod yn hanfodol yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae'r tîm wedi parhau i gadw golwg ar les disgyblion a'u gallu i gael mynediad at weithgareddau ysgol, a'u cwblhau, tra bod ysgolion ar gau.

Mae gweithio gyda'n gilydd wedi sicrhau bod gofal yn parhau i gael ei roi i'n Plant sy'n Derbyn Gofal.

 

Gweithio Gydai Gilydd i Gefnogi Gofalwyr Ifanc

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol a YMCA Caerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi gofalwyr ifanc yn llwyddiannus yn ystod yr argyfwng ac i ddarparu gwasanaethau ar-lein creadigol i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt gartref.

Mae YMCA Caerdydd a'r Fro wedi datblygu grŵp WhatsApp ar gyfer pobl ifanc i gadw mewn cysylltiad ac maent yn postio diweddariadau a gweithgareddau dyddiol i'w gwneud gartref, gan gynnwys sgyrsiau fideo byw, gweithdai a fideos addysgol, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymorth eraill. Bob dydd mae thema newydd, fel 'Dydd Llun Bwyd', 'Dydd Mawrth Siarad', 'Dydd Mercher Lles', 'Dydd Iau Myfyrio' a 'Hwyl Dydd Gwener'.

Mae'r timau hefyd yn cynnal archwiliadau lles wythnosol ar y teuluoedd ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd drwy e-bost, negeseuon testun a thros y ffôn. Maent hefyd wedi trefnu danfoniadau ar gyfer banciau bwyd a ffurfio partneriaeth â Grŵp Cymunedol Llanisien a Thornhill er mwyn cael cymorth i ddarparu meddyginiaeth. 

Mae gwaith yn parhau i gynyddu mynediad i ofalwyr ifanc, gan gynnwys YCMA Caerdydd yn cynnal asesiadau statudol ar gyfer gofalwyr ifanc dros y ffôn i gryfhau'r adnoddau yn y maes hwn ac atal ôl-groniad o atgyfeiriadau ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.