Back
Diweddariad COVID-19: 6 Ebrill

Mae'r diweddariad heno yn cynnwys y diweddaraf ar gefnogaeth i fusnesau, nodyn i atgoffa y bydd gwastraff yn cael ei gasglu ar wyliau banc Gwener y Groglith a Llun y Pasg, ysgolion hyb ychwanegol a sut y bu i'r Cyngor a'r Heddlu gydweithio i gadw llygad ar barciau Caerdydd. 

 

Dros £35 miliwn o gymorth grant wedi ei ddosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd

Mae dros £35 miliwn bellach wedi'i ddosbarthu i fusnesau Caerdydd mewn cymorth grant gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'r pecyn achub COVID-19 parhaus. 

Ers cyhoeddi'r pecyn achub ariannol gwerth £1.4 biliwn mae'r cyngor wedi prosesu 2,590 o geisiadau o fewn ychydig o dan wythnos ar ran Llywodraeth Cymru. 

Mae ceisiadau'n parhau i lifo i mewn ac mae'r awdurdod yn eu hasesu mor gyflym â phosibl er mwyn sicrhau y gall arian hanfodol gael ei ddosbarthu i fusnesau cymwys y mae angen cymorth arnynt. 

Mae dosbarthu'r cymorth grant hwn yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad rhag 100% o'r ardrethi annomestig ar gyfer 2020. 

Caiff hwn ei weinyddu'n awtomatig trwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor a bydd yn cael ei gymhwyso'n awtomatig felly nid oes angen i fusnesau cymwys wneud unrhyw sylwadau i'r Cyngor. 

Yn ogystal â'r rhyddhad rhag ardrethi busnes sydd ar gael, mae nifer o grantiau ar gael i fusnesau y mae'r argyfwng yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. 

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23589.html 

 

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu dros y Pasg

Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un peth yn ystod y Pasg eleni, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd casglu yn newid felly sicrhewch fod eich gwastraff allan erbyn 6am. 

Bydd gwasanaethau casglu gwastraff yn gweithredu ar Ddydd Gwener y Groglith (10 Ebrill) a Dydd Llun y Pasg (13 Ebrill).

Bydd ein casglwyr sbwriel yn gweithio ar draws gwyliau banc y Pasg i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau. 

Ailgylchu

Rydym yn gofyn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchadwy, yn union fel y byddech fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu. 

Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ailgylchu yn eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd. 

Gall yr eitemau canlynol fynd yn eich bag ailgylchu gwyrdd:

     Blychau Cardfwrdd Wyau Pasg

     Pecynnu plastig o flychau wyau Pasg

     Ffoil (gwnewch yn siŵr ei fod yn lân ac wedi ei wasgu yn belen.

Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gwiriwch ein A-Y ailgylchu:

https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx 

 

Ysgolion Hyb ychwanegol ar agor yr wythnos hon

Heddiw, agorwyd pedair ysgol hyb ychwanegol i gynnig gofal plant i weithwyr allweddol, gan ddod y nifer o ysgolion i 16. 

Mae Ysgol Gynradd Peter Lea, Ysgol Gynradd Rhydypennau ac ysgol y Wern wedi eu hagor er mwyn sicrhau rhagor o gapasiti i'r system. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosib dosbarthu nifer y disgyblion yn fwy cyfartal rhwng yr hybiau i gyd, yn cryfhau ymhellach drefniadau'r ysgolion ar gyfer ymbellhau cymdeithasol. 

Y bedwaredd ysgol hyb i agor yn ychwanegol heddiw yw Bryn y Deryn. Mae hon yn cynnig cymorth ychwanegol i bobl ifanc sy'n agored i niwed ym Cyfnod Allweddol 4. 

Rhoddodd Cyngor Caerdydd y system hybiau ysgolion ar waith ddydd Llun, 30 Mawrth, mewn ymateb i'r cyfyngiadau ar symud a digwyddiadau cymdeithasol a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. 

Ers hynny, mae dros 800 o blant a phobl ifanc wedi'u cofrestru i dderbyn gofal plant, gyda thua 200 yn mynd i ysgol hyb bob dydd, ar gyfartaledd. 

Mae'r hybiau'n cael eu staffio gan dîm o 130 o athrawon, cynorthwywyr addysgu a staff cymorth eraill sy'n wirfoddolwyr, yn helpu i gyflwyno 12,000 awr o ofal plant yr wythnos. 

Yn ogystal, mae dros 200 o blant cyn oed ysgol yn derbyn gofal gan ddarparwyr gofal plant preifat, gwirfoddol ac annibynnol ledled y ddinas. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am drefniadau ysgol dros y Pasg:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23566.html 

 

Y Cyngor a'r Heddlu yn dod ynghyd i batrolio parciau Caerdydd

Bu tîm y parciau ar batrôl gyda'r heddlu y penwythnos hwn ac, er gwaetha'r heulwen, ry'n ni'n falch o ddweud fod parciau Caerdydd yn dawel ar y cyfan, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio â gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Rydym am gadw'r parciau ar agor cyhyd ag y bo modd, fel y gall pobl fwynhau'r manteision iechyd meddwl a chorfforol o wneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ond mae angen cymorth pawb arnom i wneud hynny.

Arhoswch gartref, arhoswch yn ddiogel, ac os ydych yn ymweld â'ch parc lleol, sicrhewch eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol - a chofiwch, mae hynny'n cynnwys pan fyddwch yn defnyddio pontydd dros afonydd y ddinas.