17.04.2020
Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o newidiadau wedi cael eu gwneud i'r ffordd rydym yn gweithredu ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ar hyn o bryd.
Oherwydd pandemig y coronafeirws, mae angen i ni flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen a sicrhau bod gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau'n effeithlon.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi'n gallu delio â'ch eitemau dieisiau yn y ffordd fwyaf diogel ac effeithlon.
Yr hyn mae'n rhaid i chi ei wneud gyda gwastraff dieisiau
Cadwch fatris ac eitemau trydanol dieisiau. Byddant yn achosi tanau mewn canolfannau ailgylchu ac os ydynt yn agored i dymheredd uchel, gallai hyn achosi ffrwydrad.
Cadwch unrhyw decstilau a dillad dieisiau nes i'r gwasanaeth arferol ailddechrau.
Rhowch gynnig ar gompostio gartref os oes gennych wastraff gardd gwyrdd neu fwyd dros ben. Gallwch greu eich bin neu eich tomen gompost eich hun am gost isel, gan droi'ch bwyd a'ch gwastraff gardd yn gompost i'r ardd y gellir ei ddefnyddio i orchuddio a chyflyru eich pridd. Ceir rhagor o wybodaeth yma:https://walesrecycles.org.uk/recycling-knowledge/i-want-do-more/composting-home
Cadwch hen eitemau trydanol dieisiau gartref mewn garej, sied neu atig os oes modd.
Os ydych yn byw mewn ardal fagiau, parhewch i ddefnyddio'r cadi bwyd
Os ydych yn byw mewn ardal biniau olwynion - rhowch wastraff bywd yn y bin du
Mae gwastraff hylendid (cewynnau, padiau anymataliaeth ac ati) i fynd i'ch biniau duon neu eich bagiau streipiau coch i'w casglu
Os oes angen i chi brynu oergell newydd ar hyn o bryd, gofalwch fod y cwmni rydych yn ei brynu ohono'n gallu symud a chael gwared ar yr hen offer wrth ddod â'r oergell newydd i chi. Os nad ydych, eich cyfrifoldeb CHI yw ei storio mewn man diogel nes y byddwch yn gallu cael gwared arno'n gywir. Nid ydym yn goddef tipio anghyfreithlon o dan unrhyw amgylchiadau, hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Cofiwch roi eich biniau a'ch bagiau allan erbyn 6am ar eich diwrnod casglu. Nid yw'r diwrnodau casglu wedi newid, ond efallai y bydd ein swyddogion gwastraff allan i'w casglu yn gynharach.
X Peidiwch â thaflu papur sidan, cadachau gwrth-facterol a thywelion papur gyda'ch ailgylchu. Yn lle hyn, dylid eu rhoi yn eich bagiau gwastraff cyffredinol â streipiau coch neu eich biniau du. Bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei losgi.
Sut i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel
Os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau o'r coronafeirws, megis tymheredd uchel neu beswch, dylech ddyblu'ch bagiau gwastraff cyffredinol os gallwch a'u gadael am 72 awr cyn eu rhoi y tu allan i'w casglu.
Rydyn ni hefyd yn argymell diheintio handlenni'r bin a golchi eich dwylo'n drylwyr cyn ac ar ôl rhoi'r bin allan i'w gasglu.
X Nid ydym yn argymell eich bod yn cynnig eitemau i'w hailddefnyddio yn y gymuned gan fod y feirws yn gallu byw ar arwynebau. Rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i atal y coronafeirws rhag lledaenu
Sicrhewch eich bod yn gwybod am yr holl newidiadau i'n gwasanaethau yma:www.newyddioncaerdydd.co.uk