Back
Diweddariad COVID-19: 20 Ebrill

Mae'r diweddariad heno yn cynnwys: y ddistyllfa gin, argraffwyr a busnesau lleol eraill yn newid eu cynnyrch i helpu i gadw gweithwyr allweddol Caerdydd yn; Newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim; ac agor Ysbyty Calon y Ddraig yn Swyddogol.

 

Y ddistyllfa gin, argraffwyr a busnesau lleol eraill yn newid eu cynnyrch i helpu i gadw gweithwyr allweddol Caerdydd yn

Mae busnesau lleol, yn cynnwys distyllfa gin a chwmni sy'n cynhyrchu deunydd hyrwyddo â brand wedi bod yn helpu ymateb Cyngor Caerdydd i COVID-19 trwy newid eu ffrydiau cynhyrchu ar fyr-rybudd i gynhyrchu diheintydd dwylo a chyfarpar diogelwch personol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae economi leol hyblyg sydd wedi gallu ymateb yn gyflym i'r galw newidiol yn sgil argyfwng COVID-19 wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i ni fel awdurdod lleol wrth i ni ymateb i'r firws."

Fel arfer, gin a gwirodydd o safon uchel ydy busnes distyllfa gin graddfa lawn gyntaf de Cymru, Castell Hensol, yn eu castell rhestredig gradd 1 ym Mro Morgannwg, ond maent nawr wedi cymryd archebion gan Gyngor Caerdydd am ddigon o ddiheintydd dwylo i bara bron i fis.

Mae cynhyrchu fisorau wyneb yn dra gwahanol i argraffu deunyddiau hyrwyddo brand megis ffolderi, arwyddion, labeli a deunydd arddangos ond newidiodd busnes Screentec yng Nglynrhedynog eu busnes arferol i gynhyrchu mwgwd protoeip a danfon y cynnyrch gorffenedig o fewn pythefnos.

Mae cwmnïau partner o dan ymbarél Resource Group hefyd wedi bod yn gwneud eu rhan. Wedi'i ysbrydoli gan breswylydd lleol,Ashley Jay, a oedd wedi bod yn gwneud amddiffyniadau wyneb ar ei argraffwyr 3D gartref a'u rhoi am ddim i'r GIG a chartrefi gofal lleol,daeth Cadeirydd Resource, Nick Williams, â thîm at ei gilydd i gynhyrchu amddiffynnydd wyneb untro o ansawdd uchel ar gyfer y sector gofal iechyd ac eraill sy'n gweithio yn y rheng flaen yn y gymuned. 

Mewn ychydig ddiwrnodau, trodd y tîm gyfleuster campfa i staff ym Mharc Corfforaethol Gwynllŵg yn fferm brintio 3D a phrynu 50 argraffydd 3D gan Amazon dros nos, a bellach maent wedi argraffu miloedd o amddiffynwyr wyneb. 

Mae'r gweithgynhyrchwyr o Gaerdydd, BCB International, wedi bod yn masnachu am 160 o flynyddoedd, gan gynhyrchu offer achub bywyd i'r lluoedd arfog a'r heddlu, ond maent wedi symud yn gyflym i ymateb i bandemig COVID-19 ac maent bellach yn darparu diheintydd dwylo, menig, tyweli alcohol a mwy ar gyfer gweithwyr allweddol Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23676.html

 

Newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim

Bydd teuluoedd â phlant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim nawr yn gallu prynu bwyd gan ddefnyddio arian a gaiff ei roi'n uniongyrchol yn eu cyfrif banc, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.  Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i rieni o ran ble y gallant siopa a bydd y cynllun talebau a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei gynnal ar y cyd â'r trefniadau newydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu trefniadau newydd fydd yn gwneud taliadau BACS gan ddefnyddio Parent Pay, system talu ar-lein sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan 91 o ysgolion Caerdydd.

Mae'r Cyngor yn cynorthwyo'r 34 o ysgolion sy'n weddill i gofrestru gyda'r system i sicrhau y gall pawb gael mynediad i gynllun taliadau rheolaidd.

Bydd rhieni neu ofalwyr â phlant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn cael llythyr yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn rhoi gwybodaeth iddynt ar sut i dderbyn y taliad fesul pythefnos. Ar gyfer y rheiny nad ydynt yn defnyddio ParentPay eto, bydd canllaw cam wrth gam ar sut i gofrestru yn ogystal â manylion cyswllt os bydd angen rhagor o gymorth arnynt.

Anogir rhieni a gofalwyr i gofrestru i gael taliadau cyn gynted ag y cânt eu llythyrau er mwyn gallu derbyn eu taliadau BACS cyntaf o ddydd Llun 27 Ebrill.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23666.html

 

Agor Ysbyty Calon y Ddraig yn Swyddogo

Diolch yn fawr iawn i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled a'u proffesiynoldeb y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod Ysbyty Calon y Ddraig wedi gallu agor heddiw.

Agorwyd yr ysbyty dros dro sydd â 1,500 o welyau, ac sydd wedi'i adeiladu ar gae Stadiwm y Principality, gan seren rygbi Cymru Dr Jamie Roberts y prynhawn yma. Mae e'n gweithio dros dro i'r GIG fel cymrawd arloesi clinigol.

Bu gwleidyddion, uwch-gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r Tywysog Siarl yn diolch i'r holl bobl a sefydliadau sydd wedi cydweithio i sicrhau bod yr ysbyty dros dro yn gallu cael ei adeiladu ar frys aruthrol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei wneud ar gyflymder aruthrol mewn amgylchiadau anodd iawn. Mae staff y Cyngor o nifer o adrannau gan gynnwys cynllunio, priffyrdd, rheoli adeiladu a datblygu economaidd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau y gellid cyflawni'r project a bod y cyfleuster yn gweithredu'n gywir.

"Bydd y Cyngor yn cynnig lleoedd parcio i staff y GIG ac i gontractwyr yng nghanol y ddinas, ac rydym yn gweithio gyda Bws Caerdydd i sicrhau bod staff y GIG sy'n gweithio shifftiau yn gallu mynd a dod o'r stadiwm pan fyddant yn gweithio."

Bydd Tîm Ysbyty Pwynt Cyswllt Cyntaf Cyngor Caerdydd, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol ac a elwir Y Fyddin Binc, hefyd yn gweithio yn yr ysbyty maes. Byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi amrywiaeth o gleifion pan fyddan nhw'n barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Mae maes parcio'r NCP wedi'i lanhau'n ddwfn er mwyn sicrhau bod contractwyr sy'n gweithio ar yr ysbyty newydd yn gallu parcio eu ceir yn ddiogel. Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn cadw llygad yn rheolaidd ar y maes parcio er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Bydd staff y GIG yn defnyddio maes parcio Gerddi Sophia gyda bysus gwennol gan Bws Caerdydd fel y gall staff fynd a dod o'r stadiwm.