Back
COVID-19: Bron i £50 miliwn o gymorth grant wedi ei ddosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd

21/04/20

Mae bron i £50 miliwn o gymorth grant bellach wedi'i ddosbarthu gan Gyngor Caerdydd i fusnesau Caerdydd fel rhan o'r pecyn achub COVID-19 parhaus.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r pecyn achub ariannol gwerth £1.4bn, mae swyddogion yr Adran Datblygu Economaidd wedi cysylltu â 7,000 o fusnesau i roi gwybodaeth iddynt am y cymorth ariannol, yn ogystal â'u helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Bellach mae 3,668 o fusnesau wedi cael cymorth ariannol drwy'r cynlluniau hyn ac mae'r cyngor yn parhau i symud y ceisiadau sy'n weddill ymlaen cyn gynted ag y bo modd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver: "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'n staff yn yr adran gyllid am eu hymdrechion parhaus wrth ryddhau'r arian hanfodol hwn i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer y cynlluniau. Rydym wedi cael adborth gwych gan y byd busnes ynglŷn â'r ffordd rydym yn rheoli'r cynllun, ond rwyf eisiau tawelu meddwl unrhyw fusnes sydd wedi gwneud cais am y cynlluniau ac sydd heb glywed yn ôl eto, ein bod ni'n symud y ceisiadau ymlaen cyn gynted â phosibl.

"Mae ceisiadau syml, nad oes angen mwy o wybodaeth neu eglurhad arnynt, yn cael eu prosesu a'u talu o fewn dau i dri diwrnod. Fodd bynnag, ceir hawliadau eraill y mae'n bosibl bod gennym ymholiadau yn eu cylch a fydd yn cymryd llawer mwy o amser. Mae'n hanfodol bwysig na chaiff y system ei chamddefnyddio, felly mae'n rhaid gwneud gwiriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau y caiff unrhyw hawliadau twyllodrus eu dal.

"Y mis diwethaf datryswyd mwy na 300 o'r ymholiadau, ond yn aml nid ydynt yn syml. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ein ffordd trwy nifer o geisiadau y mae gennym ni ymholiadau yn eu cylch. Os yw busnesau'n pryderu ac angen cysylltu â ni, dylent e-bostioardrethibusnes@caerdydd.gov.uk"

Mae'r cynlluniau grant sydd ar gael fel rhan o'r pecyn cymorth ariannol yn cynnwys:

  • Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch â gwerth ardrethadwy o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad o 100% ar ardrethi annomestig ar gyfer 2020-21. Caiff hyn ei weinyddu'n awtomatig trwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor felly nid oes rhaid i'r busnesau hyn gysylltu â'r Cyngor
  • Bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw'r rhai sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn cael grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchyma <https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Business/Business-Rates/Covid-grant/Pages/default.aspx>i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn cael grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.
  • Cyhoeddwyd 'pot argyfwng' gwerth £400 miliwn hefyd, sy'n caniatáu i rai busnesau y mae Argyfwng COVID-19 yn effeithio arnynt gael mynediad at gronfeydd argyfwng yn seiliedig ar nifer y bobl y maent yn eu cyflogi. Mae grant o £10,000 ar gael i fusnesau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl ac mae grantiau hyd at £100,000 ar gael i gwmnïau sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl. I weld a ydych yn gymwys, cliciwchyma

Mae Fred Wyatt, Rheolwr-Gyfarwyddwr MeanWhile Creative sy'n darparu mannau swyddfa, desgiau a stiwdio fforddiadwy yng Nghaerdydd wedi cymeradwyo'r Cyngor am eu cyflymder a'u proffesiynoldeb yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.

Dywedodd Mr Wyatt: "Bydd y grantiau hyn yn achubiaeth i lawer ac rwyf wrth fy modd bod y rhan fwyaf o'n tenantiaid eisoes wedi derbyn eu grantiau. Y porthol ymgeisio, rydym yn credu, oedd un o'r rhai cyntaf a aeth yn fyw yn y DU a chafodd rhai o'n tenantiaid daliad o fewn 3 neu 4 diwrnod wedi ymgeisio, a oedd yn anhygoel.

"Rwy'n credu bod y cyflymder gweithredu hwn yn dangos llawer o waith ac unplygrwydd sydd wir yn anfon y neges gywir i'r busnesau bach a gaiff eu hanghofio yn aml, yn enwedig mewn adegau fel hyn.

Mae Leshia Hawkins, Prif Weithredwr Criced Cymru hefyd wedi canmol y Cyngor am gyflymder ei ymateb, a dywedodd: "Hoffwn ddiolch i'r cyngor ar ran yr holl glybiau ac am eu cyflymder a'u help gyda'r cymorth ariannol hwn. Rydym wedi darparu cyngor ar y meini prawf cymhwysedd i gael y cymorth ariannol hwn a byddwn yn parhau i helpu'r clybiau gyda'u ceisiadau."