23/4/2020
Mae cerddorion ifanc Caerdydd a’r Fro yn gallu parhau i ddysgu, ymarfer a mwynhau cerddoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd sydd ohoni.
Mae Gwasanaeth Cerdd Cyngor Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datblygu nifer o ddulliau digidol o gyflwyno hyfforddiant cerddorol, gwersi un i un ac ymarferion.Dywedodd Emma Coulthar, Pennaeth y Gwasanaeth: “Mae cerddoriaeth yn uno pawb ac o ran lles yr unigolyn alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall sy’n well.