Back
Cwestiynau ac atebion ar y casgliadau gwastraff gardd untro yn ystod mis Mai
 Cwestiwn: Pam nad yw'r wybodaeth hon wedi'i diweddaru ar wefan ac ap y Cyngor?

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru'r wybodaeth ar y calendr i breswylwyr ym mhob rhan o’r wefan, ap Cardiff gov a BOBi (ein Sgyrsfot).

Nodwch mai dim ond y tri gasgliad nesaf ar gyfer eich eiddo y mae'r calendrau yn eu dangos felly os ydych wedi trefnu casgliad gwastraff gardd yn hwyrach yn y mis ni fydd i’w weld ar unwaith.

Cwestiwn: Pryd bydd fy ngwastraff gardd yn cael ei gasglu?

Bydd eich gwastraff gardd gwyrdd yn cael ei gasglu ar un dydd Sadwrn yn ystod mis Mai. Bydd y dyddiad y bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu yn dibynnu ar y diwrnod y mae eich deunydd ailgylchu/gwastraff yn cael ei gasglu fel arfer.

Diwrnod casglu arferol

Ardaloedd

Dyddiad casglu gwastraff gardd

Dydd Llun

Creigiau/Sain Ffagan

Radur/Pentre-poeth

Y Tyllgoed

Pentyrch

Tongwynlais

Trelái

Caerau

Dydd Sadwrn 2 Mai 2020

Dydd Mawrth

Treganna

Ystum Taf

Llandaf

Felindre

Butetown

Grangetown

Glan-yr-afon

Dydd Sadwrn 9 Mai 2020

Dydd Mercher

Cyncoed

Pentwyn

Plasnewydd

Gabalfa

Cathays

Pen-y-lan

Dydd Sadwrn 16 Mai 2020

Dydd Iau

Pontprennau/Pentref Llaneirwg

Trowbridge

Llanrhymni

Adamsdown

Tredelerch

Sblot

Dydd Sadwrn 23 Mai 2020

Dydd Gwener

Rhiwbeina

Llanisien

Llys-faen

Y Mynydd Bychan

Yr Eglwys Newydd

Dydd Sadwrn 30 Mai 2020

 

Cwestiwn: Sut mae rhoi fy ngwastraff gardd allan i'w gasglu?

Defnyddiwch y cynwysyddion arferol sydd wedi'u darparu. I breswylwyr sydd ar y cynllun biniau olwynion, defnyddiwch eich bin olwynion gwyrdd. I breswylwyr sydd ar y cynllun bagiau streipiau coch, defnyddiwch y sachau gwyn amldro.

Cwestiwn: Does gen i ddim bin gwyrdd na sach amldro.

Os nad oes gennych fin gwyrdd na sach amldro ar adeg eich casgliad, ni fyddwn yn gallu casglu eich gwastraff gardd.

Gallwch archebu bin gwyrdd neu sach amldro trwy gysylltu â C2C ar (029) 2087 2088. Codir tâl am yr eitemau hyn, ac ni ellir eu harchebu ar-lein.

Cwestiwn: Beth sy'n gallu cael ei roi yn y bin gwastraff gardd/sach amldro?

Ie

Na

Dail

Compost/pridd

Toriadau gwair

Gwasarn anifeiliaid (gan gynnwys gwair, gwellt, naddion pren a blawd llif)

Toriadau planhigion/blodau

Rwbel/cerrig addurniadol

Brigau/canghennau bach

Eitemau gardd e.e. caniau dŵr

 

Pren - wedi’i drin neu heb ei drin

 

Bagiau ailgylchu gwyrdd

 

Gwastraff cyffredinol

 

Cwestiwn: Mae gen i fwy o wastraff gardd nag sy'n gallu ffitio yn y bin gwyrdd/sach amldro

Rydym yn deall y gall fod gan drigolion ormod o wastraff gardd, gan fod casgliadau gwastraff gardd wedi'u hatal ers peth amser.

Fodd bynnag, dim ond gwastraff gardd sy'n ffitio yn eich cynhwysydd arferol y byddwn yn gallu ei gasglu.

Diogelwch ein criwiau yw ein blaenoriaeth. Mae'r sachau amldro a'r biniau olwynion o faint a phwysau y gall ein criwiau ei reoli’n ddiogel. Os caiff gormod o wastraff ei gyflwyno, ni fyddwn yn gallu cwblhau casgliadau mewn ardaloedd eraill.

Cwestiwn: Beth i’w wneud â gwastraff gardd dros ben?

