Back
COVID-19; Newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim

17/4/2020

 

Bydd teuluoedd â phlant sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim nawr yn gallu prynu bwyd gan ddefnyddio arian a gaiff ei roi’n uniongyrchol yn eu cyfrif banc, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.   Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i rieni o ran ble y gallant siopa a bydd y cynllun talebau a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei gynnal ar y cyd â’r trefniadau newydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu trefniadau newydd fydd yn gwneud taliadau BACS gan ddefnyddio Parent Pay, system talu ar-lein sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan 91 o ysgolion Caerdydd.

Mae’r Cyngor yn cynorthwyo’r 34 o ysgolion sy’n weddill i gofrestru gyda’r system i sicrhau y gall pawb gael mynediad i gynllun taliadau rheolaidd.

Bydd rhieni neu ofalwyr â phlant sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn cael llythyr yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn rhoi gwybodaeth iddynt ar sut i dderbyn y taliad fesul pythefnos. Ar gyfer y rheiny nad ydynt yn defnyddio ParentPay eto, bydd canllaw cam wrth gam ar sut i gofrestru yn ogystal â manylion cyswllt os bydd angen rhagor o gymorth arnynt.

Anogir rhieni a gofalwyr i gofrestru i gael taliadau cyn gynted ag y cânt eu llythyrau er mwyn gallu derbyn eu taliadau BACS cyntaf o ddydd Llun 27 Ebrill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Mae sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn aros heb fwyd tra bod ysgolion ar gau wedi bod yn flaenoriaeth ar rydym yn gobeithio y bydd y trefniadau newydd hyn yn golygu bod rhagor o ddewis a hyblygrwydd i deuluoedd brynu bwyd eu plant. Mae hyn hefyd yn golygu y gall yr oedolion hyn sy’n hunanynysu gynnig prydau o hyd , gyda’r dewis i siopa ar-lein.

“Ers y gwnaed y cyhoeddiad y byddai ysgolion yn cau ar gyfer addysg statudol, mae ein tîm ymroddedig wedi gweithio’n hynod galed i gynnig y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim. Mae hyn wedi cynnwys dosbarthu 45,000 o becynnau cinio yn y lle cyntaf, a datblygu cynllun talebau newydd sbon gydag archfarchnadoedd.

“Rydym yn cydnabod na fydd un dewis yn addas i bawb, ond rydym yn gobeithio y bydd y trefniadau newydd o gymorth, ac yn ogystal â hynny, bydd cymorth ac arweiniad yn cael eu cynnig i nodi’r dewis gorau i’r teuluoedd sydd ei angen.