Back
Diweddariad COVID-19: 21st Ebrill

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: bron i £50 miliwn o gymorth grant wedi ei ddosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd; elusen ‘Gwesty Achub' yn cael ei sefydlu i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd; a'r niferoedd, ymateb Cyngor Caerdydd i argyfwng COVID-19.

 

Bron i £50 miliwn o gymorth grant wedi ei ddosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd

Mae bron i £50 miliwn o gymorth grant bellach wedi'i ddosbarthu gan Gyngor Caerdydd i fusnesau Caerdydd fel rhan o'r pecyn achub COVID-19 parhaus.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r pecyn achub ariannol gwerth £1.4bn, mae swyddogion yr Adran Datblygu Economaidd wedi cysylltu â 7,000 o fusnesau i roi gwybodaeth iddynt am y cymorth ariannol, yn ogystal â'u helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Bellach mae 3,668 o fusnesau wedi cael cymorth ariannol drwy'r cynlluniau hyn ac mae'r cyngor yn parhau i symud y ceisiadau sy'n weddill ymlaen cyn gynted ag y bo modd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver: "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'n staff yn yr adran gyllid am eu hymdrechion parhaus wrth ryddhau'r arian hanfodol hwn i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer y cynlluniau. Rydym wedi cael adborth gwych gan y byd busnes ynglŷn â'r ffordd rydym yn rheoli'r cynllun, ond rwyf eisiau tawelu meddwl unrhyw fusnes sydd wedi gwneud cais am y cynlluniau ac sydd heb glywed yn ôl eto, ein bod ni'n symud y ceisiadau ymlaen cyn gynted â phosibl.

"Mae ceisiadau syml, nad oes angen mwy o wybodaeth neu eglurhad arnynt, yn cael eu prosesu a'u talu o fewn dau i dri diwrnod. Fodd bynnag, ceir hawliadau eraill y mae'n bosibl bod gennym ymholiadau yn eu cylch a fydd yn cymryd llawer mwy o amser. Mae'n hanfodol bwysig na chaiff y system ei chamddefnyddio, felly mae'n rhaid gwneud gwiriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau y caiff unrhyw hawliadau twyllodrus eu dal.

"Y mis diwethaf datryswyd mwy na 300 o'r ymholiadau, ond yn aml nid ydynt yn syml. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ein ffordd trwy nifer o geisiadau y mae gennym ni ymholiadau yn eu cylch. Os yw busnesau'n pryderu ac angen cysylltu â ni, dylent e-bostio ardrethibusnes@caerdydd.gov.uk"

Mae'r cynlluniau grant sydd ar gael fel rhan o'r pecyn cymorth ariannol yn cynnwys:

 

  • Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch â gwerth ardrethadwy o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad o 100% ar ardrethi annomestig ar gyfer 2020-21. Caiff hyn ei weinyddu'n awtomatig trwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor felly nid oes rhaid i'r busnesau hyn gysylltu â'r Cyngor
  • Bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw'r rhai sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn cael grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwch yma  i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn cael grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwch yma i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.
  • Cyhoeddwyd 'pot argyfwng' gwerth £400 miliwn hefyd, sy'n caniatáu i rai busnesau y mae Argyfwng COVID-19 yn effeithio arnynt gael mynediad at gronfeydd argyfwng yn seiliedig ar nifer y bobl y maent yn eu cyflogi. Mae grant o £10,000 ar gael i fusnesau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl ac mae grantiau hyd at £100,000 ar gael i gwmnïau sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl. I weld a ydych yn gymwys, cliciwch yma

 

Mae Fred Wyatt, Rheolwr-Gyfarwyddwr MeanWhile Creative sy'n darparu mannau swyddfa, desgiau a stiwdio fforddiadwy yng Nghaerdydd wedi cymeradwyo'r Cyngor am eu cyflymder a'u proffesiynoldeb yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.

Dywedodd Mr Wyatt: "Bydd y grantiau hyn yn achubiaeth i lawer ac rwyf wrth fy modd bod y rhan fwyaf o'n tenantiaid eisoes wedi derbyn eu grantiau. Y porthol ymgeisio, rydym yn credu, oedd un o'r rhai cyntaf a aeth yn fyw yn y DU a chafodd rhai o'n tenantiaid daliad o fewn 3 neu 4 diwrnod wedi ymgeisio, a oedd yn anhygoel.

"Rwy'n credu bod y cyflymder gweithredu hwn yn dangos llawer o waith ac unplygrwydd sydd wir yn anfon y neges gywir i'r busnesau bach a gaiff eu hanghofio yn aml, yn enwedig mewn adegau fel hyn.

Mae Leshia Hawkins, Prif Weithredwr Criced Cymru hefyd wedi canmol y Cyngor am gyflymder ei ymateb, a dywedodd: "Hoffwn ddiolch i'r cyngor ar ran yr holl glybiau ac am eu cyflymder a'u help gyda'r cymorth ariannol hwn. Rydym wedi darparu cyngor ar y meini prawf cymhwysedd i gael y cymorth ariannol hwn a byddwn yn parhau i helpu'r clybiau gyda'u ceisiadau."

