Back
Diweddariad COVID-19 - 2 Ebrill

Dyma'r crynodeb COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: apêl frys am staff gofal cymdeithasol a Gweithwyr Cymdeithasol, ysgolion, a rhoi bonllef o gymeradwyaeth i'n casglwyr gwastraff i ddiolch iddyn nhw. 

 

Apêl frys am ofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yng Nghaerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi apêl frys am ofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i ymuno â'r awdurdod a chwarae rhan hanfodol wrth helpu cymunedau drwy argyfwng coronafeirws (COVID-19). 

Mae'r Cyngor yn ceisio recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol newydd cyn gynted â phosibl i helpu i sicrhau y darperir gofal a chymorth i bobl sy'n agored i niwed yng Nghaerdydd mewn cyfnod o alw dwys. 

Mae'r awdurdod hefyd yn chwilio am fwy o weithwyr cymdeithasol i ymuno â thîm Gwaith Cymdeithasol Caerdydd ac yn awyddus i glywed gan ymarferwyr ar bob lefel, o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso i rai profiadol yn ogystal â rhai y mae eu cofrestriad gwaith cymdeithasol wedi darfod, ond sydd â diddordeb mewn dychwelyd i'r proffesiwn ar yr adeg yma. 

Mae'r ymgyrch recriwtio hefyd yn cynnwys yr angen am fwy o weithwyr cymorth, gofalwyr yn y cartref a swyddogion gofal plant preswyl i ymuno â'r tîm a darparu gwasanaethau hanfodol ar draws y ddinas. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal rôl hollbwysig i'w chwarae yn y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod y bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau yn derbyn gofal yn ystod y cyfnod anodd hwn.  

"Mae angen i ni ddatblygu ein gweithlu yn y sector hwn ar frys er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir yn awr ac yn ystod y misoedd nesaf, felly rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae eu rhan yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn."  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore:   "Yn fwy nag erioed, mae angen penodol arnom i gael gweithwyr gofal, gweithwyr cymorth, swyddogion gofal plant preswyl a gweithwyr cymdeithasol ar bob lefel i ymuno â'n rhengoedd. 

"Mae gennym ddiddordeb clywed gan unrhyw un y mae ei sefyllfa gyflogaeth wedi newid yn ddiweddar efallai, y rhai a allai fod yn ystyried gweithio mewn gofal a chyn-weithwyr cymdeithasol sydd â diddordeb mewn dychwelyd i'r proffesiwn.  Os mai chi yw'r person hwn ac rydych chi'n credu y gallwch chi gynnig eich gwasanaethau i'n helpu ni ar yr adeg yma, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae eich angen chi ar Gaerdydd" 

I gael gwybod mwy am gyfleoedd presennol, ac i gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost atrecriwtiafi@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch 07725 741193. 

 

Diweddariad i drefniadau ysgolion yn ystod y Pasg

Prydau Ysgol Am Ddim

Bydd y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid i gynllun talebau o ddydd Llun 6 Ebrill ymlaen a chaiff ei ymestyn i gynnwys yr hyn a fyddai wedi bod yn gyfnod o bythefnos o wyliau Pasg i ysgolion. 

Bydd y cynllun talebau newydd yn disodli'r pecynnau bachu bwyd a ddarparwyd i ysgolion ers dydd Llun 23 Mawrth. 

Caiff rhieni a gofalwyr plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd daleb y gellir ei lawrlwytho gwerth £40 er budd eu plentyn/plant cymwys, a gellir ei wario yn un o'r archfarchnadoedd canlynol;

-         Tesco

-         Asda

-         Sainsbury's

-         Morrisons

-         Marks & Spencer

-         Waitrose.

 

Bydd y trefniadau ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim ar ôl toriad y Pasg yn cael eu cyfathrebu maes o law. 

Mae'r Cyngor wedi llwyddo i ddarparu 45,000 o fagiau bachu i'w casglu a'u cymryd i'w bwyta oddi ar y safle, ond bydd y cynllun newydd yn cynorthwyo mesurau i leihau cyswllt cymdeithasol, fel y cyhoeddodd Llywodraeth y DG.

Bydd teuluoedd cymwys yn derbyn llythyr gyda manylion y daleb yn uniongyrchol gan y Cyngor. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â 029 20537250 neu e-bostiwch Prydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk 

Gofal Plant Gweithwyr Allweddol

Bydd darpariaeth canolfannau gofal plant yn parhau drwy gydol cyfnod gwyliau ysgol y Pasg, gan gynnwys Gwener y Groglith a Llun y Pasg. 

Gobeithir y bydd hyn yn cynorthwyo gyda'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd a grwpiau gweithwyr allweddol eraill yn ystod yr wythnosau nesaf.

 Ers i ddarpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol Caerdydd newid i system wedi'i seilio ar hybiau, mae 734 o blant wedi'u cofrestru. 

Yn ogystal, mae 228 o blant cyn oed ysgol yn derbyn gofal gan ddarparwyr gofal plant preifat, gwirfoddol ac annibynnol ar draws y ddinas. 

Mae'r ddarpariaeth yn dal i flaenoriaethu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn hosteli i'r digartref a gwaith Allgymorth) a'r gwasanaethau brys. Fodd bynnag, bydd y trefniadau nawr yn ceisio darparu ar gyfer categorïau ehangach o weithwyr allweddol hefyd, lle bo modd. 

Er mwyn darparu ar gyfer y niferoedd ychwanegol ac er mwyn cynnal mesurau pellhau cymdeithasol, mae nifer yr hybiau hyn bellach wedi eu cynyddu i 19. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gynradd, uwchradd ac arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. 