Os oes lle gan breswylwyr yn eu gerddi, y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o ymdrin â glaswellt wedi’i dorri a thocion gwrychoedd yw trwy eu compostio gartref. Gall hyn fod mor syml â rhoi eich holl doriadau mewn pentwr taclus mewn cornel yn yr ardd. Cymysgwch nhw ag ychydig o bapur, cardfwrdd a phlicion llysiau i greu tomen a fydd yn dadelfennu o fewn rhai wythnosau i greu compost gwych y gellir ei ailddefnyddio yn yr ardd. Peidiwch â rhoi gwastraff bwyd wedi'i goginio yn eich tomen gompost.

Fel arall, rydym yn gofyn i breswylwyr storio unrhyw wastraff gardd gwyrdd ychwanegol yn eu gardd tan eu casgliad nesaf.

Cwestiwn: Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy ngwastraff gardd wedi cael ei gasglu?

Mae'r Cyngor yn cynnal casgliad untro yn ystod mis Mai i symud gwastraff gardd o gartrefi preswylwyr.

Yn anffodus, oherwydd yr argyfwng presennol, ni fyddwn yn gallu cynnig gwasanaeth ail-gasglu ar gyfer casgliadau gwastraff gardd os yw preswylwyr yn cyflwyno eu gwastraff yn anghywir neu os yw'r casgliad yn cael ei golli.

Mae'r Cyngor yn parhau i adolygu'r holl opsiynau rheoli gwastraff er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl yn ystod y pandemig COVID-19.

Cwestiwn: A fyddwch chi’n compostio'r gwastraff gardd?

Byddwn.  Bydd yr holl wastraff gardd sy’n cael ei gasglu ar wahân yn cael ei ddanfon at ein contractwr i gynhyrchu compost. Ni chaiff ei anfon i'r Cyfleuster Adfer Ynni (CAY)

Cwestiwn: Pam fod gwaredu gwastraff gardd gwyrdd yn cael ei flaenoriaethu dros fathau eraill o wastraff, er enghraifft gwastraff bwyd neu ailgylchu?

Mae adborth gan y cyhoedd yn dangos bod y trefniadau rheoli gwastraff dros dro yn ystod COVID-19 wedi cael eu croesawu, ond gan fod llawer o bobl yn gweithio yn eu gerddi yn ystod y cloi mawr, byddai llawer o breswylwyr yn hoffi i wastraff gardd gael ei symud o'u cartrefi.

Bydd y gwasanaeth casglu untro yn helpu preswylwyr i gael gwared ar wastraff gardd o'u heiddo, fel y bydd llai i'w storio yn eu gerddi.

Mae darpariaethau eisoes ar waith i gasglu gwastraff bwyd ac ailgylchu bob wythnos. Er bod yr eitemau hyn yn cael eu casglu gyda’r gwastraff cyffredinol, mae'r Cyngor yn parhau i adolygu'r holl opsiynau rheoli gwastraff er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl yn ystod y pandemig COVID-19.

Cwestiwn: Pam casglu'r gwastraff gardd gwyrdd ar benwythnos, yn hytrach nag adfer y gwasanaeth arferol yn ystod yr wythnos?

Gyda'r staff sydd ar gael ar hyn o bryd, ni allwn adfer y gwasanaeth arferol yn ystod yr wythnos waith.

Mae'r Cyngor yn defnyddio'r staff sydd ar gael i ni i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau o waredu gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol o gartrefi preswylwyr bob wythnos.

Darperir y gwasanaeth untro gan staff sy'n gweithio goramser â thâl dros y penwythnosau, ac maent yn gwneud hynny yn ychwanegol at eu gwaith yn ystod yr wythnos.

Cwestiwn: Pryd fyddwch chi'n ail-gyflwyno gwasanaethau eraill e.e. gwastraff bwyd, casgliadau gwastraff swmpus? A fyddwch chi’n gwneud casgliad gwastraff gardd arall dros y penwythnos?

Mae'r holl drefniadau rheoli gwastraff yn cael eu hadolygu'n gyson a bydd gwybodaeth yn cael ei rhyddhau drwy wefan y cyngor a'n sianeli cyfathrebu pan ddaw rhagor o wybodaeth i law.

Mae'r Cyngor yn rhoi diweddariadau drwy'r sianeli canlynol:

·       Facebook

·       Twitter

·       Gwefan - www.caerdydd.gov.uk/coronafeirws

·       App Cardiff Gov

·       Datganiadau i'r wasg drwy Newyddion Caerdydd

·       Negeseuon ffôn C2C