06.04.2020
Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un peth yn ystod y Pasg eleni, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd casglu yn newid felly sicrhewch fod eich gwastraff allan erbyn 6am.
Bydd gwasanaethau casglu gwastraff yn gweithredu ar Ddydd Gwener y Groglith (10 Ebrill) a Dydd Llun y Pasg (13 Ebrill).
Bydd ein casglwyr sbwriel yn gweithio ar draws gwyliau banc y Pasg i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau.
Ailgylchu
Rydym yn gofyn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchadwy, yn union fel y byddech fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu.
Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ailgylchu yn eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.
Gall yr eitemau canlynol fynd yn eich bag ailgylchu gwyrdd:
Blychau Cardfwrdd Wyau Pasg
Pecynnu plastig o flychau wyau Pasg
Ffoil (gwnewch yn siŵr ei fod yn lân ac wedi ei wasgu yn belen.
Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gwiriwch ein A-Y ailgylchu.
Celf a Chrefft Ailgylchu ar gyfer y Pasg
Os yw eich plant gartref gyda chi ar hyn o bryd, efallai eich bod yn chwilio am brojectau crefft a phethau i'w gwneud.
Gallwch ddefnyddio llawer o becynnau y byddech fel arfer yn eu rhoi yn eich bagiau gwyrdd ar gyfer hyn.
Gallech ddefnyddio rholiau toiled i wneud cwningod a chywion y Pasg
Gallwch droi blychau wyau'n flodau
Gallech arbed y ffoil o'r Wyau Pasg i wneud celf.
Mae llawer o syniadau ar Pinterest o Google i'ch rhoi ar ben ffordd.