 

Elusen ‘Gwesty Achub' yn cael ei sefydlu i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd

Mae elusen newydd wedi cael ei sefydlu i godi arian a rhoi cymorth ychwanegol i'r cŵn sy'n derbyn gofal yng Nghartref Cŵn Caerdydd a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ac ymddygiad dyngarol tuag at gwn.

Daeth yr elusen sydd newydd ei chofrestru, a elwir yn swyddogol yn 'Cartref Cŵn Caerdydd, y Gwesty Achub' i fodolaeth ar ôl i grŵp o gerddwyr cŵn gwirfoddol yng Nghartref Cŵn Caerdydd ddod at ei gilydd i drefnu rhai digwyddiadau codi arian bach - sbardunodd llwyddiant y digwyddiadau hyn y syniad o ffurfio elusen i helpu cŵn y ddinas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gwneud gwaith gwych yn gofalu am y cŵn yn eu gofal, ond mae sefydlu'r Gwesty Achub, ac ymroddiad a brwdfrydedd yr Ymddiriedolwyr, yn newyddion da iawn i gŵn Caerdydd a bydd yn ein helpu i barhau i fynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae'n ofynnol o dan y gyfraith ar y gwasanaeth.

"Yn anffodus, mae llawer o'r cŵn rydym yn gofalu amdanyn nhw yn dod atom ni mewn iechyd gwael iawn ac mae gennym gyflyrau meddygol difrifol sy'n gofyn am driniaeth sy'n gallu bod yn ddrud iawn. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod cymaint o anifeiliaid â phosibl yn cael y gofal meddygol sydd ei angen arnynt, ond bydd y gallu i godi arian ychwanegol a ddaw yn sgîl y Gwesty Achub yn golygu bod hyd yn oed mwy o gŵn yn cael gofal gwell fyth. "

Mae'r elusen eisoes yn cael nifer o lwyddiannau - y digwyddiadau codi arian cychwynnol a dalwyd am gi o'r enw Bruno, sydd bellach wedi cael ei fabwysiadu gan ei gartref am oes gwych, i gael llawdriniaeth ddrud ar ei glustiau.

Dywedodd Toria Erman, un o ymddiriedolwyr yr elusen: "Gall fod yn anodd iawn i'r cartref ddod o hyd i berchenogion newydd a fydd yn derbyn ci gan wybod bod angen llawdriniaeth ddrud arno. Rydyn ni i gyd yn angerddol iawn am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y Cartref Cŵn a dyma ein ffordd ni o helpu allan. "

Mae'r elusen hefyd yn ddiweddar wedi helpu i drigolion digartref y ddinas ddelio ag effaith COVID-19. Gan fod y rhan fwyaf o gŵn sydd fel arfer yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn derbyn gofal gan ofalwyr maeth dros dro yn ystod yr argyfwng, roedd gan y cartref ormod o fwyd anifeiliaid anwes a roddwyd. Dosbarthodd tîm y Gwesty Achub fwy na £200 o fwyd ci i Ganolfan Huggard y ddinas i helpu i fwydo cŵn y mae eu perchnogion yn ddigartref.

Mae helpu i ddod o hyd i berchnogion newydd ar gyfer cŵn yn y cartref yn rhywbeth y mae'r elusen eisoes yn hynod lwyddiannus yn ei wneud. Alex Milakovic, sydd wedi gwirfoddoli yn y Cartref Cŵn am y pum mlynedd diwethaf, sy'n rhedeg cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr elusen, sy'n rhannu lluniau o'r holl gŵn sydd ar gael ar gyfer eu hailgartrefu.

Meddai Alex, "Mae gennym bron i 10,000 o ddilynwyr ac mae'r nifer yn parhau i dyfu. Mae faint o gefnogaeth gadarnhaol rydym wedi'i chael gan y cyhoedd yn anhygoel. Felly, o rywun nad yw'n frwd iawn dros gyfryngau cymdeithasol, rwy'n credu ein bod wedi gwneud yn eithaf da! Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol gyda fy swyddi, a dangos i bobl bod modd defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd dda. Dyma lle y daeth y cysyniad o ysgrifennu, fel petai'r ci yn siarad, i'w le. Fel hyn, gallwch wir gyfleu i'r darllenwyr y cymeriad y tu ôl i'r ci, mae'n ei ddangos mewn golau gwahanol a gall pobl wir ddod i adnabod gwir gymeriad y ci.

Dywedodd Mathew Erman, un o ymddiriedolwyr yr elusen: "Ar ôl misoedd o waith caled a chynllunio gan y tîm cyfan, mae'n bleser gennym o'r diwedd gael statws elusen ac rydym yn hynod gyffrous i weld beth yw dyfodol y Gwesty Achub. Gyda chefnogaeth y gymuned, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r staff gwych a'r cŵn anhygoel yng Nghartref Cŵn Caerdydd. "

I wneud rhodd i Gartref Cŵn Caerdydd, Y Gwesty Achub, ewch i:

www.therescuehotel.com/makeadonation

Dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol @therescuehotelcdh (Instagram a Facebook) neu @therescuehotel (Twitter)

Rhif elusen cofrestredig: 1189079

 

Y niferoedd: Ymateb Cyngor Caerdydd i argyfwng COVID-19