Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar y neges i aros gartref, aros yn ddiogel y penwythnos hwn.
"Gyda’r haul yn tywynnu a’r tymheredd yn uchel dros benwythnos gŵyl y banc, byddai parciau Caerdydd fel arfer yn llawn pobl, ond mae ein staff parciau, sydd wedi bod allan ar batrôl gyda'r heddlu bob dydd, gyda chefnogaeth negeseuon drwy uchelseinydd gan Wylwyr y Glannau, yn adrodd bod parciau yn llawer tawelach na’r arfer a bod y rhan fwyaf o bobl yn dilyn y gofynion ymbellhau cymdeithasol.
"Hoffwn ddiolch i'n holl drigolion – y rhai a arhosodd gartref a gwrthsefyll temtasiwn yr heulwen, a'r rhai a wnaeth eu hymarfer corff dyddiol yn ein parciau mewn ffordd gyfrifol.
"Mae gan Gaerdydd barciau a mannau gwyrdd godidog, ac mae’n gaffaeliad mawr i’r bobl niferus hynny sydd heb eu gerddi eu hunain bod y parciau ar gael, am nawr, iddynt fynd allan a mwynhau’r manteision iechyd meddwl a chorfforol a ddaw o ymarfer mewn parciau.
"Rydym am gadw parciau Caerdydd ar agor cyhyd ag y gallwn, ond os ydym yn mynd i wneud hynny, mae gwir angen i bobl barhau i wneud fel y gwnaethon nhw dros y penwythnos hwn – sef eu defnyddio'n gyfrifol, a chadw at y rheolau sy'n ymwneud â phellhau cymdeithasol. Mae'n bwysig nad yw gweithredoedd nifer fach o bobl yn difetha'r peth i bawb."
"Rwy'n
gwybod bod tîm y parciau wedi gweithio'n ddiflino drwy'r penwythnos i helpu i
atgyfnerthu'r neges honno i'r cyhoedd a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith
caled a'u hymroddiad ar yr adeg anodd hon."