Back
Cyfle i fynd ar daith i Amgueddfa Caerdydd (heb adael y cartref)
Efallai fod Amgueddfa Caerdydd ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud ond mae modd dysgu o hyd o’r straeon hynod ddiddorol sydd ganddo, a hynny trwy fynd ar daith rithwir o'r casgliad, un gwrthrych ar y tro, a lawrlwytho gweithgareddau am ddim sy'n archwilio gorffennol y ddinas.

Mae llun o wrthrych gwahanol o'r casgliad yn cael ei bostio bob dydd i ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yr amgueddfa, ynghyd â'r hanesion sy’n gysylltiedig ag ef. Hyd yma mae'r straeon wedi cynnwys popeth o ddarn o drysor o’r 17eg ganrif a ganfuwyd gan ddatgelwyr metel mewn cae ym Mhentyrch, i radio diwifr a arferai berthyn i ŵr bonheddig o'r enw Alfred Strange, o Gabalfa, a chloc o'r hyn a oedd unwaith yn siop ffotograffiaeth hynaf Caerdydd.

Mae gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho i ddysgwyr sy’n oedolion a phlant, sydd wedi'u datblygu ar y cyd ag athrawon ysgolion lleol ac wedi’u dylunio i feithrin sgiliau allweddol ac archwilio themâu gwahanol yn hanes cymdeithasol Caerdydd, hefyd ar gael i'w lawrlwytho drwy https://cardiffmuseum.com/learning-2/my-museum/

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r tîm yn Amgueddfa Caerdydd wedi gwneud gwaith gwych i sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i gael mynediad iddynt o gysur eu cartrefi.

"Gyda thaflenni gweithgareddau ar thema'r gwanwyn ar gyfer y plant ieuengaf, y cyfle i ddysgu am fywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chanllaw ar gyfer plant hŷn ac oedolion sydd â diddordeb mewn cofnodi atgofion aelodau o'r teulu neu'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, mae llawer i'w diddanu a’u haddysgu eisoes ar y wefan.

"Y bwriad yw ychwanegu adnoddau at y wefan yn rheolaidd fel bod llif cyson o weithgareddau i'w mwynhau ac mae'r tîm hefyd yn gweithio i ddarparu fersiwn ar-lein o’r arddangosfa roedden nhw wedi bwriadu ei chynnal i ddathlu 75 mlynedd ers Diwrnod VE."

Cysylltwch ag Amgueddfa Caerdydd drwy Twitter @TheCardiffStory neu ar Facebook @cardiffstory