Back
Apêl frys am ofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yng Nghaerdydd


 2/4/20

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi apêl frys am ofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i ymuno â'r awdurdod a chwarae rhan hanfodol wrth helpu cymunedau drwy argyfwng coronafeirws (COVID-19).

 

Mae'r Cyngor yn ceisio recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol newydd cyn gynted â phosibl i helpu i sicrhau y darperir gofal a chymorth i bobl sy'n agored i niwed yng Nghaerdydd mewn cyfnod o alw dwys.

 

Mae'r awdurdod hefyd yn chwilio am fwy o weithwyr cymdeithasol i ymuno â thîm Gwaith Cymdeithasol Caerdydd ac yn awyddus i glywed gan ymarferwyr ar bob lefel, o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso i rai profiadol yn ogystal â rhai y mae eu cofrestriad gwaith cymdeithasol wedi darfod, ond sydd â diddordeb mewn dychwelyd i'r proffesiwn ar yr adeg yma.

 

Mae'r ymgyrch recriwtio hefyd yn cynnwys yr angen am fwy o weithwyr cymorth, gofalwyr yn y cartref a swyddogion gofal plant preswyl i ymuno â'r tîm a darparu gwasanaethau hanfodol ar draws y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal rôl hollbwysig i'w chwarae yn y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod y bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau yn derbyn gofal yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

"Mae angen i ni ddatblygu ein gweithlu yn y sector hwn ar frys er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir yn awr ac yn ystod y misoedd nesaf, felly rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae eu rhan yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn." 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore:   "Yn fwy nag erioed, mae angen penodol arnom i gael gweithwyr gofal, gweithwyr cymorth, swyddogion gofal plant preswyl a gweithwyr cymdeithasol ar bob lefel i ymuno â'n rhengoedd.

 

"Mae gennym ddiddordeb clywed gan unrhyw un y mae ei sefyllfa gyflogaeth wedi newid yn ddiweddar efallai, y rhai a allai fod yn ystyried gweithio mewn gofal a chyn-weithwyr cymdeithasol sydd â diddordeb mewn dychwelyd i'r proffesiwn.  Os mai chi yw'r person hwn ac rydych chi'n credu y gallwch chi gynnig eich gwasanaethau i'n helpu ni ar yr adeg yma, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae eich angen chi ar Gaerdydd"

 

I gael gwybod mwy am gyfleoedd presennol, ac i gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost atrecriwtiafi@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch 07725 741193.