Back
Cogyddion ifanc dan hyfforddiant yn darparu prydau poeth i'r digartref
Mae selsig â thatws stwnsh, cyri cyw iâr a lasagne, gyda Mouse siocled neu sleisen o deisen i bwdin, oll ar y fwydlen i bobl ddigartref yn llety dros dro newydd Caerdydd i bobl ddigartref yn ystod cyfnod COVID-19. Mae'r cyfan yn cael ei goginio gan gogyddion ifanc dan hyfforddiant ym Menter Bwydydd Ieuenctid Cyngor Caerdydd, a sefydlwyd ar y cyd ag Undeb y GMB, i ddarparu hyfforddiant arlwyo a gwasanaethau bwyd i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Mae 128 o bobl sy'n byw yng Ngwesty OYO, Cargo House a'r YHA yn derbyn dau bryd am ddim y dydd: prif gwrs gyda phwdin, a 'phecyn te' sy'n cynnwys brechdan a sleisen o deisen.

Unwaith bod y prydau wedi'u paratoi, mae'r Tîm Bwydydd Ieuenctid yn eu rhoi i Wasanaeth Pryd ar Glud y Cyngor i'w dosbarthu'n gyflym i dri lleoliad ar draws y ddinas. Ar ôl cyrraedd, caiff y bwyd ei drosglwyddo i'n timau Gwasanaethau Hostel penodol sy'n gweithio yn y swyddfeydd newydd ac yn sicrhau bod pobl sy'n aros yno'n cael eu bwydo a'u gwarchod yn briodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

"Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gael sy'n addas ar gyfer yr angen presennol am hunanynysu, i bawb sy'n ddigartref yn y ddinas.

"Yn y sefyllfa sydd ohoni mae'n bwysicach nag erioed bod unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn gwrando ar ein hapêl i ddod i'n llety, lle byddan nhw'n gynnes, yn sych, yn gallu manteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth arbenigol a, thrwy waith caled ein Gwasanaeth Pryd ar Glud a'r bobl ifanc ar fenter Bwydydd Ieuenctid, yn cael eu bwydo'n dda."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Sefydlwyd y fenter Bwydydd Ieuenctid i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol pwysig i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd - pobl sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl hyd yn oed wrth i economi Caerdydd dyfu."

"Ers dechrau'r argyfwng COVID-19, maent wedi darparu 1,143 o brydau poeth a 1,590 o frechdanau i gymuned ddigartref y ddinas, gan fwydo rhai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed Caerdydd ond, ar yr un pryd, yn datblygu sgiliau pwysig a fydd yn sicrhau y gallant ffynnu yn y farchnad swyddi yn y dyfodol."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae'n enghraifft wych o sut mae gwahanol dimau a gwasanaethau ar draws y Cyngor yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd newydd i'n helpu i ymateb i'r argyfwng hwn. Hyd yn oed mewn cyfnodau arferol mae ein Gwasanaeth Pryd ar Glud yn hanfodol i'r rhai sy'n dibynnu arno ond yn y sefyllfa hon mae'n wasanaeth sy'n wirioneddol flaenllaw ac mae'r tîm yn gwneud gwaith gwych yn gweithio dros Gaerdydd i gael bwyd i'r rhai sydd mewn angen."