Dydd Llun 30/03/20
30/03/20 - Cwestiynau Cyffredin yn ystod argyfwng COVID-19
Cwestiwn 1: Pam ydych chi'n newid y casgliadau? Ateb: Mae gennym weithlu mawr sy'n gweithio'n galed i gynnal casgliadau rheolaidd. Mae rhai o'n gweithlu wedi cael eu symud i wneud dyletswyddau hanfodol eraill.
Derllanwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23517.html
Dydd Mawrth 31/03/20
31/03/20 - 10 newid allweddol yng ngwasanaethau Caerdydd mae angen i bob preswyliwr wybod amdanynt
Er mwyn ymateb i'r argyfwng COVID-19 presennol, a pharatoi at yr heriau sydd o'n blaenau, mae gwasanaethau Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio yn gyflym er mwyn sicrhau y parheir i ddarparu gwasanaethau hanfodol, er mwyn diogelu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a chyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Derllanwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23526.html
31/03/20 - Diweddariad COVID19 - Marchnad Caerdydd
Mae newidiadau wedi'u cyflwyno ym Marchnad Caerdydd i sicrhau y gall masnachwyr hanfodol barhau i gynnig cynnyrch ffres i gwsmeriaid ledled y ddinas yn ystod yr achosion o COVID19.
Derllanwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23533.html
Dydd Mercher 01/04/20
01/04/20 - Mynwentydd Caerdydd i gau dros dro ar ôl nifer uchel o ymwelwyr ar y penwythnos
Caiff pedair mynwent yng Nghaerdydd eu cau i'r cyhoedd dros dro, oni bai eu bod yn mynd i angladd, yn dilyn penwythnos gyda llu o bobl yn ymweld â'r safleoedd ac yn methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol.
Derllanwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23547.html
Dydd Iau
02/04/20 - Apêl frys am ofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yng Nghaerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi apêl frys am ofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i ymuno â'r awdurdod a chwarae rhan hanfodol wrth helpu cymunedau drwy argyfwng coronafeirws (COVID-19).
Derllanwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23560.html
02/04/20 - COVID-19; Diweddariad i drefniadau ysgolion yn ystod y Pasg.
Bydd y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid i gynllun talebau o ddydd Llun 6 Ebrill ymlaen a chaiff ei ymestyn i gynnwys yr hyn a fyddai wedi bod yn gyfnod o bythefnos o wyliau Pasg i ysgolion.
Derllanwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23568.html
Dydd Gwener
03/04/20 - 1,000 o wirfoddolwyr yn ymuno â Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd
Erbyn hyn, mae aelodaeth grŵp gwirfoddolwyr Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn cynnwys 1000 o breswylwyr o bob rhan o'r ddinas sydd wedi ymrwymo i neilltuo eu hamser a'u gwasanaethau i helpu pobl mewn angen yn ystod argyfwng COVID-19.
Derllanwch fwy yma: