Back
COVID-19: Dros £35 miliwn o gymorth grant wedi ei ddosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd

 

Mae dros £35 miliwn bellach wedi'i ddosbarthu i fusnesau Caerdydd mewn cymorth grant gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'r pecyn achub COVID-19 parhaus.

Ers cyhoeddi'r pecyn achub ariannol gwerth £1.4 biliwn mae'r cyngor wedi prosesu 2,590 o geisiadau o fewn ychydig o dan wythnos ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae ceisiadau'n parhau i lifo i mewn ac mae'r awdurdod yn eu hasesu mor gyflym â phosibl er mwyn sicrhau y gall arian hanfodol gael ei ddosbarthu i fusnesau cymwys y mae angen cymorth arnynt.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Mae'r tîm yn gweithio i'r eithaf i drefnu a thalu'r pecynnau cyn gynted ag y bo modd. Mae'r trosiant yn esbonio ei hun, ond ein neges i fusnesau sydd wedi gwneud cais yw - byddwch yn amyneddgar.

"Mae ceisiadau syml, nad oes angen mwy o wybodaeth neu eglurhad arnynt, yn cael eu prosesu a'u talu o fewn dau i dri diwrnod. Fodd bynnag, ceir hawliadau eraill y mae'n bosibl bod gennym ymholiadau yn eu cylch a fydd yn cymryd llawer mwy o amser. Mae'n hanfodol bwysig na chaiff y system ei chamddefnyddio a gwneir gwiriadau pan fo angen eu gwneud. Byddwch yn amyneddgar gyda ni, rydym yn gwybod y gall hwn fod yn amser rhwystredig i bobl ond rydym yn gwneud ein gorau i weithio trwy'r mynydd o geisiadau."

Mae dosbarthu'r cymorth grant hwn yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad rhag 100% o'r ardrethi annomestig ar gyfer 2020.

Caiff hwn ei weinyddu'n awtomatig trwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor a bydd yn cael ei gymhwyso'n awtomatig felly nid oes angen i fusnesau cymwys wneud unrhyw sylwadau i'r Cyngor.

Yn ogystal â'r rhyddhad rhag ardrethi busnes sydd ar gael, mae nifer o grantiau ar gael i fusnesau y mae'r argyfwng yn effeithio'n uniongyrchol arnynt:

 

        Bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw'r rhai sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn cael grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwch  yma <https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Business/Business-Rates/Covid-grant/Pages/default.aspx>  i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir. 

       Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn cael grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwch  yma  i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd y bydd Cronfa Banc Datblygu Cymru gwerth £100 miliwn ar gael i gwmnïau sy'n wynebu problemau llif arian. Bydd y banc newydd yn cynnig benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000- yn seiliedig ar gyfradd llog ffafriol - i gwmnïau sydd angen cymorth ariannol brys.

Cyhoeddwyd 'pot argyfwng' o £400 miliwn hefyd, sy'n caniatáu i rai busnesau y mae Argyfwng COVID-19 yn effeithio arnynt gael mynediad i gronfeydd argyfwng yn seiliedig ar nifer y bobl y maent yn eu cyflogi.

 

       Mae grant gwerth £10,000 ar gael i fusnesau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl

     Mae grantiau hyd at £100,000 ar gael i gwmnïau sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl.

 

Deellir y caiff rhagor o wybodaeth am sut mae busnesau'n gwneud cais am y grantiau diweddar ei chyhoeddi'n ddiweddarach yr wythnos hon.