Er mwyn sicrhau bod trosglwyddiad COVID-19 yn cael ei arafu neu ei atal, mae gweithwyr allweddol a theuluoedd dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael gwybod y dylid ond defnyddio'r ddarpariaeth ysgolion pan nad oes unrhyw fath arall o gymorth plant ar gael, a lle bo'n bosib, dylid gofalu am blant gartref. 

Bydd gofyn i weithwyr allweddol yng nghategorïau Gweithwyr Allweddol eraill Llywodraeth Cymru, gadarnhau gyda'u cyflogwyr bod eu rôl benodol yn ‘hanfodol' i barhad busnes wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, er mwyn bod yn gymwys i gael darpariaeth yn seiliedig ar hybiau. 

Neu ewch i'n gwefan yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/Pages/default.aspx 

Mae'r hybiau ar agor rhwng 8am a 5pm ac maent yn darparu brecwast, cinio a byrbryd prynhawn i'r plant.   Mae trefniadau gofal plant cyn-ysgol yn ddarostyngedig i gytundebau gweithredu darparwyr cofrestredig unigol. 

E-ddysgu

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu tîm penodol gan gynnwys Cydlynwyr TGCH i helpu ysgolion, drwy gynnig llu o ddeunyddiau digidol a chynlluniau ar-lein arloesol, fydd yn eu galluogi i barhau i gyflwyno'r cwricwlwm yn ystod y cyfnod y bydd ysgolion ar gau.  

Yn ystod y cyfnod rhwng 1 - 29 Mawrth 2020, cyfanswm nifer y mewngofnodion i'r platfform dysgu ar-lein Hwb ar draws ysgolion Caerdydd oedd 213,273 gan gynnwys 161,802 mewngofnodiad gan fyfyrwyr. Mae hyn yn ychwanegol at ysgolion sy'n defnyddio eu llwyfannau eu hunain. 

Bydd cymorth yn parhau drwy'r Pasg i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer tymor yr haf, gyda'r nod o ddarparu addysg o safon uchel, drwy lu o sianeli digidol. 

 

'Rhoi bonllef o gymeradwyaeth i'n casglwyr gwastraff i ddiolch iddyn nhw'

Caiff casglwyr gwastraff Caerdydd eu clapio gan breswylwyr ddydd Gwener i ddangos gwerthfawrogiad am y gwasanaethau hanfodol maen nhw'n eu cyflawni yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19. 

Mae ymgyrch cyfryngau cymdeithasol wedi ei greu gan drigolion Rhiwbeina yn annog y gymuned i ddangos ei gwerthfawrogiad yfory drwy glapio'r staff casglu gwastraff wrth iddynt gasglu gwastraff o gartrefi trigolion. 

Mae'r neges y tu ôl i'r ymgyrch yn syml - 'Rhowch fonllef o gymeradwyaeth i'n casglwyr gwastraff i ddiolch iddyn nhw' 

Mae'r ymgyrch hon yn dilyn negeseuon gan drigolion ledled y ddinas yr wythnos hon i godi calon gweithwyr, ar ffurf nodiadau personol, siocled a melysion yn cael eu gadael i griwiau gwastraff, wrth iddynt gael gwared ar wastraff o strydoedd y ddinas.

 Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd yng Nghyngor Caerdydd: "Ar adegau fel hyn mae Caerdydd yn dod at ei gilydd ac mae'r cynhesrwydd a'r ymdeimlad o gymuned y mae'r ddinas yn enwog amdanyn nhw wir yn dod i'r amlwg. Mae'n wych ei weld. 

"Mae ein staff casglu gwastraff yn gwneud gwaith aruthrol mewn amgylchiadau heriol iawn. Mae ymateb y trigolion wedi bod yn rhagorol a hoffwn ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u rhoddion. Mae wir yn codi calon y criwiau.

 "Wrth i'r argyfwng hwn barhau mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gweithio gyda ni. Mae rhai pobl yn gofyn pam mae casgliadau gwastraff gardd wedi dod i ben a pham mae gofyn iddyn nhw ailgylchu os yw'r holl wastraff yn mynd i'r ganolfan Troi Gwastraff yn Ynni. 

"Wel, does dim modd derbyn gwastraff gardd yn y ffatri ac rydyn ni angen i bobl barhau i ailgylchu gan nad ydym am i'r ddinas dorri'r arfer sydd wedi ein gwneud yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd. A chi - y trigolion - sy'n gyfrifol am y llwyddiant hwnnw. Pan fydd hyn i gyd drosodd bydd y gwasanaethau arferol yn ailddechrau a gallwn oll fwrw ymlaen â'n cynllun i fod yn ddinas ailgylchu orau'r byd. 

"Mae'r camau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith yn ystod yr argyfwng yn angenrheidiol i sicrhau y gall casgliadau ymyl y ffordd barhau ac rydym wedi cyhoeddi atebion i lawer o'r cwestiynau mae'r cyhoedd wedi eu holi. 

[Gallwch eu darllen yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23517.html] 

"Er nad yw dyddiau casgliadau gwastraff wedi newid yn unrhyw un o ardaloedd y ddinas, rydym bellach yn codi gwastraff yn gynnar yn y bore, felly rydym yn gofyn i breswylwyr gyflwyno eu gwastraff i'w gasglu yn ddim cynharach na 4.30pm y diwrnod cyn ei gasglu a dim hwyrach na 6am ar y diwrnod casglu. 

"Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn symud y gwastraff o strydoedd y ddinas mor gyflym â phosibl yn ystod yr argyfwng parhaus hwn."